大象传媒

Oriel: 12 mis o gyfyngiadau Covid

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig

Mae Covid-19 wedi effeithio pob rhan o fywyd gan droi digwyddiadau bob dydd yn rhai anarferol iawn.

Dyma oriel luniau gan y ffotograffydd Kristina Banholzer, o'r Felinheli, o'i phrofiad hi a'i chymuned o'r 12 mis diwethaf.

Mawrth 2020

Ffynhonnell y llun, Kristina Banholzer

Roedd mis Mawrth yn fis pryderus, a neiniau a theidiau yn mynd i mewn i gyfnod clo cyn gweddill y cyhoedd. Dyma un o'n hymweliadau cyntaf o'r cyfnod i weld Nain a Taid cyn i'r clo mawr ddigwydd. Blwyddyn yn ddiweddarach tydyn nhw dal heb adael y t欧.

Ebrill 2020

Ffynhonnell y llun, Kristina Banholzer

Doeddwn i ddim yn disgwyl cael fy mhenblwydd yn 32 oed o dan glo, a sicr ddim yn disgwyl gweld geiriau fel hyn wedi eu sgwennu ar amlen fy ngherdyn gan Dad.

Mai 2020

Ffynhonnell y llun, Kristina Banholzer

Penblwydd cyntaf fy merch, Greta. Diwrnod hwyliog ond anodd. Treulio amser efo'n gilydd fel teulu newydd ond gorfod canu "Penblwydd Hapus" a chwythu canhwyllau efo gweddill y teulu dros Zoom.

Mehefin 2020

Ffynhonnell y llun, Kristina Banholzer

Roedd yr haf yn un hir a braf yn Y Felinheli ac fe ges i'r cyfle i dynnu lluniau pobl y pentref yn eu gerddi hyfryd. Dyma Nerys a Gwil - yn falch o'u gardd amryliw a chael cwrw oer ar 么l y gwaith caled.

Gorffennaf 2020

Ffynhonnell y llun, Kristina Banholzer

Dyma 'Nana' ar ei phenblwydd yn 100 oed. Nain i ffrindiau annwyl sy'n edrych ar ei h么l, ac yn falch o gael llun i nodi'r diwrnod pwysig hwn.

Awst 2020

Ffynhonnell y llun, Kristina Banholzer

Mae'r gampfa yn y pentre' wedi bod yn bwysig i bobl leol ers rhai blynyddoedd a phrofiad rhyfedd oedd dogfennu'r rheoliadau newydd wedi i'r ganolfan ail-agor ym mis Awst.

T芒p melyn ar y llawr i ddangos lle'r oedd rhaid aros i weithio allan, a photeli sanitiser wrth bob gorsaf i olchi'r offer ar 么l ei defnyddio.

Medi 2020

Ffynhonnell y llun, Kristina Banholzer

Roedd dychwelyd yn 么l i'r ysgol fis Medi yn wahanol yn 2020 gyda'r plant yn gweld athrawon a staff yr ysgol yn gorfod gwisgo masg. Dyma Sioned Jones, y dirprwy brifathrawes, ar iard yr ysgol yn ystod y dyddiau cynnar ar 么l i'r ysgol ail-agor. Hyfryd oedd cael clywed s诺n y plant yn chwarae ar yr iard.

Hydref 2020

Ffynhonnell y llun, Kristina Banholzer

Newyddion annisgwyl mis Hydref - 'toriad t芒n' i Gymru. Dyma Greta a finnau yn cael darllen stori wrth wylio'r haul yn machlud ac yn sb茂o 'mlaen at ddyddiau gwell.

Tachwedd 2020

Ffynhonnell y llun, Kristina Banholzer

Bu staff meddygfa Y Felinheli yn bryderus wedi i Mark Drakeford ddweud y gallai'r gwasanaethau iechyd fod o dan straen mawr os na fyddai pobl yn dilyn y rheolau wedi i'r cyfnod clo byr ddod i ben.

Rhagfyr 2020

Ffynhonnell y llun, Kristina Banholzer

Nadolig yn ein t欧 ni. Er ei bod yn gyfnod tawel, fe gymerodd Greta ei chamau cyntaf wrth addurno'r goeden 'Dolig. Nadolig bythgofiadwy!

Ionawr 2021

Ffynhonnell y llun, Kristina Banholzer

Newyddion anodd i rieni fis Ionawr - ni fydd plant yn dychwelyd yn 么l i'r ysgol fis yma. Rhys a Heti yn y gegin efo offer addysgu lliwgar mewn gwers celf wrth y bwrdd gegin.

Chwefror 2021

Ffynhonnell y llun, Kristina Banholzer

Babi bach wedi cyrraedd ein teulu ni, ond dyma'r unig ffordd allwn ni weld Lewys Gerallt yn ddiogel ar hyn o bryd. Yn y cyfamser mae mis Chwefror yn mynd i fod yn gyfle i Alun ddod i adnabod ei frawd bach newydd.

Mawrth 2021

Ffynhonnell y llun, Kristina Banholzer

Blwyddyn ers dechrau'r cyfnod clo cyntaf, mae cyflwyniad y brechlyn yn golygu bod pobl Y Felinheli yn cael pigiad Covid-19 yn y syrjeri leol.

Dyma ffurflen doedd neb yn disgwyl arwyddo flwyddyn yn 么l.

Hefyd o ddiddordeb: