大象传媒

Rhai o blant ieuengaf Cymru yn dychwelyd i'r ysgol

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Lisa Freeman a'i mab EthanFfynhonnell y llun, Lisa Freeman
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywed Lisa Freeman bod dysgu adref wedi bod yn anodd i'w mab, Ethan

Bydd plant ieuengaf Cymru'n dechrau dychwelyd i'r ystafell ddosbarth ddydd Llun, fel rhan o'r camau cyntaf i ailagor ysgolion.

Mae'r rhan fwyaf o ddisgyblion wedi bod yn dysgu o bell ers mis Rhagfyr ar 么l cynnydd sydyn yn achosion Covid.

Bydd disgyblion y Cyfnod Sylfaen, sef plant rhwng tair a saith oed, yn dechrau dychwelyd i ddysgu wyneb yn wyneb bob yn dipyn, ynghyd 芒 rhai myfyrwyr ar gyrsiau ymarferol mewn colegau.

Ymhlith y rhai sy'n falch bod ei phlentyn yn cael dychwelyd mae Sarah Rees o Donpentre yn Rhondda Cynon Taf. Mae hi'n fam i Nora, pedair oed - yr hynaf o dri o blant.

Disgrifiad,

"Bydd mynd n么l i'r ysgol yn help mawr"

'Nerfus iawn'

Bydd mab Lisa Freeman, Ethan, 4, yn dychwelyd i'w ddosbarth yn Ysgol Gynradd Gymraeg Hamadryad yng Nghaerdydd ddydd Llun.

"Mae e'n nerfus iawn," meddai.

"Dyw e ddim yn siarad rhyw lawer amdano. Mae wedi cael trafferth gyda'r gwersi ar-lein. Rwy'n credu fel plentyn pedair oed, mae eistedd y tu 么l i sgrin gyfrifiadurol wedi bod yn anodd iawn iddo fe. Doedd e ddim yn ymgysylltu cymaint ag y bydden ni wedi hoffi iddo."

Dywedodd Ms Freeman mai ei phryder mwyaf nawr oedd y posibilrwydd o gau rhagor o ysgolion.

"Rwy'n gobeithio nad yw hyn yn digwydd eto, mae wedi effeithio arno'n fawr," meddai.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

'Mae'n bryd i Matthew fynd yn 么l i'r ysgol o safbwynt cymdeithasol,' medd ei fam Catrin Rees

Mae mab Catrin Rees, Matthew, 7 oed yn dychwelyd i'r ysgol ddydd Mercher.

Mae Catrin yn dweud ei bod yn edrych ymlaen iddo fod n么l yn yr ystafell ddosbarth.

"Dwi'n dishgwl 'mlan iddo fe fynd n么l, ma fe'n unig blentyn ac o safbwynt cymdeithasol ma ishe iddo fe gymysgu gyda rhywun arall heblaw am fi a'i dad," meddai.

Ychwanegodd Catrin, sy'n athrawes gyflenwi, bod dysgu o bell yn ystod y cyfnod clo wedi bod yn heriol.

"Mae plant yn fwy tebygol o wneud pethau yn yr ysgol - ma' nhw'n gweld eu ffrindiau'n cyflawni pethe ac mae rhinweddau y plant yn rhwto off ar ei gilydd."

'Digon o fesurau diogelwch'

Yn 么l pennaeth Ysgol Hamadryad, Rhian Carbis, bydd disgyblion yn cyrraedd fesul cam drwy gydol yr wythnos.

"Mae gennym hanner y flwyddyn dderbyn yn dod i mewn ddydd Llun a bydd yr hanner arall i mewn ddydd Mawrth ac erbyn dydd Gwener bydd pob disgybl o oedran meithrin i flwyddyn 2 yn 么l ac unwaith maen nhw'n 么l - maen nhw'n 么l," meddai.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r plant wedi arfer defnyddio'r 'hylif hud', medd Rhian Carbis, pennaeth Ysgol Hamadryad

Dywedodd Mrs Carbis ei bod yn gobeithio y byddai plant yn barod iawn i ddychwelyd, gan fod llawer o fesurau diogelu wedi bod ar waith yn yr ysgol ers mis Medi.

"Daeth y plant i arfer 芒 defnyddio glanweithyddion dwylo," meddai.

"Fe'i galwyd yn 'hylif hud' yn yr ysgol ac roedd llawer o'r plentyn yn parhau i'w alw'n hylif hud gyda'u rhieni drwy'r haf."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fydd plant rhai ysgolion ddim yn mynd yn 么l tan yn hwyrach oherwydd cyfraddau uchel o Covid yn yr ardal

Mae'r plant rhwng tair a saith oed wedi cael eu blaenoriaethu i ddychwelyd i'r ysgol yn sgil tystiolaeth bod Covid yn lledaenu'n llai cyflym yn eu plith. Dyma'r garfan hefyd sy'n gallu bod yn anoddach i'w haddysgu o bell.

Mae ysgolion cynradd mewn rhai rhannau o'r gogledd wedi dweud na fydd plant yn dychwelyd tan ychydig yn ddiweddarach ar 么l pryderon am gyfraddau uwch o'r haint yn y gymuned.

Mae'r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, wedi dweud y bydd yr adolygiad nesaf yn ystyried a fydd disgyblion h欧n - sydd mewn blynyddoedd arholiadau 11 a 13 - yn cael dychwelyd a hefyd myfyrwyr sy'n gwneud cymwysterau tebyg yn y coleg.

Yn ogystal mi fydd grwpiau blwyddyn ysgol gynradd sy'n weddill yn cael dychwelyd mewn "ffordd ddiogel a hyblyg", yn 么l Ms Williams.

Ychwanegodd: "Efallai hefyd y gallai fod rhywfaint o hyblygrwydd ar gyfer blynyddoedd 10 a 12 sydd wedi'u cofrestru ar gyfer cymwysterau."

Pynciau cysylltiedig