´óÏó´«Ã½

Ymgyrch i berswadio lleiafrifoedd ethnig i gael brechlyn

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Masud Ahmad, 79, yn derbyn brechlyn mewn mosg yn BirminghamFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Masud Ahmad, 79, yn derbyn brechlyn mewn mosg yn Birmingham

Mae ymgyrch wedi dechrau i geisio cynyddu hyder ymhlith lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru i gymryd y brechlyn yn erbyn Covid 19.

Mae Cyngor Mwslemaidd Cymru'n dweud eu bod yn pryderu bod 'na ganran sylweddol o fewn cymunedau mwslemaidd yn amheus o'r brechlyn, wedi iddyn nhw ddechrau arolwg i geisio dod at wraidd y broblem.

Mae gwaith ymchwil ar gyfer rhaglen Bwrw Golwg ´óÏó´«Ã½ Radio Cymru wedi darganfod bod sawl mosg wedi cynnig ei hun fel canolfan frechu er mwyn ceisio annog mwy bobl i ddewis cymryd y frechlyn.

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud eu bod yn ystyried y mater.

Bydd arolwg Cyngor Mwslemaidd Cymru a Muslim Doctors Cymru ar agor am bythefnos arall.

O'r 227 sydd wedi ateb yr holiadur hyd yn hyn, mae 16% yn dweud eu bod yn ansicr am gymryd y brechlyn.

Mae 9.7% yn dweud yn bendant na fyddan nhw'n ei chymryd, a hynny er bod 39% yn dweud eu bod yn bryderus iawn am ddal Covid-19, a 34% yn dweud eu bod nhw rywfaint yn bryderus.

'Tawelu' ofnau

"Y prif beth sy'n pryderi pobl ydi'r effeithiau hir dymor a'r effaith ar ffrwythlondeb", meddai Dr Eemad Alauddin, meddyg teulu yn Nhrebiwt yng Nghaerdydd.

"Mae rhai'n pryderi am ganiatâd crefyddol i gymryd y brechlyn, ond mae llawer o ysgolheigion wedi dweud nad oes dim i boeni yn ei gylch, felly mae hynny wedi tawelu."

Mae 30% o'r boblogaeth yn Nhrebiwt yn ddu, neu o hil cymysg neu leiafrif ethnig.

"Yn y feddygfa yma, mae ganddon ni gleifion sydd wedi bod yn ansicr am y brechlyn, ry'n ni wedi trafod eu pryderon ac o ganlyniad maen nhw wedi dod mewn i'w chymryd hi", meddai Dr Alauddin.

Rhai o'r bobl sydd fwyaf tebygol o fod yn amheus o gymryd y frechlyn yn ôl Cyngor Mwslemaidd Cymru yw mewnfudwyr o'r genhedlaeth gyntaf, sydd efallai heb sgiliau Saesneg cryf, ac eraill sydd wedi cael profiadau gwael o'r system iechyd yng Nghymru yn y gorffennol.

Disgrifiad o’r llun,

Mae ofnau am effeithiau tymor hir, caniatâd crefyddol a'r effaith ar ffrwythlondeb ymhlith y pryderon sydd wedi cael eu lleisio wrth y meddyg teulu Dr Eemad Aluddin

Mae'r Imam Mirazam Khan o Gyngor Mwslemaidd Cymru yn dweud bod cael cyngor gan feddygon sy'n siarad eu mamiaith yn helpu cleifion deimlo yn ddiogel,

"Fel ti'n dod o Gymru ac yn clywed rhywun sy'n siarad Cymraeg ti'n teimlo'n gyfforddus efo nhw, ond yr un peth efo pa bynnag iaith - Bengali, Pashto, Urdu, mae o yr un peth.

"Os oes 'na rhwle ma nhw'n medru mynd i siarad efo doctor yn eu hiaith nhw eu hunain, mae'n ddarn pwysig yn hwn i neud yn siŵr bod pobl yn gwybod beth maen nhw'n ei gymryd, sut i'w gymryd o a beth i'w wneud wedyn."

Mae Imam Mirazam hefyd yn pryderu bod pobl yn darllen cam-wybodaeth a newyddion ffug ar y we.

"Beth sy'n digwydd ydi bod pobl yn eistedd adre yn edrych ar y social media a'r conspiracy theories a chynllwynion a mae o'n stopio nhw rhag mynd allan… Ond unwaith mae'r mosg yn ail agor mae'n rhoi amser i ni siarad efo nhw ac ma hynna'n helpu."

