大象传媒

Pryder am golli 'enaid diwylliannol' dinas Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Yr adeilad arfaethedigFfynhonnell y llun, StudioNesh
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Argraff artist o'r adeilad newydd allai fod ar safle Porters

Mae 'na bryderon bod canol dinas Caerdydd yn cael ei or-ddatblygu, yn dilyn cynlluniau i gau bar poblogaidd er mwyn gwneud lle ar gyfer beth fyddai t诺r uchaf Cymru.

Mae datblygwyr Draycott am adeiladu 35 llawr a 350 o fflatiau ar safle bar y Porters - man sy'n cynnal digwyddiadau theatr a cherddoriaeth byw.

Ond yn 么l un cerddor, mae peryg bod y ddinas yn colli ei diwylliant, wrth i fwy o leoliadau annibynnol orfod cau.

Yn y cyfamser, mae arweinydd Cyngor Caerdydd yn dweud bod angen mwy o lety preswyl i'r nifer gynyddol sy'n dewis dod i fyw yng Nghaerdydd.

Dafliad carreg o Porters, mae Cilgant Guildford, lle'r oedd dau fwyty a chlwb cerddoriaeth fyw, Gwdih诺, yn arfer sefyll. Dim ond eu hadfeilion sydd yna erbyn hyn, gyda chynlluniau yma hefyd i adeiladu fflatiau.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Llefydd fel Porters sy'n rhoi enaid i fywyd Caerdydd, medd y cerddor Ani Saunders

'Enaid' dinas

"Mae llefydd fel Porters a llefydd sydd wedi cau o'r blaen fel Gwdih诺, dyma'r llefydd sy'n cynnal ac yn creu diwylliant ac yn cynnal cymunedau creadigol yng Nghaerdydd," meddai Ani Saunders, cerddor sy'n byw yn y ddinas.

"Mae pobol yn dod n么l i gwrdd 芒 ffrindiau, i wneud ffrindiau, i drafod syniadau, felly llefydd fel hyn sy'n rhoi enaid i lefydd fel Caerdydd."

Mae 'na alwadau ar i Gyngor Caerdydd wneud mwy i agor y drysau wedi'r cyfnod clo... ond mae'r arweinydd, Huw Thomas, yn dweud bod terfyn i'w pwerau nhw fel cyngor.

"Yr hyn sy'n gyrru'r twf mewn adeiladu, ydy bod 'na bobl yn penderfynu o hyd i symud i Gaerdydd i fyw ac mae'n rhaid iddyn nhw fyw yn rhywle," meddai.

"Mae datblygwyr yn teimlo y gallan nhw werthu'r fflatiau yma.

"Mae'n bwysig hefyd i bobl ddeall nad ydyn ni'n gallu rheoli beth mae perchnogion preifat yn gwneud gyda'u tenantiaid."

Dywedodd y byddai'r cyngor yn gweithio gyda pherchennog y Porters i geisio dod o hyd i adeilad addas ar eu cyfer.

Mae'r Cyngor wedi cyhoeddi adroddiad ar hybu Caerdydd fel Dinas Gerddoriaeth, a sefydlu Bwrdd Cerdd, sydd wedi helpu sawl clwb a bar yn 么l Huw Thomas.

Ffynhonnell y llun, Richard Sutcliffe/Geograph
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae bar Porters yn hen adeilad Harlech Court yng Nghaerdydd

Galw am gydbwysedd

Wrth i wyneb ein trefi a'n dinasoedd newid a hynny'n gyflymach o bosib yn sgil Covid-19, mae 'na alw am daro cydbwysedd.

"Mae ail-ddatblygu yn anorfod o bosib," meddai'r Athro Rhys Jones, o Adran Daearyddiaeth Ddynol Prifysgol Aberystwyth.

"Fi'n credu bod angen cydbwysedd hefyd ac mae angen creu y profiad ehangach ar gyfer trigolion ein dinasoedd a'n trefi ni, ond hefyd yr ymwelwyr ry'n ni'n trio denu i mewn i'r trefi a'r dinasoedd yma."

Doedd Gr诺p Draycott ddim am wneud sylw.