Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Chris Coleman: 'Dwi eisiau gallu siarad Cymraeg gyda'r Cymry'
"Rwy' wastad wedi bod eisiau dysgu Cymraeg."
Mae cyn-reolwr tîm pêl-droed Cymru, Chris Coleman, fel nifer o bobl dros y flwyddyn ddiwethaf, wedi manteisio ar y cyfnod clo i ddysgu Cymraeg.
Wedi arwain y tîm cenedlaethol at lwyddiant ysgubol ym mhencampwriaeth Ewro 2016 - fe gyrhaeddodd Cymru y rownd gyn-derfynol am y tro cyntaf yn eu hanes - roedd emosiwn a chefnogaeth y Cymry wedi ei ysbrydoli.
"Rwy' wedi teimlo cywilydd, yn enwedig pan oedd gen i'r swydd gyfrifol o fod yn reolwr y tîm cenedlaethol, o'n i'n teimlo'n euog nad o'n i'n gallu sgwrsio'n Gymraeg," meddai Chris Coleman.
"O'n i'n meddwl, un dydd, os fedra i, byddwn yn trio dysgu."
A phan gafodd gynnig i gymryd rhan yn y gyfres Iaith ar Daith i S4C, penderfynodd mai dyma'r amser i fynd amdani.
'Byth yn rhy hwyr i ddechrau dysgu'
"Roedd hwn yn gyfle i fi wneud beth dwi wedi bod eisiau 'neud ers amser hir," meddai o'i gartref yn Winchester, swydd Hampshire, lle mae wedi treulio'r cyfnod clo yn helpu i ddysgu ei blant adref, a chychwyn cael gwersi Cymraeg ar-lein.
"Dwi'n credu'n gryf nad yw hi byth yn rhy hwyr i ddechrau ar y daith i ddysgu.
"Ac os o'n i'n mynd i ddysgu unrhyw iaith, roedd yn rhaid iddo fod y Gymraeg, a dwi wrth fy modd fy mod i'n ei dysgu.
"Dwi'n dechrau o'r dechrau.
"Am 50 mlynedd dwi wedi bod yn dweud pethau mewn un ffordd a nawr dwi'n dysgu eu dweud nhw mewn ffordd arall a dydy hynny ddim yn hawdd. Ond mae'n werth yr ymdrech."
Bydd Chris Coleman yn crwydro Cymru gyda'i fentor, y cyn bêl-droediwr i Gymru, Owain Tudur Jones, gan wneud heriau gwahanol yn y Gymraeg yn y rhaglen deledu.
"Mae Aran [Jones], wedi bod yn hollol wych, mae ei ffordd o ddysgu yn ffantastig," meddai am ei diwtor sy'n rhoi gwersi Cymraeg dyddiol iddo ar y we i'w baratoi i ymddangos yn y gyfres deledu.
"Ti'n meddwl bod e ddim yn mynd i mewn, ac yna, ti'n gallu dweud gair neu ynganu gair doeddet ti ddim yn sylweddoli dy fod yn ei wybod.
"Mae hwnna wedyn yn rhoi dipyn o hyder i ti."
Cafodd Chris Coleman ei eni a'i fagu yn Abertawe, ac mae ei fam a'i chwiorydd yn dal i fyw yna. Ac er bod ychydig o Gymraeg i'w chlywed o'i gwmpas pan oedd yn tyfu fyny yn y ddinas, doedd e ddim yn ei siarad.
"Roedd 'na rai siaradwyr Cymraeg o gwmpas, ond dim llawer. Yn ystod dwy flynedd gyntaf yr Ysgol Uwchradd doedd dim rhaid cymryd Cymraeg fel pwnc, felly wnaethon ni ddim, sydd ddim yn beth da," meddai.
'Dwi wastad wedi bod yn freuddwydiwr'
Yr haf diwethaf fe ddathlodd Chris Coleman ei ben-blwydd yn 50, ac er mai dros Zoom roedd y dathlu, fe wnaeth fwynhau'r achlysur tawel gyda'i wraig y gyflwynwraig Charlotte Jackson. Ond ai cyrraedd y garreg filltir hon oedd y sbardun iddo ddysgu Cymraeg?
"Fedra i ddim dweud mod i wedi dihuno y bore wedyn yn meddwl 'dwi am wneud hwn neu'r llall [nawr mod i'n 50]'. Rwy wedi bod yn freuddwydiwr trwy gydol fy mywyd, wastad yn edrych ar bethau newydd ac yn meddwl 'dwi'n mynd i fynd bant i wneud hwnna'.
"Gan amlaf, dwi ddim yn ei gyflawni, ond weithiau dwi yn. Dwi'n hoffi mynd o gwmpas y byd, bod mewn llefydd gwahanol a chael profiadau gwahanol a dydy hynny ddim wedi newid nawr mod i'n 50.
"Os rhywbeth, dwi'n awchu i fynd a thrio gweithio mewn gwlad arall a chael profiad newydd, hyd yn oed yn fwy.
"Rwy' wedi bod adre am 18 mis nawr ac mae blwyddyn o'r cyfnod hwnnw wedi bod yn dysgu'r plant o adre oherwydd y pandemig. Oni bai am y locdown mae'n debyg fydden i nôl yn gweithio, ond doedd y posibiliadau wnaeth godi ddim yn iawn i ni fel teulu ar y pryd."
