Gobaith y bydd ap arwyddo Cymraeg ar gael flwyddyn nesaf

Disgrifiad o'r llun, 'Does 'na ddim byd ar gyfer pobl sy' isho dysgu arwyddo drwy gyfrwng y Gymraeg,' medd Lois Wyn Hughes
  • Awdur, Nia Cerys
  • Swydd, Newyddion 大象传媒 Cymru

Mae 'na lawer o apiau yn bodoli yn barod i ddysgu iaith arwyddo BSL, ond dim un hyd yma yn defnyddio si芒p ceg yn benodol ar gyfer y Gymraeg.

Yn ystod y cyfnodau clo, mae Lois Wyn Hughes wedi creu fideos arwyddo ar gyfer disgyblion Ysgol Tryfan ym Mangor, lle mae hi'n gymhorthydd.

Wedi'i sbarduno gan yr ymateb cadarnhaol, mae hi r诺an eisiau creu ap arwyddo Cymraeg.

"Ma' BSL (British Sign Language) yn iaith yn ei hun a 'dwi'm yn trio newid hwnnw o gwbl," meddai wrth Cymru Fyw.

"Be' dwi'n trio 'neud ydy g'neud o'n fwy o 'sign supported Welsh', lle ma' si芒p y geg yn cyd-fynd efo'r arwydd ond bod y si芒p yn Gymraeg.

"Does 'na ddim byd ar gyfer pobl sy' isho dysgu arwyddo drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae o fel gorfod mynd o Gymraeg i Saesneg i iaith arwyddo, felly mae 'na dair iaith wahanol yn mynd rownd yn y pen.

"Dwi'n gobeithio bydd yr ap yn gallu cael ei ddefnyddio fel rhyw fath o eiriadur bach ar y ff么n.

"Fydda' i'n cychwyn efo 'chydig o gategor茂au gwahanol, fel cyfarchion, teimladau, pynciau addysgol a wedyn bod 'na le i chwilio am air hefyd.

"Felly os 'da chi'n siarad efo rywun byddar ac isho gw'bod be' ydy gair penodol, fasa chi'n gallu sbio ar yr ap amdano fo."

Anodd darllen gwefusau gyda mwgwd

Mae'r pandemig wedi achosi sawl problem i bobl sy'n colli eu clyw neu'n fyddar gyda mygydau wyneb, os nad ydyn nhw'n rhai clir, yn ei gwneud hi'n amhosib darllen gwefusau.

Mae 'na dros 575,000 o bobl yng Nghymru gyda phroblemau clyw, yn 么l elusen RNID (Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Fyddar a Thrwm eu Clyw), sy'n pryderu y gallai nifer fod yn teimlo'n fwy ynysig oherwydd Covid.

Ar y llaw arall, mae rhai fel Lois yn teimlo bod 'na ddiddordeb cynyddol mewn arwyddo a nifer yn manteisio ar fwy o amser sb芒r i ddysgu sgil newydd.

"Dwi'n meddwl bod o 'di bod mor anhygoel faint o bobl sydd yn dangos diddordeb mewn arwyddo," meddai.

"Mae 'na blant yn yr ysgol pan ddaethon ni n么l ar 么l gwyliau'r haf 'di dod ata fi a d'eud bod nhw 'di dysgu a gofyn oeddan nhw'n g'neud o'n iawn.

"O'dd 'na gyrsiau'n cael eu cynnig am ddim ar y we hefyd dros y cyfnod clo i helpu pobl i drio dysgu mwy o arwyddo."

Disgrifiad o'r llun, 'Ma arwyddo mor bwysig i fi,' medd Nel (chwith), yma gyda'i mam Iona Rhys

Yn fyddar ers ei geni, mae Nel yn ddisgybl yn Ysgol Tryfan a Lois yn gymhorthydd iddi.

Dywedodd Nel: "Pan ti'n siarad Cymraeg ti'n gorfod meddwl am gyfieithu 'n么l a 'mlaen. 'Nes i ddechra' dysgu arwyddo a mae o 'di helpu fi oherwydd bod hi'n haws dallt be' ma' pobl yn dd'eud.

"Hefyd, weithiau mae'n anodd clywed achos s诺n cefndir neu ma' nhw'n blocio'u ceg wrth siarad. Ma' arwyddo yn bwysig ofnadwy i fi."

Yn 么l mam Nel, Iona Rhys, mae 'na alw am fwy o adnoddau arwyddo yn y Gymraeg.

"Does 'na ddim llawer o adnoddau o gwbl ar gael drwy'r Gymraeg efo iaith arwyddo," meddai.

"Ma' nhw'n dueddol o 'neud o'n Saesneg. Si芒p y geg sy'n bwysig, felly i gael r'wbath yn Gymraeg mae'n wych."

Disgrifiad o'r llun, 'Mae diddordeb cynyddol wedi bod mewn arwyddo,' medd Lois Wyn Hughes sy'n gymhorthydd yn Ysgol Tryfan

Er bod Lois Wyn Hughes yn cael cefnogaeth cynllun Llwyddo'n Lleol, sy'n helpu pobl ifanc i aros yn eu hardaloedd, mae hi angen mwy o help technolegol ac ariannol r诺an.

Os daw hynny, mae'n gobeithio lansio'r ap arwyddo o fewn y flwyddyn.