S锚r Hollywood yn cwblhau pryniant Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Daeth cadarnhad yn hwyr nos Fawrth fod dau o enwogion Hollywood Rob McElhenney a Ryan Reynolds wedi cwblhau eu pryniant o glwb P锚l Droed Wrecsam.
Mae'r ddau wedi buddsoddi 拢2m yn y clwb sy'n chwarae yng Nghynghrair Cenedlaethol Lloegr.
Ymhlith eu blaenoriaethau mae cynlluniau i hyrwyddo p锚l-droed merched yn yr ardal.
"Mae'n ddiwrnod arbennig i'r ddau ohonom, i gael dod yn ofalwyr yn hanes hir clwb p锚l-droed Wrecsam," meddai Reynolds a McElhenney.
Dywedodd Cledwyn Ashford, sy'n gweithio gydag ieuenctid clwb y Cae Ras, ar raglen Dros Frecwast Radio Cymru bydd y newyddion yn denu mwy i ymuno 芒'r clwb.
"Maen nhw wedi mynd mewn at y gymuned yn barod mae nhw wedi rhoi arian at achosion da yn yr ardal.
"I fod yn deg, dwi meddwl bod nhw yma fel mae'r Sais yn dweud " long term" - ac mae hynna yn beth cyffrous ofnadwy yndydi."
Caniat谩u cynnwys Twitter?
Mae鈥檙 erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniat芒d cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae鈥檔 bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch 鈥榙erbyn a pharhau鈥.
Roedd y ddau seren eisoes wedi rhoi arian ychwanegol i'r clwb er mwyn cryfhau'r garfan yn ystod ffenest drosglwyddo Ionawr.
Fe wnaeth aelodau o ymddiriedolaeth cefnogwyr y clwb bleidleisio o blaid y dd锚l ym mis Tachwedd.
Ond bu'n rhaid aros am s锚l bendith Awdurdod Ymddygiad Ariannol ddydd Gwener ddiwethaf cyn bod modd cwblhau'r cytundeb.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Chwefror 2021
- Cyhoeddwyd29 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd25 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd16 Tachwedd 2020