Haf bythgofiadwy 2016 'fel hud anweladwy'
Roedd y Gymraeg yn amlwg yn ystod haf 2016, pan gyrhaeddodd tîm pêl-droed Cymru y rownd gyn-derfynol ym mhencampwriaeth Euro 2016 yn Ffrainc, am y tro cyntaf.
Prin y gallai unrhyw Gymro neu Gymraes anghofio'r gair 'Diolch' oedd i'w weld ymhobman, ar draws y gwefannau cymdeithasol ac wedi ei brintio ar grysau'r chwaraewyr.
A dyna'r gair Cymraeg cyntaf i Chris Coleman ei ddysgu, meddai.
"Dwi'n cofio pan o'n i'n rheolwr, cyn y bencampwriaeth ro'n ni'n teithio o amgylch Cymru yn ymweld ag ysgolion a chlybiau pêl-droed mewn gwahanol ardaloedd, yn siarad gyda'r cyhoedd, a dyna un gair roedd pawb yn ei ddweud wrtha i - 'Diolch Chris'.
"Doedd Cymru erioed wedi cyrraedd y lefel yma yn y bencampwriaeth cyn hynny, felly roedd hwnna'n air roeddwn i'n ei glywed lot, a'r gair cyntaf ddysgais i.
"Diolch - end of!"
Ac mae'r haf hwnnw, a'r ffaith bod yr iaith Gymraeg wedi chwarae rhan bwysig yn y profiad i gymaint o Gymry, yn destun balchder iddo: "Yn y Deyrnas Unedig rydyn ni dipyn bach yn stiff upper lip, dydyn ni ddim fod i ddangos ein teimladau - ond fy neges i i'r chwaraewyr oedd - 'sod that'!
"Rydyn ni mor falch i fod yn Gymry, roedd 'na lawer o emosiwn a balchder. Ac fe wnaeth y chwaraewyr gofleidio hynny. Mi roedd y slogan oedd gyda ni - Together Stronger - yn un real iawn, nid rhyw slogan ffansi, roedd yn real.
"Roedd yn grêt bod gyda ni siaradwyr Cymraeg yn y sgwad, ac roedden ni wastad yn trio hyrwyddo hynny."
Ac wrth ddisgrifio'r profiad 'unwaith mewn bywyd' hwnnw o deithio o gwmpas Ffrainc, mae Chris Coleman yn cofio'r cyfnod fel 'rhyw hud anweledig'.
"Doeddwn i erioed wedi bod yn rhan o unrhywbeth fel yna cynt, a dwi ddim yn credu fydda i byth eto. Roedd fel petai pawb o Gymru wedi codi eu pac a symud i Ffrainc! Lle bynnag oedden ni'n mynd, roedd yn llawn Cymry.
"Roedd fel petai rhyw hud anweledig yn digwydd. Ro'n i'n dweud wrth y chwaraewyr - gwerthfawrogwch hwn. Cymerwch y cyfan i mewn a mwynhewch bob munud."
Felly ar ôl rhai wythnosau'n dysgu, sut mae'r Gymraeg yn dod yn ei blaen?
"Dwi'n dilyn y cwrs Say Something in Welsh sydd wedi fy helpu gymaint, dwi'n gwybod llawer o eiriau - ond eu rhoi nhw'n y drefn gywir yw'r peth!
"Cefais sgwrs gyfan am awr yn y Gymraeg gydag Aran yn ddiweddar, roeddwn i'n gallu deall llawer.
"Dwi'n rhwystredig achos fedra i weld y geiriau, ac os dwi'n aros yn ddigon hir fedra i eu dweud nhw, ond os wyt ti'n cael sgwrs gyda rhywun a maen nhw'n gofyn cwestiwn, dwyt ti ddim eisiau iddyn nhw orfod aros yn hir am dy ateb, dwi angen gallu ateb yn gynt."
Mae Chris yn grediniol, wrth ddysgu'r iaith mai cael hyder yw'r peth pwysicaf, ac i beidio bod ofn gwneud camgymeriadau:
"Y peth pwysig ydy mynd allan, siarad… ei gael yn anghywir, cael dy roi ar ben ffordd a chadw i fynd.
"Ein hiaith ni yw hi, ac mae'n bwysig ei bod hi'n parhau.
"Dwi'n gwybod y bydda i'n neud llawer o gamgymeriadau, ond fy mwriad yw dangos i bobl, os wyt ti'n Gymro neu'n Gymraes ac yn methu siarad Cymraeg, tria ei siarad hi."
'Cofia chwethin a chael jôc'
Felly pa gyngor sydd gan Coleman i unrhywun sy'n ystyried mynd amdani?
"Mwynha'r profiad, cofia chwethin a chael jôc - dyna sut dwi'n mynd i gael fy hunan drwyddi!
"Dwi eisiau cyrraedd lefel lle galla i gael sgwrs iawn gyda siaradwyr Cymraeg. Efallai na fydda i'n hollol rhugl ond pan fydda i'n gallu gwneud hynny, fydda i'n hapus.
"Dwi siŵr o fod ar gam un allan o 10 ar hyn o bryd, ond mae'n rhaid dechre rhywle!"
Hefyd o ddiddordeb: