大象传媒

Ateb y Galw: Yr hyfforddwr a chyflwynydd Jason Edwards

  • Cyhoeddwyd
Jason EdwardsFfynhonnell y llun, Jason Edwards

Y hyfforddwr a chyflwynydd Jason Edwards sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma ar 么l iddo gael ei enwebu gan Gareth yr Orangutan yr wythnos diwethaf.

Mae Jason yn wreiddiol o Gaerwen, Ynys M么n, ond bellach yn byw yn Pittsburgh, yn yr Unol Daleithiau, ac yn hyfforddwr p锚l-droed proffesiynol. Mae'n cyfrannu'n gyson i Hansh, wedi serennu ar raglen Trump, America a Ni, a chyflwyno'r podlediad Hollt ar y cyd 芒'r newyddiadurwraig Maxine Hughes.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Atgof cyntaf? Dwi'm yn cofio be' ddigwyddodd ddoe...

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Oc锚, dwin gog, caru Sir F么n... fy hoff le ydi o dan Pont Menai, ma 'na stepan bach, neu garreg ar goll ar ddiwedd y gwair. Os 'di'r llanw allan digon ti'n gallu eistedd yna. Wedi gwario ambell awr yn gwylio cymyla' yn mynd heibio a gwrthod derbyn bod gen i gyfrifoldebau.

Pwy oeddet ti'n ei ffans茂o pan yn iau?

O'n i r锚l boi a cymryd ffansi at genod Eden. Dim ots pa un o'r dair. O'n i hefo poster a bob dim!

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y bythol-ifanc a hyfryd Eden - Rachael, Non ac Emma

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Dwi lot rhy gymhleth i dri gair ond 'na i drio. Unigryw, digri a... difyr?

Beth yw dy hoff g芒n a pham?

Calon L芒n. Fel 'na dwi'n trio byw bywyd fi, yn ddiolchgar am bob dydd a gwybod dwi'n gyfoethog jest yn anadlu.

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Unwaith 'nath y ferch hynaf chwydu drosta fi gyd mewn bwyty Chipotle...

Pryd oedd y tro diwethaf i ti gr茂o?

Header Gini Wijnaldum yn erbyn Barcelona! O'n i mewn hysterics, a'r wraig yn lloerig yn gweld fi'n crio! Neshi'm crio pan gafodd fy merch ei geni so o'dd Gini yn bangio un mewn o flaen o Kop yn big deal, 'chan!

Ffynhonnell y llun, Alex Livesey - Danehouse
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cyfrannodd peniad Wijnaldum, ac yna ail g么l ganddo, at fuddugoliaeth Lerpwl dros Barcelona yn y Champions League ym mis Mai 2019

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Y ffaith ydi, dwi ddim yn cofio y noson ora' erioed, felly y noson ora' erioed dwi'n cofio ydi... Dinas Bangor yn rhoi clec i TNS yn Ffarar Road i guro'r Welsh Prem.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Cnoi gwinadd fflat owt!

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Jyst chillaxio hefo'r teulu a ffrindia', cael bwyd da, drinc a chofio'r diwrnodau gora'.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?

Barack Obama neu Robin Williams, ella dim peint ond dwi hefo lot o gwestiyna'!

O archif Ateb y Galw:

Dyweda rhywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Dwi hefo birthmark ar boch pen-么l fi!

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Ryan Giggs, gimme a go ar hyfforddi Cymru.

Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?

Wel dwi'n ffan o unrhyw bodlediad dwi rhan ohoni - Hollt: Ein America Ni (shamless plug).

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Jason wedi cydgyflwyno'r rhaglen deledu - Trump, America a Ni - a'r phodlediad gyda'r newyddiadurwr Maxine Hughes

Ond os dwi'm yn cael dewis fi fy hun, rhaglen Sam T芒n. Ma' fi a Sam go way back. Fo ydi'r gora. Ddim yn cytuno? Fight me!

Cwrs cyntaf, prif gwrs a pwdin - beth fyddai'r dewis?

Dwn'im pam ond dwi wrth fy modd hefo Caesar salad fel cwrs cyntaf, neu sweet chilli pulled pork nachos!

Fel prif gwrs, ma' Mam yn gneud uffar o ginio ar Ddydd G诺yl San Steffan. Rhost Dydd Sul hefo cig oen, b卯ff a porc i gyd ar un pl芒t! S么n am food coma, 'chan!

Pwdin - Viennetta, 'sna byth ddiwrnod lle ma 'na ormod o Viennetta.

Pwy wyt ti'n ei enwebu?

Ameer Davies-Rana

Y gorau o Gymru ar flaenau dy fysedd

Lawrlwytha ap 大象传媒 Cymru Fyw