Mwy o arian cyhoeddus i helpu Maes Awyr Caerdydd

Ffynhonnell y llun, Maes Awyr Caerdydd

Disgrifiad o'r llun, Llywodraeth Cymru sydd wedi bod yn berchen ar Faes Awyr Caerdydd ers 2013

Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi degau o filiynau o bunnoedd yn rhagor i Faes Awyr Caerdydd, gan gynnwys dileu rhan o'i ddyled.

Dywedodd y Gweinidog Economi, Ken Skates bod y pandemig wedi cael effaith "gatastroffig" ar y maes awyr.

Llywodraeth Cymru sy'n berchen ar y safle, gafodd ei brynu am 拢52m yn 2013.

Dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig bod y llywodraeth yn "rhoi cefnogaeth i'w menter eu hunain" yn hytrach na helpu busnesau bach.

Yn 么l Mr Skates bydd 拢42.6m o ddyled yn cael ei ddileu, a bydd grant o 拢42.6m o arian cyhoeddus hefyd yn cael ei roi i'r maes awyr.

Mae'r ecwiti sydd gan y trethdalwr yn y maes awyr hefyd yn cael ei ostwng 拢43m er mwyn adlewyrchu'r gostyngiad yn ei werth ers dechrau'r pandemig.

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Ken Skates bod y pandemig wedi cael effaith "gatastroffig" ar y maes awyr

Ond yn 么l Gweinidog yr Economi bydd yr arian yn "helpu i gynnal hyd at 5,200 o swyddi anuniongyrchol sy'n gysylltiedig 芒'r cwmn茂au yn y maes awyr".

Ychwanegodd nad ydy Llywodraeth y DU wedi rhoi unrhyw gefnogaeth i Faes Awyr Caerdydd, gan awgrymu y byddai'r safle yn cau o bosib heb y cyhoeddiad.

Dywedodd hefyd bod 60 aelod o staff yno wedi cael eu symud i weithio ar wasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu y llywodraeth.

'Trethdalwyr Cymru'n talu 拢130m'

Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar yr economi, Russel George: "Mae'r sector wedi cael ei daro'n wael gan coronafeirws ac mae llywodraethau ar draws y byd yn cefnogi'r diwydiant.

"Ond bydd lefel y gefnogaeth - gan gynnwys dileu miliynau o bunnoedd o arian y trethdalwyr - yn cael ei gwestiynu, ar adeg ble mae busnesau bach yn erfyn am fwy o gefnogaeth.

"Yn hytrach, mae gweinidogion Llafur yn dangos mwy o ddiddordeb yn rhoi cefnogaeth i'w menter eu hunain - ac mae trethdalwyr Cymru wedi gorfod talu 拢130m am hynny heddiw."