大象传媒

Galw am fywyd newydd i goleg 'unigryw' Harlech wedi Covid-19

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Coleg Harlech
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bu Coleg Harlech yn weithredol am 90 mlynedd rhwng 1927 a 2017

Mae galwadau ar i'r llywodraeth brynu hen goleg yng Ngwynedd a'i ddefnyddio i ail-hyfforddi pobl sy'n ddi-waith yn sgil y pandemig.

Byddai gan Goleg Harlech yr "holl ofynion angenrheidiol" er mwyn datblygu "sgiliau ymarferol, technegol a phroffesiynol", yn 么l deiseb gafodd ei ddechrau gan Sian Ifan o Flaenau Ffestiniog.

Bu'r coleg yn cynnig addysg i oedolion am ddegawdau, ond yn dilyn trafferthion ariannol, aeth y safle i ddwylo preifat.

Gan fod dros 5,000 o lofnodion fe fydd y ddeiseb yn cael ei thrafod gan y pwyllgor deisebau, ond mae angen 10,000 llofnod cyn cael ei thrafod ar lawr y Senedd.

Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai'n ymateb i'r ddeiseb maes o law.

'Ail-adeiladu cenhedloedd ac econom茂au'

Cafodd Coleg Harlech ei sefydlu yn 1927, gan gynnig addysg i oedolion ar safle breswyl.

Daeth yn adnabyddus fel coleg i bobl o gefndir dosbarth gweithiol, oedd yn rhoi cyfle i bobl ail-hyfforddi fel oedolion.

Dywedodd Sian Ifan, cyn-fyfyrwraig yn Harlech, bod y coleg yn "agos iawn at fy nghalon".

"O'dd pobl o'dd ddim wedi cal y cyfle cynta', yn cal y cyfle i astudio am diploma - a wedyn mynd ymlaen i addysg uwch.

"Mae'n adeilad unigryw, arbennig, yr unig goleg yng Nghymru oedd yn cynnig y math yna o addysg i'r dosbarth gweithiol - mae'n anhygoel bod nhw 'di gwerthu."

Ffynhonnell y llun, Peter Humphreys/Geograph

Mae'r ddeiseb i'r llywodraeth yn dweud y bydd angen "ail-adeiladu cenhedloedd ac econom茂au" yn sgil pandemig Covid-19, ac y gallai'r coleg gynnig cyfleoedd o'r fath "os caiff... ei adnewyddu i'w hen ogoniant".

Mae sawl adeilad ar y safle, yn cynnwys theatr, llyfrgell ac ystafelloedd darlithio.

Mae'n galw ar i'r llywodraeth brynu'r "trysor cenedlaethol Cymreig sydd yn y broses o gael ei ddatgymalu a'i werthu fesul adeilad i'r cynigydd uchaf er mwyn ei ddatblygu".

"Bydd y byd ar 么l Covid-19 yn hollol wahanol i'r byd cyn Covid-19 yr oeddem yn gyfarwydd ag ef," meddai'r ddeiseb.

"Mae synnwyr cyffredin yn dweud y bydd angen yr holl offer posibl, a hynny'n offer dynol ac offer adeiladu, er mwyn ailadeiladu cenhedloedd a'u heconom茂au."

'Fydd 'na ddim byd ar 么l'

Dywedodd Sian Ifan ei bod wedi dechrau'r ddeiseb am bod "gymaint o bethe'n diflannu does, adeiladau urddasol, gwestai, tai - mae'n oreit siarad trwy'r adeg, Facebook ac ati, ond os nad wyt ti'n mynd i 'neud r'wbeth, fydd 'na ddim byd yn newid - fydd 'na ddim byd ar 么l."

Dywedodd bod "cyfle fan hyn i gadw adeilad yn nwylo Cymru, a 'neud r'wbeth 'efo fo".

Ychwanegodd bod y ddeiseb wedi ei dechrau pan roedd angen 5,000 o lofnodion i sicrhau trafodaeth ar lawr y Senedd.

Ond gan fod y trothwy wedi codi fel rhan o newid polisi, mae angen 10,000 o lofnodion bellach.

"Dydy o ddim yn deg, 'da ni wedi dechre, felly dydy hi ddim yn deg i newid y goalposts rwan", meddai.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn ymwybodol o'r ddeiseb ac, fel gyda phob deiseb sydd yn cael ei chofrestru gyda'r Senedd, byddwn yn ymateb pan gaiff ei chyfeirio at Lywodraeth Cymru gan y Pwyllgor."

Cyfle i bobl 'wella eu hunain'

Bu'r nofelydd Elgan Philip Davies yn fyfyriwr yn y coleg rhwng 1973 a 1975.

Dywedodd fod "cymdeithas fach gl贸s" yno, ac ei fod wedi dychwelyd i'r byd gwaith gyda chymwysterau na fyddai wedi bod ar gael iddo fel arall.

"Roedd y coleg yn bwysig i fi ond yn bwysig i hanes Cymru hefyd am ei fod yn rhoi'r cyfle i bobl gael addysg yn hwyrach," meddai Mr Davies, sy'n byw yn Bow Street.

"Roedd yn rhoi cyfle i bobl oedd yn ei chael hi'n anodd i wella eu hunain - ac mae angen hynny heddiw o hyd.

"Dwi'n meddwl mai'r bwriad fyddai gwneud rhywbeth o'r adeilad - dim ailagor y coleg yn union fel yr oedd - ond gwneud defnydd o'r cyfleusterau yno fydd o fudd i'r gymdeithas."

dywedodd cyn-fyfyriwr arall yn y coleg, Padi Phillips, fod y coleg wedi bod "yr un mor bwysig i Harlech ag yr oedd y Llyfrgell Genedlaethol i Aberystwyth".

Yn gynharach yn y mis, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru becyn ariannol gwerth 拢2.25m i "ddiogelu swyddi" yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Daeth hyn yn dilyn deiseb a phwysau gwleidyddol ar y dirprwy weinidog dros ddiwylliant, chwaraeon a thwristiaeth, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas - sydd ei hun yn gyn-ddarlithydd yng Ngholeg Harlech.

Pynciau cysylltiedig