Mae Muslim Doctors Cymru wedi dechrau rhannu fideos arlein i geisio chwalu unrhyw gam-wybodaeth am y brechlyn.

Mewn un fideo ar wefan Facebook, mae lluniau o Mansoora Hassan, 78, sydd newydd gael ei brechu yn erbyn Covid-19 mewn canolfan yng Nghasnewydd.

Yn ei mamiaith, Punjabi, mae'n sicrhau ei chyd-siaradwyr ei bod hi'n teimlo'n dda ar ôl cael y brechlyn ac mae'n annog pawb arall i wneud yr un fath.

Tensiwn yn bodoli

Yn Birmingham, mae'r awdurdod iechyd lleol wedi sefydlu canolfan frechu ym mosg Al Abbas.

Yn ôl Norah Malik, 60, sydd o Ogledd Cymru'n wreiddiol ond sydd bellach yn rhan o'r gymuned Fwslemaidd yno, mae gan fosgs rôl bwysig wrth gynyddu hyder pobl yn y brechlyn,

"Dwi'n meddwl ma nhw'n ceisio dileu y camddealltwriaeth sy'n bodoli mewn rhai cymunedau. Mae 'na densiwn rhwng cadw at beth mae crefydd yn ei ddysgu a iechyd cyhoeddus a chadw cymunedau yn iach."

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y brechlyn Oxford-AstraZeneca ei ddosbarthu i bobl yn y gymuned fwslemaidd yn Birmingham yn nghanolfan Islamaidd Al-Abbas

"Dwi'n meddwl mae'r mosg yn rhan o'r gymuned ac yn lle pwysig iawn i gyrraedd ac ymestyn allan i'r cymunedau a dan ni'n gwybod bod beth mae'r Mosgs a'r Imams yn ei ddeud yn cael ei gymryd o ddifri gan lot o bobl, felly mae gynnon nhw le pwysig iawn yn rhai o'r cymunedau yma."

Mae Norah nawr yn ceisio perswadio ei gwr hi, sydd yn wreiddiol o Lahore yn Pacistan, i gymryd y brechlyn gan bod Diabetes arno.

"Mae 'na lot i feddwl amdano fo - mae cadw'n iach ac edrych ar ôl ein cyrff yn rhan bwysig o Islam. Dwi'n trio annog o i'w gael o achos ma gynno fo diabetes, mae o yn un o'r grwpiau bregus."

Gyda 46 mil o fwslemiaid yn byw yng Nghymru - a 40 mosg ar draws y wlad - mae sawl un wedi cynnig i'r awdurdodau lleol sefydlu canolfannau brechu yno ac yn aros am ymateb.

Un o'r rheiny yw mosg Dar-ul Isra yn Cathays yng Nghaerdydd.

Mae Cyngor Mwslemaidd Cymru'n dweud y byddan nhw'n dal ati i gynnal sesiynau gwybodaeth a chwestiwn ac ateb dros y we i helpu lleddfu unrhyw bryderon.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Mosg yma yng Nghaerdydd wedi cynnig eu hadeilad i'r awdurdod lleol er mwyn cynnal canolfan frechu yno

Maen nhw a Muslim Doctors Cymru yn sicr y bydd y gymuned fwslemaidd yn ymateb yn well o glywed negeseuon am ddiogelwch y frechlyn gan eraill o fewn yr un cymuned.

Maen nhw'n annog unrhyw un sydd heb lenwi'r holiadur eto i wneud hynny dros y pythefnos nesaf.

Wedi i bobl o gefndiroedd ethnig ddioddef yn anghymesur yn ystod y pandemig, mae'n fater pwysig tu hwnt o fewn y cymunedau lleiafrifol a thu hwnt.

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod nhw'n cadw golwg fanwl ar faint o bobl o gefndiroedd ethnig sy'n cymryd y brechlyn - ac yn ceisio taclo cam-wybodaeth.

Maen nhw hefyd yn dweud eu bod nhw'n ystyried defnyddio mosgs ac addoldai eraill fel canolfannau brechu i'w gwneud hi'n haws i bobl gymryd y brechlyn.

Mae'r stori i'w chlywed yn llawn ar Bwrw Golwg am 12.30 ddydd Sul.

Pynciau cysylltiedig