Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cyllideb: 'Llywodraeth y DU wedi torri ei haddewid i Gymru'
Mae Llywodraeth y DU wedi torri ei haddewid i Gymru yn ystod cyhoeddiadau ariannol y gyllideb yr wythnos ddiwethaf, medd arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts.
Dywed Ms Saville Roberts AS bod peilot y Gronfa Lefelu a'r Gronfa Ffyniant Gyffredin yn "cystadlu, yn gystadleuol ac yn anrhyloyw" a'u bod yn "cael eu rheoli gan San Steffan".
Er mwyn cael arian o'r naill gronfa a'r llall rhaid i awdurdodau lleol wneud cais am arian o bot arian Llywodraeth y DU ac mae ceisiadau am arian o'r Gronfa Lefelu angen cefnogaeth Aelodau Seneddol lleol.
Mae'r ddwy gronfa medd Ms Saville Roberts "yn fwriadol yn tanseilio datganoli".
Yn ei gyllideb fe wnaeth y Canghellor roi manylion dwy gronfa - y Gronfa Lefelu gwerth 拢4.8bn a'r 'Gronfa Adnewyddu Cymuned' gwerth 拢220m.
Mae'r olaf yn beilot ar gyfer y Gronfa Ffyniant Gyffredin a fydd yn dod yn lle arian yr Undeb Ewropeaidd i rannau tlotaf y DU yn 2022 - bydd arian o rai cronfeydd yr UE yn para i gael ei wario tan 2023.
Dywedodd Ms Saville Roberts: "Mae tudalen 41 o faniffesto y Blaid Geidwadol yn 2019 yn rhoi sicrwydd y buaswn yn derbyn yr un lefel o gymorth ariannol o'r DU ag oedden i'n ei dderbyn gan yr UE.
"15 mis yn ddiweddarach fe wnaeth y gyllideb gyhoeddi rhes o gronfeydd sy'n tanseilio yn hytrach na hybu strategaeth economaidd Cymru a dydyn nhw ddim yn anrhydeddu addewidion y llywodraeth i Gymru.
"Dim ond swm o 拢220m sydd wedi cael ei neilltuo i beilot y Gronfa Ffyniant Gyffredin, sy'n cael ei henwi yn annidwyll y Gronfa Adnewyddu Cymuned - ac y mae'r arian yma fod i hybu y DU yn gyfan. Eto roedd Cymru ei hun yn arfer derbyn 拢370m y flwyddyn o gyllid yn seiliedig ar anghenion.
"Nid yn unig mae'r Ceidwadwyr wedi torri addewid eu maniffesto ond hefyd maent wedi torri eu haddewid i Gymru," meddai.
"Bydd llywodraeth y DU yn defnyddio arian y gronfa hon i wella canol trefi, ar safleoedd diwylliannol fel amgueddfeydd ac isadeiladedd fel ffordd newydd neu brosiectau rheilffyrdd," ychwanegodd.
Cystadlu am arian o bot llai
Dywed bod y ddau gynllun yn wynebu cystadleuaeth ar draws y DU ac na fyddant yn seiliedig ar anghenion.
"Bydd awdurdodau lleol Cymru r诺an yn gorfod cystadlu am arian o bot llai ac yn wynebu cystadleuaeth uniongyrchol gan y DU gyfan. Mae'r canlyniadau ar gyfer cynllunio economaidd yn enfawr.
"Yn lle cael agenda datblygu economaidd ar draws Cymru mae llywodraeth y DU yn gobeithio ei bod wedi concro Cymru gan ei chwalu i 22 uned a fydd yn cystadlu am arian.
"Yr hyn sy'n waeth yw bod llywodraeth y DU wedi cysylltu llwyddiant y gronfa gyda chynrychiolaeth Aelodau Seneddol. Mae'r llywodraeth hefyd yn dymuno cwtogi nifer yr ASau yng Nghymru."