大象传媒

'Posib y bydd llacio gofalus yn atal trydedd don sylweddol'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
CaerdyddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae disgwyl i Lywodraeth Cymru lacio ychydig ar y cyfyngiadau ddydd Gwener

Fe allai Cymru osgoi'r gwaethaf o drydedd don Covid-19 os ydy'r cyfyngiadau yn cael eu llacio yn ofalus rhwng nawr a'r haf, yn 么l ymgynghorwyr gwyddonol Llywodraeth Cymru.

Er mai amrywiolyn mwy heintus Caint sydd bellach fwyaf amlwg yng Nghymru, mae modelu'n awgrymu os ydy cyfyngiadau Lefel 3 yn aros mewn grym nes Mehefin a bod ysgolion yn ailagor yn raddol, gall achosion aros yn isel.

Ond mae'r modelu hefyd yn rhagweld y byddai rhuthro'n 么l i ysgolion a llacio'r cyfyngiadau ynghynt yn arwain at drydedd don fwy sylweddol.

Mae'r ymchwil gan Brifysgol Abertawe - sy'n awgrymu effaith debygol gwahanol senarios ar nifer yr heintiau a marwolaethau - wedi cael ei ryddhau gan gr诺p cyngor technegol (TAC) Llywodraeth Cymru.

Mae disgwyl i Lywodraeth Cymru lacio ychydig ar y cyfyngiadau ddydd Gwener, gydag awgrym y bydd y rheol "aros adref" yn newid i "aros yn lleol".

'Edrych yn fwy positif'

Dywedodd y TAC yn yr adroddiad mai'r awgrym ydy "dylid gallu cael ysgolion i ddychwelyd i ddysgu wyneb-yn-wyneb yn raddol heb i'r feirws ailgydio, os ydy cyfyngiadau eraill yn cael eu cadw".

Ond ychwanegodd bod "ansicrwydd" am effaith ysgolion ar drosglwyddo cymunedol, a fydd y cyhoedd yn cadw at reolau fel cadw pellter, a'r effaith y bydd y brechlynnau'n ei gael ar drosglwyddo'r haint.

"Wrth i'r rhaglen frechu barhau, mae'r dyfodol yn edrych yn fwy positif o ran disgwyl nifer llai o farwolaethau Covid-19 na'r hyn a welwyd rhwng Tachwedd ac Ionawr," meddai'r adroddiad.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae "ansicrwydd" am effaith ysgolion ar drosglwyddo cymunedol, yn 么l yr adroddiad

Ond mae'r TAC yn rhybuddio y gallai coronafeirws ddychwelyd ar lefel sylweddol erbyn Mai neu Fehefin os ydy pobl yn anwybyddu'r rheolau, yn enwedig o ystyried y gallai'r amrywiolion newydd fod yn fwy heintus.

Mae'r adroddiad hefyd yn rhybuddio rhag credu y bydd brechlynnau yn unig yn rheoli lefelau'r feirws.

"Dydy brechlynnau ddim yn 100% effeithiol felly dydy pawb ddim wedi'u hamddiffyn hyd yn oed ar 么l cael y ddau ddos," meddai.

Ychwanegodd y gwyddonwyr bod y modelu yn "atgyfnerthu'r angen i lacio'r cyfyngiadau yn ofalus a monitro'r sefyllfa dros amser" er mwyn lleihau marwolaethau.

Beth ydy'r senarios gwahanol?

Yn 么l y senario mwyaf tebygol, mae'r modelu yn awgrymu y bydd 58,000 yn rhagor o achosion ac 800 yn fwy o farwolaethau yn cael eu cofnodi rhwng 22 Chwefror a 30 Mehefin.

Mae'r senario yma yn rhagweld mai amrywiolyn Caint fydd yn parhau fwyaf amlwg yng Nghymru, bod y brechlyn yn 75% effeithiol a bod y cyfyngiadau yn cael eu llacio yn ofalus ac araf.

Ond mae'r senario gwaethaf yn rhagweld 194,000 o achosion a 3,500 marwolaeth dros yr un cyfnod.

Y senario yma fyddai'n deillio o lacio'r cyfyngiadau'n gyflym, bod nifer o bobl yn anwybyddu'r rheolau a bod amrywiolion newydd yn cael mwy o effaith.