Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Elusennau'n poeni am 'storom' o broblemau dibyniaeth
Mae elusennau cyffuriau'n disgwyl "storom" o broblemau dibyniaeth pan fydd y pandemig yn gostegu, ac mae cynnydd yn y defnydd o diazepam a chyffuriau eraill i drin gorbryder yn "destun pryder mawr".
Mae un elusen eisoes wedi gweld cynnydd o 127% o gyfeiriadau am gyffuriau benzodiazepinau yn 2020.
Dywedodd sefydliad arall bod y defnydd o'r cyffur wedi cynyddu'r sylweddol ers dechrau'r pandemig, yn rhannol am ei fod yn haws cael gafael arno.
Mae ffigyrau gan yr asiantaeth sy'n profi am sylweddau yng Nghymru yn dangos bod cynnydd o 29% mewn samplau sy'n profi am diazepam y llynedd.
Cafodd elusen Barod, sy'n cefnogi pobl gyda dibyniaeth, 48 cyfeiriad atyn nhw gan bobl oedd am gael cymorth gyda'u defnydd o diazepam yn 2019.
Y llynedd fe gododd y ffigwr yna i 109 - cynnydd o 127% - gyda dynion yn gyfrifol am ddau draean o'r cyfeiriadau.
'Perygl tymor hir'
Dywedodd Steffan Warren, rheolwr t卯m gyda Barod: "Mae defnyddwyr ein gwasanaeth yn dweud fod y cynnydd o achos y pandemig... o achos y cyfnodau clo... mae'n cael effaith negyddol ar eu gorbryder ac ar eu hiechyd meddwl.
"Ac mae hynny'n gwthio pobl i ddefnyddio sylweddau fel diazepam gan ei fod yn rhoi ychydig o ryddhau yn y tymor byr, ond wrth gwrs mae perygl yn y tymor hir."
Mae diazepam, sydd hefyd yn cael ei adnabod fel valium - yn un o gr诺p o feddyginiaeth o'r enw benzodiazapinau sy'n cael eu defnyddio i drin gorbryder, pyliau'r cyhyrau a ffitiau.
Ond mae modd prynu tabledi sy'n honni eu bod yn diazepam yn anghyfreithlon ar-lein.
Mae ansawdd a chryder y tabledi yma'n gallu amrywio, gan eu gwneud o bosib yn farwol.
'Mwy'n cael gor-ddos'
Dywedodd Naomii Oakley, cyfarwydd gwasanaethau gydag elusen gyffuriau CAIS: "Mae'r defnydd o diazepam wedi cynyddu'n sylweddol ers dechrau'r pandemig, a rheswm mawr am hyn yw bod defnyddwyr wedi cael trafferth cael gafael ar y cyffur y bydden nhw'n dymuno.
"Er bod rhai wedi cael diazepam ar bresgripsiwn gan eu meddyg teulu, ry'n ni'n gweld llawer mwy o unigolion yn ei brynu ar y we neu gan werthwyr ar y stryd.
"Ry'n ni hefyd wedi gweld cynnydd yn y defnydd o Xanax, Pregabalin... mewn gwirionedd unrhyw dabledi y mae'r unigolion yn medru eu cael, ac mae hyn yn destun pryder mawr gan nad yw'r unigolion yma'n ymwybodol o'u lefelau goddefedd i'r cyffuriau yma felly ry'n ni'n gweld mwy'n cael gor-ddos."
Dywedodd Arfon Jones, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: "Does dim dwywaith bod yna gynnydd wedi bod yn y defnydd o 'benzos' a diazepam gan ddefnyddwyr cyffuriau yng Nghymru dros y 12 mis diwethaf... dros y DU i ddweud y gwir.
"Mae diazepam sy'n cael ei smyglo yn rhatach na heroin. Hefyd, mae'n anodd i'r diwydiant cyffuriau county lines i symud cyffuriau ar draws y wlad mewn cyfnod clo, ac maen nhw'n dibynnu mwy ar ei smyglo dros y we ac yn y post.
"Ry'n ni'n canfod cynnydd yn y defnydd o dabledi ar draws y gogledd o Gaergybi i Wrecsam, ac ry'n ni'n credu eu bod yn cael eu harchebu ar y we yn bennaf."