Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Y pandemig 'wedi dwys谩u'r heriau yng nghefn gwlad'
- Awdur, Craig Duggan
- Swydd, Gohebydd 大象传媒 Cymru
Er bod cyfraddau Covid wedi bod yn gymharol isel mewn ardaloedd gwledig mae'r pandemig wedi amlygu heriau oedd eisoes yn wynebu trigolion cefn gwlad, ac mewn rhai achosion mae problemau wedi dwys谩u, medd adroddiad newydd.
Dywed yr adroddiad fod cysylltiadau band eang gwael wedi golygu nad yw gweithio gartref yn ymarferol i rai, ac mae mwy o bwysau ar y farchnad dai wrth i eiddo gwledig gael ei brynu gan bobl o ddinasoedd.
Mewn adroddiad ar effeithiau'r pandemig ar gefn gwlad, mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnig argymhellion mewn saith maes polisi ac yn galw am ymateb integredig i helpu adfywiad.
Maen nhw'n cynnwys yr angen am fwy o dai fforddiadwy i ateb galw lleol, sicrhau mwy o amrywiaeth yn yr economi wledig a cheisio cadw gwariant yn lleol.
Cyfradd uwch ar ffyrlo
Mae canran sylweddol - tua thraean o bobl Cymru - yn byw mewn siroedd sy'n cael eu diffinio fel rhai gwledig - Sir Fynwy, Powys, Ceredigion, Sir Benfro a Sir G芒r; a holl siroedd y gogledd heblaw am Wrecsam a Sir y Fflint.
Ar y cyfan mae cyfraddau Covid wedi bod yn gymharol isel yng nghefn gwlad, gyda'r isaf trwy Brydain yng Ngheredigion.
Ond mae ymchwil Adran Daearyddiaeth Prifysgol Aberystwyth yn dangos bod y pandemig wedi taro cymunedau gwledig.
Mae rhwng chwarter a thraean o weithwyr mewn ardaloedd gwledig wedi cael eu rhoi ar ffyrlo, sy'n gyfradd uwch na'r cyfartaledd, ac roedd cynnydd sylweddol mewn diweithdra yn ystod y cyfnod clo cyntaf.
Ym mis Hydref 2020 roedd y gyfradd ddiweithdra mewn siroedd gwledig wedi dyblu o'i gymharu 芒'r sefyllfa flwyddyn yn gynt.
Ym Mhowys (+170%) a Cheredigion (+133%) oedd y cynnydd mwyaf.
Yn 么l Dr Rhys Dafydd Jones mae nifer o heriau oedd eisoes yn wynebu cefn gwlad wedi dwys谩u yn ystod y pandemig.
"Un o'r pethau sy' wedi'i amlygu fwyaf yw'r anghydraddoldebau sydd ar waith yng nghefn gwlad," meddai.
"Ar y naill law mae cyfraddau is o bobl sy' wedi diodde' gyda Covid mewn ardaloedd gwledig, ond mae ffactorau eraill fel y nifer o weithwyr sy wedi'u gosod ar ffyrlo, anghydraddoldeb hefyd o ran gweithio gartref.
"Dwi'n ddigon ffodus i gael band eang cyflym adre yng nghefn gwlad Ceredigion ond nid pawb sydd mor lwcus ac mae hynny'n creu heriau wrth geisio gweithio gartref.
"Hefyd mae tai fforddiadwy yn her, sy'n bwysig iawn i roi cyfle i bobl ifanc fyw yn eu cymunedau lle cawson nhw eu magu."
Mewn rhai siroedd gwledig, yn 么l ffigyrau'r Gofrestrfa Tir, roedd cynnydd sylweddol ym mhrisiau tai rhwng Mehefin a Rhagfyr y llynedd - Sir Benfro 17% yn uwch, Conwy 16%, Gwynedd 15% ac Ynys M么n 13% yn uwch.
Mae Scott Elder yn gweithio mewn siop syrffio yng nghanol Aberteifi. Mae e'n dal i fyw gartre gyda'i rieni yn Llangrannog ac yn dweud bod prynu t欧 yn ei ardal enedigol yn amhosib.
"Sa i'n gallu ffeindio lle i fyw," meddai. "Yn enwedig ble dwi'n byw mae mwyafrif y tai yn second homes. Maen nhw jest llawer rhy ddrud.
"Mae eisiau cael rhyw fath o help i bobl fel fi sydd wedi tyfu lan yma, jest i ddweud 'ni mo'yn cadw chi 'ma, so ni mo'yn i chi gorfod symud i ffwrdd'."
Gor-ddibynnol ar amaeth a thwristiaeth
O ran yr economi, mae'r adroddiad yn galw am fwy o amrywiaeth gan ddweud bod cefn gwlad yn or-ddibynnol ar amaeth a thwristiaeth.
Mae'n dweud hefyd bod angen ceisio gwasgaru'r ymwelwyr i rannau eraill o'r wlad, am fod dros hanner yr ymwelwyr yn tueddu i gasglu yn Sir Benfro, Eryri a Phowys.
Dywedodd Jonathan Thomas, cyfarwyddwr Castell Aberteifi: "Byddai fe yn dda i ni os byddai pethau yn gwasgaru bach yn fwy.
"Ni wedi gweld twristiaeth yng Ngheredigion yn cynyddu yn y blynyddoedd diwethaf.
"Mae blwyddyn anodd arall o'n blaen ni fi'n credu, a ni'n mynd i orfod bod yn hyblyg fel oedd rhaid bod y flwyddyn ddiwetha'."
Trefi 'clyfar'
Mae adroddiad Prifysgol Aberystwyth yn dweud hefyd bod angen cymorth ar drefi gwledig. Y nod yw creu mwy o 'drefi clyfar' fel Aberteifi.
Mae'r dref yn ne Ceredigion yn enghraifft dda, medd yr adroddiad, am ei bod yn gwneud defnydd o dechnoleg digidol.
Mae rhwydwaith di-wifr am ddim ar gael yng nghanol y dref ac mae ap ar gael hefyd i amlygu yr hyn sydd gan y dref i'w gynnig.
Menter gymunedol 4CG wnaeth arwain y gwaith o droi Aberteifi yn 'dref glyfar', gan osod system ddi-wifr yn 2016/17.
Golyga hynny, medd Clive Davies o 4CG, bod modd "mesur niferoedd y bobl sydd yn y dref, faint o amser maen nhw'n aros yma".
"Mae'n rhoi'r gallu i ni wedyn i roi'r wybodaeth yma i bob busnes yn y dref yn fisol, iddyn nhw ystyried penderfyniadau yngl欧n 芒 beth i gynnig, pryd i agor a falle gwneud rhywbeth gyda'r nos hyd yn oed," meddai.
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae 10 o siopau newydd wedi agor yn Aberteifi, yn wahanol iawn i brofiad trefi eraill, sy' wedi gweld nifer o enwau mawr y stryd fawr yn cau.
Yn 么l Mr Davies mae rhai trefi gwledig eraill yn ystyried dilyn esiampl Aberteifi.
"Dwi'n credu bod trefi yng Ngwynedd ac Ynys M么n am greu 'trefi clyfar', a dwi'n gobeithio byddan nhw'n gallu dilyn beth y'n ni wedi gwneud a bod modd i ni ddysgu oddi ar ein gilydd."