Rhybudd i gefnogwyr aros adref i wylio Cymru a Ffrainc

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Roedd dros 70,000 o gefnogwyr yn bresennolan wnaeth Cymru sicrhau'r Gamp Lawn yn 2019

Mae cefnogwyr yn cael eu hannog i aros adref i wylio'r g锚m rhwng Cymru a Ffrainc wrth i d卯m Wayne Pivac anelu am Gamp Lawn yn y Stade de France nos Sadwrn.

Pe bai Cymru'n trechu'r Ffrancwyr, dyma fyddai'r 13eg tro iddyn nhw ennill y Gamp Lawn - gan ddod yn gyfartal 芒 record Lloegr.

Ond mae'r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething wedi rhybuddio y gallai cwrdd 芒 phobl eraill i'w gwylio arwain at "dwf sylweddol" yn lefelau Covid-19.

Bydd y gic gyntaf ym Mharis am 20:00 nos Sadwrn.

'Dathlwch gyda'ch cartref chi yn unig'

Rhybuddiodd Mr Gething yr wythnos hon, os ydy pobl yn casglu i wylio'r g锚m dyngedfennol - yn enwedig dan do - y byddai'n arwain at ledaeniad ehangach o'r feirws unwaith eto.

"Gall pedwar person o ddau gartref gwahanol gwrdd tu fas nawr," meddai.

"Rwy'n gwybod y bydd nifer ohonoch yn awyddus i wylio'r rygbi y penwythnos hwn a gobeithio dathlu Camp Lawn.

"Ond pl卯s dathlwch gydag aelodau o'ch cartref eich hunain yn unig er mwyn helpu i atal coronafeirws."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae 1,000 o gleifion Covid-19 yn parhau yn yr ysbyty ledled Cymru

Yn dilyn buddugoliaethau dros Iwerddon, Yr Alban, Lloegr a'r Eidal fe allai Cymru sicrhau'r Gamp Lawn am y pumed tro ers i'r bencampwriaeth groesawu'r Eidal yn 2000.

Fe fyddai hyn yn record, yn dilyn y llwyddiannau yn 2005, 2008, 2012 a 2019.

Byddai hefyd yn bedwaredd Camp Lawn i Alun Wyn Jones - mwy nag unrhyw Gymro arall.

'Blwyddyn anodd'

Ar flwyddyn arferol byddai teuluoedd a ffrindiau yn dod ynghyd yn eu cartrefi, neu dafarndai a chlybiau rygbi ar draws y wlad er mwyn gwylio g锚m mor allweddol.

Ond mae prif weithredwr GIG Cymru, Dr Andrew Goodall yn rhannu neges y Gweinidog Iechyd y byddai gwneud hynny eleni yn dadwneud y gwaith da dros y misoedd diwethaf.

"Mae arwyddion calonogol bod ein gweithredoedd wedi cael effaith yn cyfyngu ar ledaeniad coronafeirws yn ein cymunedau, ond mae 1,000 o gleifion yn parhau yn yr ysbyty ledled Cymru," meddai.

"Mae hi wedi bod yn flwyddyn anodd i'r GIG ac mae'n rhaid i ni bwysleisio eto yr angen i bobl ymddwyn o fewn y canllawiau a chanfod ffyrdd gwahanol o ddathlu."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae Cymru eisoes wedi ennill y Goron Driphlyg eleni ar 么l trechu Iwerddon, Yr Alban a Lloegr

Er eu bod wedi colli i Loegr y penwythnos diwethaf, Ffrainc ydy'r unig d卯m arall all ennill y Chwe Gwlad eleni ond byddai'n rhaid iddyn nhw ennill y ddwy g锚m nesaf er mwyn cael unrhyw obaith.

Mae gan y Ffrancwyr ddwy g锚m yn weddill wedi i'w g锚m yn erbyn Yr Alban gael ei gohirio ar 么l i nifer o chwaraewyr gael profion positif am Covid-19.

Mae disgwyl i'r g锚m honno nawr gael ei chwarae ar 26 Mawrth.