Y gwyddonydd sy'n datblygu'r 'ail beth gorau i laeth y fam'

Ffynhonnell y llun, llun cyfrannwr

Mae gwyddonwyr yn gwybod ers tro fod bwydo o'r fron yn gallu helpu babanod i ymladd afiechydon ond dydi hi ddim bob amser yn bosib i fabi gael y manteision ddaw o'r 'bacteria da' yn llefrith y fam.

Mae myfyriwr o'r Waunfawr yng Ngwynedd yn rhan o d卯m sy'n gobeithio newid hynny.

Mae Sioned F么n Jones a dwy o'i chyd-fyfyrwyr yng ngholeg UCL a Choleg y Brenin yn Llundain yn datblygu fformiwla llaeth powdr newydd sy'n cynnwys y bacteria iach sydd i'w gael yn naturiol mewn llaeth o'r fron.

Mae'n faes ymchwil gweddol newydd, meddai Sioned, sydd wedi sefydlu cwmni i ddatblygu'r fformiwla newydd gyda'i chyd-fyfyrwyr fel rhan o'i hastudiaethau am ddoethuriaeth.

Dydi llaeth fformiwla arferol ddim wedi cynnwys y bacteria da yma o'r blaen eglurodd Sioned wrth Dewi Llwyd ar Radio Cymru.

"Mae 'na lot fawr o bacteria da yn byw yn llaeth y fron," meddai Sioned, "a pan mae babanod yn bwydo ar y llaeth mae bacteria da yn cael ei drosglwyddo ac yn cytrefu ym mherfedd y babanod.

"Mae'r bacteria da yma yn medru ymladd lot o afiechydon ac yn helpu i ddatblygu imiwnedd iach. Ond wrth gwrs mae hynny'n golygu bod y babanod sydd ddim yn bwydo o'r fron ac yn cael eu bwydo gan laeth fformiwla er enghraifft at risk o ddatblygu problemau iechyd fel plentyn h欧n a hefyd yn nes ymlaen mewn bywyd.

"So be' ydan ni'n neud ydy datblygu eilydd i laeth y fam sydd wedi ei greu o'r peth go iawn. Rydw i a dwy fyfyrwraig, Lydia a Tara, wedi casglu a dadansoddi llefrith dros 50 o famau."

Maen nhw'n defnyddio techneg arbennig, meddai Sioned, sy'n caniat谩u iddyn nhw adnabod y bacteria yn ei elfennau lleiaf.

Yna maen nhw'n tyfu'r bacteria mewn labordy ac yn cynnal profion i sicrhau bod y bacteria yn rhai da sy'n gallu ymladd yn erbyn pathogenau (meicrobau sy'n gallu achosi afiechyd).

"Wrth ddefnyddio'r wybodaeth hon, rydyn ni'n datblygu cymysgedd neu goct锚l o'r bacteria gorau bosib a fydd yn cael ei ddefnyddio fel yr ail beth gorau i laeth y fam pan dydi o ddim ar gael."

'Ychwanegiad i laeth fformiwla'

Maen nhw wedi cael ymateb da hyd yma gan famau sy'n cael trafferth bwydo ar y fron neu gyplau sydd wedi mabwysiadu ond maen nhw hefyd wedi cael diddordeb gan gwmn茂au dros y byd sydd eisiau cydweithio.

Eu nod yw datblygu cynnyrch fydd ar gael yn y siopau i'w brynu fel ychwanegiad i laeth fformiwla a hefyd mewn ysbytai drwy'r Gwasanaeth Iechyd.

"Mae'r cwmn茂au mawr yma sy'n datblygu llefrith fformiwla i weld yn focusio ar y siwgr a'r pethau eraill da 'ma i gyd sydd o fewn y llaeth," meddai Sioned, ond mae ei chwmni hi yn wahanol am eu bod yn edrych ar y 'bacteria da' sydd yn faes reit newydd mewn gwyddoniaeth, meddai.

Disgrifiad o'r sainSioned F么n Jones yn trafod cynnyrch ei chwmni Booby Biome sy'n gobeithio gwella iechyd babanod ar Radio Cymru

Gwrthgyrff i Covid-19

Maen nhw hefyd mewn sefyllfa arbennig i allu ymchwilio i'r bacteria o safbwynt Covid-19 a gweld a ydy'r bacteria yn y llaeth yn medru dylanwadu ar ymateb system imiwnedd babanod i'r coronafeirws.

"Dwi'n si诺r bydd hi reit ddiddorol gweld os oes gwrthgyrff Covid-19 yn llaeth y fam ac os ydi hi'n gallu trosglwyddo hyn i'r babanod, so mae hynny reit ecseiting hefyd."

Datblygu'r cynnyrch i wahanol wledydd dros y byd a gweithio gyda'r cwmni yn llawn amser yw'r nod i Sioned, ond mae am orffen ei doethuriaeth a chael y teitl Dr dan ei belt yn gyntaf.

Ysbrydoli merched mewn gwyddoniaeth

Mae ei doethuriaeth yn cyfuno ei phwnc gradd, cemeg, gyda bioleg celloedd drwy edrych ar DNA i ganfod newidiadau ym mhilen celloedd a allai fod yn arwydd o ganser.

Mae Sioned yn talu teyrnged i'w hathrawes gemeg yn Ysgol Brynrefail, Llanrug, fel y person wnaeth ei hysbrydoli i fynd yn wyddonydd.

"Mathemateg a cherddoriaeth oedd fy mhethau yn yr ysgol tan imi gael fy nysgu gan Dr Beverly Jones yn Ysgol Brynrefail," meddai.

"Mae 'Bev Chem' yn ffantastig a hi wnaeth newid fy agwedd i at wyddoniaeth. Fyswn i'n bendant ddim yn gwneud be' dwi'n wneud r诺an oni bai amdani hi."

Gyda mwy o s么n am waith gwyddonwyr benywaidd oes angen diwrnod fel Diwrnod Rhyngwladol y Merched bellach?

"Oes definitely, fel merch sydd wedi setio fyny cwmni mewn gwyddoniaeth dwi wedi sylweddoli mor anodd ydi o i gael fy nghymryd o ddifri mewn maes wedi hollol gael ei ddominyddu gan ddynion.

"Hefyd mae iechyd merched ar y cyfan yn cael ei danariannu'n llwyr felly dwi'n teimlo fod diwrnodau fel hyn mor bwysig i gael merched - a merched mewn gwyddoniaeth yn benodol - ar y map i helpu merched ifanc i mewn i faes gwyddoniaeth."

Hefyd o ddiddordeb: