Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Ateb y Galw: Yr economegydd David R Williams
Yr economegydd David R Williams sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma ar 么l iddo gael ei enwebu gan Ioan Pollard yr wythnos diwethaf.
Yn wreiddiol o Fae Colwyn, mae David wedi ymgartrefu ym Miami, Florida ers dros 30 mlynedd, ac yn rhedeg busnes sydd yn cynnig cyngor economaidd.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Cerdded adref o Ysgol Bod Alaw, Bae Colwyn, gyda het ysgol fflat, goch am fy mhen. (Mae'r het dal gen i!)
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Pen Ll欧n. Dydi o ddim wedi newid fawr ddim mewn 50-60 mlynedd. Heddwch, llonyddwch a llawer o ddefaid.
Pwy oeddet ti'n ei ffans茂o pan yn iau?
Raquel Welch ar 么l ei gweld hi yn y ffilm One Million Years BC. Doedd ganddi hi ddim llawer o linellau, ond beth oedd ots am hynny?!
Beth yw dy hoff g芒n a pham?
Calon L芒n wedi ei chanu gan lais pwerus Bryn Terfel.
Pryd oedd y tro diwethaf i ti gr茂o?
Dychwelodd fy merch ieuengaf, Gwyneth Megan, i'r brifysgol yn Boston ym mis Ionawr, ac o'n i'n beichio cr茂o.
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
O'n i'n trio codi calon ffrind i mi oedd yn Ysbyty Gwynedd, a nes i godi jwg o'n i'n meddwl oedd yn llawn d诺r a'i dywallt drosta fi fy hun (troi allan mai wrin oedd o...). Roedd y nyrsys yn syn.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Yn anffodus, alla i ddim mynd mewn i lawer o fanylder am hwn! Ond dwi'n cofio noson arall yng Nghaerdydd pan welais i a fy niweddar dad, John Eric, Gymru yn curo'r Eidal 2-1 yn 2002. Bryn Terfel ganodd Hen Wlad Fy Nhadau cyn kick-off, ac roedd hynny'n ddigon i ddychryn rhai o chwaraewyr yr Eidal!
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Mae fy chwyrnu a'm tisian yn enwog am ddychryn plant bach ac anifeiliaid anwes...
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Triw, digymell ac, ar adegau, doniol tu hwnt.
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Cerdded i lawr i T欧 Coch ym Mhorthdinllaen am brunch cynnar, picio draw i Anfield ar gyfer g锚m yn y prynhawn, ac yna mynd allan am noson a hanner i Gaerdydd gyda fy holl ffrindiau o Gymru!
Dyweda rhywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Dwi methu reidio beic dwy olwyn (roedd fy nhad yn llawer rhy warchodol ohonof).
O archif Ateb y Galw:
Cwrs cyntaf, prif gwrs a pwdin - beth fyddai'r dewis?
Prawn cocktail, porc pei oer gyda ffa pob poeth (Heinz), Eton Mess a gwydraid o wisgi Legend gan ddistyllfa Penderyn.
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod? Pam?
Bob Marley, er mwyn ei glywed yn siarad am ei fagwraeth yn Jamaica a'r ysbrydoliaeth tu 么l i'w holl ganeuon reggae.
Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?
Hedd Wyn - stori hardd ond trist.
Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?
Alun Wyn Jones pan mae Cymru yn curo Lloegr!
Pwy wyt ti'n ei enwebu?
Ifan Davies