Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Torcalon i Gymru wedi g锚m anhygoel ym Mharis
Roedd torcalon i Gymru yn y Stade de France nos Sadwrn wrth i Ffrainc eu trechu mewn g锚m anhygoel a chwalu'r freuddwyd o gyflawni Camp Lawn arall.
Llwyddodd y Ffrancwyr sgorio cais yn yr eiliadau olaf er mwyn cipio'r fuddugoliaeth o 32-30.
Bydd tynged y bencampwriaeth felly yn dibynnu ar ganlyniad yr unig g锚m sydd eto i'w chwarae.
Cafodd y g锚m rhwng y Ffrancwyr a'r Alban yn gynharach yn y bencampwriaeth ei gohirio ar 么l i nifer o chwaraewyr gael profion positif am Covid-19.
Mae'r g锚m honno wedi cael ei haildrefnu ar gyfer nos Wener, 26 Mawrth.
Er mwyn atal Cymru rhag ennill Pencampwriaeth y Chwe Gwlad bydd yn rhaid i Ffrainc drechu'r Alban gyda phwynt bonws, a'u trechu o dros 21 pwynt.
Yn dilyn dechrau gwych i'r Ffrancwyr daeth cais iddynt o fewn chwe munud, gyda Romain Taofifenua yn croesi'r gwyngalch a Matthieu Jalibert yn ei throsi.
Roedd Cymru'n credu eu bod wedi taro 'n么l yn syth trwy Gareth Davies ond fe benderfynodd y dyfarnwr, gyda help y dyfarnwr fideo, bod Charles Ollivon wedi llwyddo i'w atal rhag tirio.
Ond funudau'n ddiweddarach roedd Cymru'n gyfartal, wrth i Dan Biggar drosi ei gais ei hun wedi 12 munud.
Daeth ail gais i'r Ffrancwyr yn syth wedi hynny, wrth i'r mewnwr Antoine Dupont groesi ger y pyst yn dilyn cic grefftus dros yr amddiffyn gan Brice Dulin.
Wedi dim ond 18 munud daeth pedwerydd cais y g锚m, gyda'r blaenasgellwr Josh Navidi yn sgorio i Gymru i'w gwneud yn gyfartal 14-14.
Aeth Cymru ar y blaen am y tro cyntaf gyda g么l gosb gan Biggar cyn i Romain Ntamack - ddaeth ymlaen wedi i Jalibert ddioddef anaf i'w ben - ymateb i'w gwneud yn gyfartal 17-17 ar hanner amser.
Cymru ddechreuodd yr ail hanner orau wrth i g么l gosb arall gan Biggar eu rhoi ar y blaen eto, cyn i Josh Adams gael cais yn dilyn cyfnod hir o asesu gan y dyfarnwr fideo.
Wedi i g么l gosb gan Ntamack leihau mantais Cymru i saith pwynt, roedd hi'n ymddangos bod Louis Rees-Zammit wedi sgorio cais gwych yn y gornel, ond roedd y t卯m dyfarnu o'r farn ei fod wedi gadael tir y chwarae.
Yn hytrach, fe welodd y prop Mohamed Haouas gerdyn melyn ac ychwanegodd Biggar g么l gosb arall i adfer mantais 10 pwynt y Cymry.
Gydag ychydig dros 10 munud yn weddill roedd Dulin yn credu ei fod wedi sgorio cais i Ffrainc, cyn i'r dyfarnwyr benderfynu bod Paul Willemse wedi troseddu ychydig gymalau cyn hynny.
Fe gafodd chwaraewr ail reng y Ffrancwyr gerdyn coch am y drosedd honno, sef rhoi ei fysedd yn llygaid Wyn Jones.
Aeth Cymru i lawr i 14 dyn ychydig funudau'n ddiweddarach, gyda Taulupe Faletau yn gorfod gadael y maes ar 么l cael cerdyn melyn, cyn i Liam Williams hefyd weld yr un cerdyn eiliadau'n unig wedi hynny.
Llwyddodd Ollivon i gymryd mantais o'r faith fod gan y Ffrancwyr ddyn ychwanegol gan groesi am gais, ac fe wnaeth Ntamack ei throsi i leihau mantais Cymru i dri phwynt gyda munudau'n unig yn weddill.
Wedi i'r cloc fynd heibio i'r 80 munud, fe wnaeth Dulin sgorio yn y gornel er mwyn cipio'r fuddugoliaeth, a chadw'r bencampwriaeth yn fyw.