大象传媒

Tarddiad 5 o eiriau ac ymadroddion y gwanwyn

  • Cyhoeddwyd

Gyda'r gwanwyn yn dod 芒 gobaith newydd i fyd natur, dyma'r Athro Ann Parry Owen, Golygydd H欧n Geiriadur Prifysgol Cymru, i egluro beth yw ystyr rhai o'r geiriau a'r ymadroddion Cymraeg sy'n dathlu'r tymor.

Hirlwm

Ffynhonnell y llun, Ffotonant

Dyma air a'i wreiddiau yng nghymdeithas amaethyddol y gorffennol, ond sy'n addas iawn i ddisgrifio'r flwyddyn ddiwethaf ar ei hyd.

Fe'i defnyddid erstalwm am y cyfnod 'hir' a 'llwm' rhwng diwedd y gaeaf a dechrau'r gwanwyn, pan fyddai'r bwyd a gedwid mewn storfeydd ar gyfer bwydo'r teulu a'r anifeiliaid dros y gaeaf ar ddarfod, neu hyd yn oed wedi darfod.

Disgrifid misoedd Mawrth ac Ebrill fel 'hirlwm y gwanwyn', ac edrychid allan yn ofalus am unrhyw arwydd fod y tywydd yn cynhesu a'r ddaear yn ailddeffro ac felly'n barod i ddechrau cynhyrchu bwyd ar gyfer y flwyddyn i ddod.

'Un wennol ni wna wanwyn' fyddai rhybudd y dyn a'i wydr yn hanner gwag wrth weld ambell lygedyn o obaith, ond i'w gymar a'i wydr yn hanner llawn, ergyd dros dro fyddai'r ambell gawod aeafol a geid yn y cyfnod hwn, roedd pethau'n gyffredinol yn gwella. Meddai'r hen bennill:

Er maint sydd yn y cwmwl tew

O law a rhew a rhyndod,

Fe ddaw eto haul ar fryn,

Nid ydyw hyn ond cawod.

'Tridiau'r deryn du a dau lygad Ebrill'

Ffynhonnell y llun, Sion Jones

Roedd deall y tymhorau a'r tywydd, a'u heffaith ar y tir, y cnydau a'r anifeiliaid yn gwbl allweddol i'r ffermwr llwyddiannus erstalwm (fel heddiw), gan gynnwys gwybod pryd byddai'r amser gorau i hau hadau.

Rwy'n arbennig o hoff o'r hen ymadrodd hwn sy'n nodi'r amser gorau ar gyfer hau hadau ceirch yn y gwanwyn: sef yn ystod tridiau olaf Mawrth a dau ddiwrnod cyntaf Ebrill; neu, yn 么l eraill, ar 么l gweld yr aderyn du yn nythu ers tridiau, a gweld dau flodyn llygad Ebrill, sef blodyn menyn neu felyn y gwanwyn (lesser celandine).

Cwningod

Ffynhonnell y llun, iStock

Yn gam neu'n gymwys, mae'r gwningen bellach wedi dod yn rhan annatod o ddathliadau'r Pasg, er bod delweddau o gwningod yn cludo basgedi llawn wyau yn peri peth dryswch i blant bach!

Benthyciad o hen air Saesneg 'konyng' ('coney', yn ddiweddarach), yw'r gair 'cwningen', a chyda'r Normaniaid y daeth y gwningen fodern i Brydain gyntaf. Roedd cwningod yn bwysig o ran eu cig, a chwninger (o'r Saesneg 'conyger') y gelwid darn o dir a oedd wedi ei neilltuo ar gyfer eu magu.

Mae Gwninger yn enw cyffredin ar ffermydd mewn sawl ardal o Gymru. Yn wahanol i'r gwningen, mae'r sgwarnog yn greadur cynhenid, fel y mae tarddiad ei enw yn profi. Hen air am glust oedd 'ysgyfarn' (fel yn y Llydaweg 'scouarn'), felly ystyr ysgyfarnog yw creadur ac iddo glustiau amlwg!

Llygaid y dydd

Fel y mae'r haul yn cryfhau bob dydd, braf yw gweld llygaid y dydd yn addurno'r gweirgloddiau a'r lawntiau. Yn ogystal ag edrych fel llygaid (gyda'r gannwyll felyn yn y canol wedi ei hamgylchynu gan betalau gwynion), mae'n agor yn y bore wrth i'r haul ddechrau tywynnu, ac yn cau gyda'r nos wrth i'r haul ymachlud. (Yr un yw'r esboniad am yr enw Saesneg 'daisy', a ddaw o 'day's eye'.)

Gallwn olrhain yr enw llygaid y dydd yn 么l i'r bedwaredd ganrif ar ddeg, gan fod ei flodau a'i ddail yn cael eu defnyddio at wneud meddyginiaethau erstalwm.

Y ddraenen ddu a'r ddraenen wen

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae blodau gwyn y ddraenen ddu yn un o arwyddion cynnar y gwanwyn

Blodau gwyn sydd gan y ddraenen ddu a'r ddraenen wen, ond y ffordd hawdd i gofio'r gwahaniaeth rhyngddynt yw bod blodau gwyn y ddraenen ddu yn blodeuo cyn i'r dail ymddangos. Felly mae brigau du'r llwyn yn amlwg pan fydd yn ei flodau yn gynnar yn y gwanwyn. Dyma blackthorn y Sais.

Mae'r ddraenen wen, ar y llaw arall, yn blodeuo ym mis Mai a dechrau Mehefin, pan fydd y tywydd wedi cynhesu: 'Pan flodeua'r ddraenen wen, / Y mae'r tymor rhew ar ben', meddai'r hen air. Dyma hawthorn y Sais.

Enw arall ar y ddraenen wen yn Gymraeg yw 'ysbyddaden', ac os cofiwch, Ysbaddaden Bencawr oedd enw tad Olwen yn y chwedl 'Culhwch ac Olwen', am fod ei farf yn bigog fel drain!

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig