Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Dyfodol 'llewyrchus' i d卯m Cymru meddai Pivac
Mae t卯m rygbi Cymru wedi derbyn tlws Pencampwriaeth y Chwe Gwlad 2021, a'r Goron Driphlyg, mewn seremoni fechan yn eu canolfan ymarfer.
Daeth y t卯m i'r brig yn y gystadleuaeth wedi i Ffrainc golli i'r Alban nos Wener.
Dyma'r chweched tro i Gymru ennill y bencampwriaeth ers 2000.
Dywedodd prif hyfforddwr Cymru, Wayne Pivac, bod y garfan wedi wynebu 'sawl eiliad emosiynol' dros y saith diwrnod diwethaf ar 么l iddyn nhw golli i Ffrainc dydd Sadwrn diwethaf, a methu sicrhau'r Gamp Lawn.
Mewn dathliad distaw ym mhencadlys y garfan ym Mro Morgannwg fe dderbyniodd y chwaraewyr eu medalau, cyn i'r capten, Alun Wyn Jones a'r is-gapten, Justin Tipuric, godi'r tlysau.
Cyn cyflwyno'r medalau i'r chwaraewyr dywedodd Wayne Pivac y byddan nhw'n "falch iawn pan fyddan nhw'n edrych yn 么l ar y bencampwriaeth."
"Roedd yn daith emosiynol, lan a lawr, dros y saith niwrnod diwethaf," meddai'r gwr o Seland Newydd.
"Roedd ein perfformiad gorau o bell ffordd yn erbyn y Ffrancwyr, ac roeddwn i'n meddwl ein bod ni wedi gwneud digon hanner ffordd trwy'r ail hanner i fod wedi ennill y g锚m honno, ond doedd hi ddim i fod.
Dyfodol 'llewyrchus'
"Doedden ni ddim yn gwybod a oedd hynny'n ddigon i ennill y bencampwriaeth, ac yna aros saith diwrnod am yr ornest honno (Ffrainc yn erbyn yr Alban) ac yna mynd trwy'r ornest honno."
Dywedodd Pivac ei bod hi wedi cymryd nes dydd Mercher iddo fedru dod dros penwythnos diwethaf, ond ei fod yn edrych ymlaen at ddyfodol llewyrchus gyda'r garfan.
"Byddwn yn parhau i wella", meddai, "(a) byddwn yn tynnu llinell o dan hyn nawr a gweld sut ydyn ni, rydyn ni mewn sefyllfa eithaf cyfforddus ar hyn o bryd."
Canmoliaeth i Pivac
Yn y cyfamser mae cadeirydd Undeb Rygbi Cymru wedi canmol Wayne Pivac am arwain Cymru i'r teitl wedi blwyddyn gyntaf simsan wrth y llyw.
O dan arweinyddiaeth Pivac mae'r t卯m cenedlaethol wedi troi cornel ar 么l ennill dim ond tri allan o 10 Prawf yn 2020.
"Roedden ni'n gwybod o'r cychwyn cyntaf bod yn rhaid i ni lynu gan Wayne gan ei fod yn mynd i gael dull gwahanol o weithredu," meddai Robert Butcher.
"Rydyn ni'n falch iawn o gael y gefnogaeth sydd gyda ni ac rydyn ni'n ymwybodol iawn o'r feirniadaeth sy'n codi ar brydiau.
"Roedden ni'n gwybod o'r pwynt y cafodd Wayne ei ddewis y byddai'n mynd i fod yn anodd", meddai.
"Roeddem yn ddigon realistig i sylweddoli nad oedd yn mynd i fod yn gromlin barhaus i fyny a gall fod yn gylchol."