Rygbi: Dau newid yn nh卯m Cymru i wynebu'r Eidal
- Cyhoeddwyd
Mae dau newid yn nh卯m Cymru i wynebu'r Eidal ym Mhencamwpriaeth y Chwe Gwlad yn Rhufain ddydd Sadwrn.
Oherwydd anaf i'r mewnwr, Kieran Hardy, ei gyd-chwaraewr gyda'r Scarlets, Gareth Davies, fydd yn dechrau'r g锚m, ac yn dilyn ei gais yn erbyn Lloegr, bydd ail-reng Gleision Caerdydd, Cory Hill, hefyd yn dechrau.
Mae hynny'n golygu bod Adam Beard allan o'r garfan, a Jake Ball ymysg yr eilyddion, ac yn gobeithio ennill ei 50fed cap.
Mae'r mewnwr Lloyd Williams hefyd ar y fainc oherwydd anafiadau i Kieran Hardy a Tomos Williams.
Ar 么l cipio'r Goron Driphlyg gyda'r fuddugoliaeth gofiadwy dros y Saeson, mae t卯m Wayne Pivac angen dwy fuddugoliaeth arall i sicrhau'r Gamp Lawn - rhywbeth nad oedd neb wedi'i ragweld cyn y gystadleuaeth.
"Mae tair allan o dair yn ddechrau gwych ond mae digon i'w wneud a digon i weithio arno," meddai Wayne Pivac.
"Rydym wedi cael pythefnos i adeiladu at y g锚m, wedi ymarfer yn dda, ac yn edrych ymlaen yn arw at y bedwaredd rownd,"
T卯m Cymru i wynebu'r Eidal
Olwyr: Liam Williams; Louis Rees-Zammit, George North, Jonathan Davies, Josh Adams; Dan Biggar, Gareth Davies. Blaenwyr: Wyn Jones, Ken Owens, Tomas Francis, Cory Hill, Alun Wyn Jones (capt), Josh Navidi, Justin Tipuric, Taulupe Faletau.
Eilyddion: Elliot Dee, Rhys Carre, Leon Brown, Jake Ball, Aaron Wainwright, Lloyd Williams, Callum Sheedy, Willis Halaholo.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Chwefror 2021
- Cyhoeddwyd13 Chwefror 2021
- Cyhoeddwyd7 Chwefror 2021