Gwasanaeth newyddion ar-lein newydd i Gymru

Disgrifiad o'r fideo, The National: 'Cyflwyno'r ffeithiau i bobl Cymru'

Mae gwasanaeth newyddion newydd sbon wedi cael ei lansio yng Nghymru ar Ddydd G诺yl Dewi.

Mae wedi cael ei ddisgrifio gan y cyhoeddwr Newsquest fel "llwyfan newyddion cenedlaethol o safon" a fydd yn cael ei gyhoeddi ar-lein yn bennaf.

Bydd ambell gopi print yn cael ei gyhoeddi gan gynnwys y rhifyn cyntaf a fydd ar werth yn y siopau o ddydd Llun ymlaen.

Dywed y golygydd Gavin Thompson y bydd The National, a fydd yn creu tair o swyddi, "o blaid Cymru" ond ddim o reidrwydd o blaid annibyniaeth.

"Ry'n ni'n uchelgeisiol, ein dymuniad yw cyflawni llawer ond eto rydyn ni am ei wneud yn dda - felly 'dan ni ddim am geisio gwneud popeth ar y dechrau," medd Mr Thompson.

Bydd y papur, ychwanegodd, yn canolbwyntio ar "nifer o bynciau allweddol" gan gynnwys newyddion Cymreig, yr amgylchedd, diwylliant a gwleidyddiaeth.

Dywed Mr Thompson nad oes yr un dewis o bapurau newydd yng Nghymru a sydd yn Yr Alban - lle mae nifer o bapurau newydd a hefyd argraffiad Albanaidd o bapurau'r DU.

'Cael newyddion o bersbectif Seisnig'

"Rwy'n teimlo y dylai mwy o ddewis fod ar gael yng Nghymru," meddai Mr Thompson.

"Yn ystod cyfnod Covid mae nifer fawr o bobl wedi cael eu newyddion o ffynonellau sy'n ysgrifennu o bersbectif Seisnig."

Ymhlith cyhoeddiadau presennol Newsquest mae papurau dyddiol y South Wales Argus, papur i Gasnewydd a chymoedd Gwent a'r Leader i ardaloedd Wrecsam a Sir Y Fflint.

Newsquest hefyd sy'n cyhoeddi The National yn Yr Alban, sydd o blaid annibyniaeth.

Y llynedd fe wnaeth y cwmni ddiswyddo nifer o staff a oedd yn gweithio i bapurau lleol.

Disgrifiad o'r llun, Dywed y golygydd Gavin Thompson y gall mwy o swyddi gael eu creu yn y dyfodol

Ychwanegodd Mr Thompson, golygydd rhanbarthol Newsquest yng Nghymru, y byddai The National yn "creu sgwrs agored genedlaethol" am ddyfodol Cymru er ei fod yn niwtral o ran gwleidyddiaeth.

Mae'r cyhoeddiad newydd wedi creu tair swydd - bydd dau newyddiadurwr yn cynhyrchu deunydd gwreiddiol a'r llall yn ail-ysgrifennu deunydd o bapurau eraill Newsquest.

Dywed Mr Thompson ei bod hi'n bosib y bydd mwy o swyddi yn cael eu creu yn y dyfodol.

'Rhaid talu am newyddiaduraeth dda'

Y gost yn fisol fydd 拢6.99 ond fe fydd modd darllen rhai erthyglau am ddim.

"Mae'r model yn sicr o lwyddo," medd Mr Thompson, "gan bod hi'n werth talu am newyddiaduraeth safonol ac fe fydd yn cynnwys mwy o ddyfnder a safon na'r rhan fwyaf o gyhoeddiadau y byd newyddiadurol yng Nghymru.

"Mae modd gwneud pethau ar raddfa eang gyda llawer o hysbysebu - neu mae modd gweithredu lle mae'r cwsmer yn talu," ychwanegodd.

"Rhaid i rywun dalu gan nad yw newyddiaduraeth am ddim."