Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Trais yn y cartref: Pwy all fod yn dyst yn ystod pandemig?
Mae ymchwil ar droed i ddarganfod a ydy gweithwyr danfon parseli'n dyst i drais yn y cartref yn ystod y pandemig, a sut gallen nhw helpu.
O ganlyniad i'r cyfnodau clo, mae pryderon wedi codi fod trais domestig yn bandemig ynddo'i hun bellach.
Yn 么l Uned Atal Trais Cymru mae angen i drais domestig "fod yn fusnes i bawb".
Fe allai cydweithwyr sy'n rhan o'r un cyfarfodydd ar-lein helpu dioddefwyr, yn 么l yr uned ac arbenigwyr iechyd cyhoeddus eraill, ac fe allai gyrwyr hefyd fod yn dyst i gamdriniaeth.
'Angen newid agweddau'
Mae pobl yn aml yn gyndyn o ymyrryd "ym musnes preifat pobl", medd Jo Hopkins, cyfarwyddwr rhaglen atal trais Iechyd Cyhoeddus Cymru, "neu'n poeni y byddai gwneud rhywbeth yn gwaethygu'r sefyllfa, neu'n rhoi eu hunain mewn perygl".
"Felly mae angen newid agweddau. Rydym yn awyddus i ddeall yn well yr hyn mae angen i ni wneud, fel bod pobl yn deall bod trais domestig yn fusnes i bawb."
Yr wythnos hon mae arolwg dienw wedi'i lansio ar gyfer rheiny sydd wedi gweld, neu'n amau iddyn nhw weld, trais yn y cartref.
Bydd yn gofyn beth sydd wedi atal pobl rhag helpu, a beth sy'n angenrheidiol i fwy o bobl weithredu.
"Dydyn ni ddim o reidrwydd yn s么n am ymyriadau enfawr," medd Ms Hopkins.
Dywedodd y gall unrhyw un ffonio'r llinell gymorth Byw Heb Ofn os ydyn nhw'n poeni ynghylch rhywun maen nhw'n ei 'nabod.
"Ond os ydy rhywun yn cymryd y cam hwnnw ac yn gofyn am help, mae wir angen i'r ymateb fod yn briodol," ychwanegodd.
Bydd rhan o'r gwaith yn ystyried tybiaethau ynghylch beth yn union yw trais domestig, a phwy mae'n ei effeithio.
"Mewn gwirionedd, mae'n ymwneud 芒 deall y gall hyn ddigwydd i unrhyw un," medd Ms Hopkins.
Gofod diogel
Mae Debanjali Bhattercharjee yn llysgennad prosiect Gofyn i Mi elusen Cymorth I Ferched Cymru.
Dywedodd: "Mae'r ystadegau'n dweud bod hyd at 35 o ddigwyddiadau cyn i berson ddatgelu [eu bod yn dioddef] trais domestig.
"Felly os ydy rhywun yn meddwl, 'dwi'n meddwl galla'i ymddiried yn y person yma' mae'n hanfodol bod yr ymateb cyntaf yn briodol.
"Os ydyn ni'n darparu gofod diogel - gofod gyda pharch a heb fod yn feirniadol - a'u cyfeirio'n briodol, gallai hynny fod y gwahaniaeth i berson rhwng mynd trwy brofiad trawmatig neu ddod trwyddi.
"Dydyn ni ddim yn gwybod beth sy'n digwydd tu 么l i ddrysau cae毛dig, ond gallwn ni gyd gadw golwg ar beth sy'n digwydd tu allan i 'nrws, ffenestr neu ardd gefn a gwneud rhywbeth yn ei gylch."