Pencampwriaeth y 6 Gwlad: Cymru 21-16 Iwerddon

Ffynhonnell y llun, David Rogers

Disgrifiad o'r llun, Cafodd Louis Rees-Zammit un o ddau gais Cymru mewn g锚m oedd yn llawn camgymeriadau gan y crysau cochion

Cafodd Cymru'r dechrau gorau i'w hymgyrch ym mhencampwriaeth y Chwe Gwlad wedi iddyn nhw drechu Iwerddon mewn gornest agos yn Stadiwm y Principality.

Fe chwaraeodd y Gwyddelod y mwyafrif o'r g锚m gydag 14 dyn ar 么l i'w blaenasgellwr Peter O'Mahony gael ei hel o'r maes yn y chwarter awr cyntaf.

Ni wnaeth y Cymry bethau'n hawdd iddyn nhw'u hunain o gwbl, ond fe fydd y fuddugoliaeth yn tynnu tipyn o'r pwysau oddi ar yr hyfforddwr Wayne Pivac a'i d卯m sydd wedi bod dan y lach yn dilyn perfformiadau diweddar y crysau cochion.

Mae Cymru felly yn ail yn nhabl y bencampwriaeth, y tu 么l i Ffrainc a drechodd yr Eidal brynhawn Sadwrn.

Cerdyn coch

Wedi llai na phum munud o chwarae yn y stadiwm wag dyma Leigh Halfpenny yn llwyddo a chic gosb i setlo nerfau Cymru, gan roi'r t卯m cartref ar y blaen.

Ond yn fuan wedyn daeth ymddangosiad cyntaf y blaenasgellwr Dan Lydiate ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad ers pum mlynedd i ben, wedi iddo droi ei ben-glin yn lletchwith mewn tacl, gyda Josh Navidi yn dod oddi ar y fainc i gymryd ei le.

Ac fe allai'r g锚m fod wedi cael ei throi ar ei phen ar 么l i Peter O'Mahony weld cerdyn coch wedi 13 munud am chwarae brwnt, yn llygaid y dyfarnwr Wayne Barnes, yn erbyn prop Cymru, Tomas Francis.

Fe ymestynnodd Cymru eu mantais yn fuan wedi hynny, diolch i gic gosb llwyddiannus arall o droed Halfpenny.

Ond fe wnaeth capten y Gwyddelod, Jonny Sexton, unioni'r sg么r chwe munud cyn yr egwyl yn dilyn dau gamgymeriad gan Gymru.

Roedd lein Cymru'n sigledig dro ar 么l tro, ac ar 么l methu a chlirio unwaith eto daeth cais i'r ymwelwyr, gyda Robbie Henshaw yn rhoi'r Gwyddelod ar y blaen, a Sexton yn sicrhau'r pwyntiau llawn.

Ffynhonnell y llun, GEOFF CADDICK

Disgrifiad o'r llun, Roedd Dan Lydiate yn anffodus i gael ei anafu ar ei ymddangosiad cyntaf yn y bencampwriaeth ers pum mlynedd

Wedi'r hanner parhau wnaeth trafferthion Cymru wrth i'r momentwm barhau gydag Iwerddon.

Fe newidiodd hynny rhyw fymryn wrth i George North groesi am gais cyntaf Cymru, ond fe arhosodd y crysau cochion er ei h么l hi wedi i ymgais Halfpenny am drosiad wyro i'r dde o'r postyn.

Er i'r Gwyddelod weithio'u ffordd yn ddestlus drwy'r cymalau, fe ddechreuodd Cymru bwyso o'r newydd, gyda sgarmes symudol a chydweithio agos, a'r gwaith caled yn talu ar ei ganfed wrth i Louis Rees- Zammit ddeifio i'r gornel, gan sicrhau ei ail gais dros ei wlad, a phum pwynt pwysig i Gymru.

Fe lwyddodd Halfpenny i drosi'n llwyddiannus y tro hwn.

Gyda momentwm tu 么l iddyn nhw daeth cic gosb arall i Gymru, gan ymestyn eu mantais dros y Gwyddelod, a oedd yn dechrau blino.

Ac fe bendiliodd y momentwm yn 么l o blaid Iwerddon, gyda Billy Burns yn sicrhau tri phwynt i'r Gwyddelod wedi camgymeriad arall gan Gymru.

Ond fe gafodd y maswr y diweddglo mwyaf anffodus wrth i'r ymwelwyr bwyso i gael cais. Fe giciodd y b锚l oddi ar y cae mewn camgymeriad, gan olygu nad oedd Iwerddon yn gallu manteisio'n llawn ar gamgymeriad unwaith eto gan y t卯m cartref.

Bydd Cymru'n chwarae yn yr Alban brynhawn Sadwrn nesaf, gyda'r Albanwyr hefyd yn awchu am y teitl eleni ar 么l trechu Lloegr ddoe.