Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Galw ar etholwyr i fynd 芒'u pensiliau wrth bleidleisio
Bydd galw ar etholwyr i fynd 芒 phennau a phensiliau eu hunain i'r blychau pleidleisio ar gyfer etholiadau 2021.
Daw hyn yn dilyn datganiad ar y cyd gan lywodraethau'r DU, Cymru a'r Alban fel rhan o ganllawiau i wneud y broses o bleidleisio yn fwy diogel yn ystod y pandemig.
Dywed gweinidogion y dylai unrhyw un sy'n gyfforddus wrth siopa mewn archfarchnad fod yn hyderus wrth ddefnyddio gorsafoedd pleidleisio.
Y bwriad yw cynnal etholiadau Senedd Cymru ar 6 Mai.
Fe fydd etholiadau ar gyfer comisiynwyr heddlu a throsedd yn cael eu cynnal ar yr un diwrnod.
Dywed datganiad ar y cyd gan y llywodraethau y bydd etholwyr yn cael eu "hannog i ddod a phennau neu bensiliau eu hunain er mwyn bwrw eu pleidlais, er y bydd pensiliau glan ar gael i bawb".
"Cyn hir fe fydd etholwyr yn derbyn eu cardiau pleidleisio ar gyfer yr etholiadau a byddwn yn hoffi eu sicrhau fod yna baratoadau eang yn cael eu gwneud i sicrhau fod y bleidlais yn cael ei chynnal mewn modd sy'n lleihau'r risg o ledaenu coronafeirws."
Fe fydd hylif hylendid ar gael, a bydd sgriniau hefyd yn cael eu defnyddio ynghyd ag arwyddion i gadw pellter cymdeithasol.
"Fe ddylai pobl - pleidleiswyr a staff y gorsafoedd - wisgo mwgwd."
Fe fydd modd i bobl hefyd bleidleisio trwy'r post neu benodi dirprwy.
Fe fydd modd defnyddio pleidlais ddirprwy, lle mae etholwr yn dewis rhywun i bleidleisio ar eu rhan, tan 17:00 ar ddiwrnod yr etholiad.
"Golygai hyn y gallai etholwyr sy'n hunan-ynysu oherwydd canlyniad prawf covid neu symptomau, barhau i allu pleidleisio heb orfod gadael eu cartrefi," meddai'r gweinidogion yn y datganiad."
Ar hyn o bryd mae yna waharddiad ar ddosbarthu pamffledi gwleidyddol yn ystod y cyfnod clo yng Nghymru.
Mae gweinidog iechyd Cymru Vaughan Gething wedi dweud ei fod yn ystyried llacio'r rheol yma.
Yn ddiweddar fe wnaeth Senedd Cymru basio deddfwriaeth a fyddai'n caniat谩u i ddyddiad yr etholiad gael ei ohirio pe bai angen oherwydd effeithiau'r pandemig.