Dioddefwr John Owen: Dim syniad 'pa mor sinistr oedd y trap'

Disgrifiad o'r llun, Fe laddodd John Owen ei hun yn 2001 cyn wynebu achos llys

"Roedd e'n galw fi draw i'w swyddfa i drafod ryw sgript neu speech ro'n i'n gweithio arno. Roedd e'n cloi y drws a thynnu zip fy nhrowsus i lawr. Roedd fy nghalon i'n suddo achos ro'n i'n gwybod beth oedd yn dod nesa'."

Dyna eiriau un sy'n dweud iddo gael ei gam-drin gan y cyn-athro drama John Owen, mewn rhaglen ddogfen newydd.

Yn rhaglen John Owen: Cadw Cyfrinach ar S4C, mae'r dioddefwr yn dweud i Owen, cyn-athro yn Ysgol Gyfun Rhydfelen, ddechrau meithrin perthynas gydag o pan yn "ifanc iawn", ac nad oedd yn deall "pa mor sinistr oedd y trap o'n i ynddo yn mynd i droi".

Dyma'r tro cyntaf i'r dioddefwr siarad am yr hyn ddigwyddodd yn gyhoeddus, a dywedodd S4C ei fod wedi "meddwl yn ddwys cyn penderfynu gwneud hynny".

'Mynnu teyrngarwch'

Mae'r rhaglen, fydd i'w gweld ar S4C ar 7 Ebrill, yn cyfeirio at flynyddoedd o gam-drin yn Ysgol Gyfun Rhydfelen rhwng 1977 a 1992.

Mae'r dioddefwr yn dweud bod y cyfan wedi dechrau pan oedd yn "ifanc iawn".

"Ro'n i'n joio perfformio, canu, adrodd a cystadlu - fi'n cofio meddwl reit - I must get him to notice me. Roedd e'n foi hynod o charismatic a roeddet ti eisiau iddo fe dy glodfori di."

Gan gyfeirio at lwyddiant sioeau Ysgol Gyfun Rhydfelen a llwyddiant yr ysgol i gael plant o gartrefi di-Gymraeg i deimlo'n angerddol am yr iaith dywed y dioddefwr: "Roedden ni'n gweithio'n galed ar y sioeau yna. Roedd John Owen wastad yn mynnu teyrngarwch gennych chi.

"Os nad o'ch chi 100% gyda fe - ro'ch chi yn erbyn e a chi oedd y gelyn. Dyna un o'r ffyrdd roedd e'n maniwpiwleiddio ni.

"Oedd e'n gallu helpu fi gyda beth o'n i moyn yn fy mywyd ac roedd rhaid i fi wneud y fargen yma gyda'r diafol.

"A pan ddechreuodd yr holl gam-drin rhywiol ro'n i'n switcho off a trio rhoi fy hun yn rhywle arall."

Fe laddodd John Owen ei hun yn 2001 cyn wynebu achos llys. Roedd wedi cael ei gyhuddo o ymosod yn rhywiol ar gyn-ddisgyblion.

Fe wnaeth hynny arwain at ymchwiliad Clywch yn 2004 - sef ymchwiliad gan Peter Clarke, Comisiynydd Plant Cymru ar y pryd.

Roedd yr yn erbyn rhai disgyblion yn Ysgol Gyfun Rhydfelen dros gyfnod o flynyddoedd.

'Mynd am ddrinc wedi iddo ladd ei hun'

Yn ystod y rhaglen mae'r dioddefydd yn dweud bod ochr hoffus i'r dyn wnaeth ei gam-drin er ei fod yn ei gas谩u am yr hyn a wnaeth iddo.

"Mi oedd e'n ddyn oedd yn rhoi llwyth o gyngor i fi, oedd 'na ochr addfwyn a charedig iawn iddo fe ac roedd e'n gallu tynnu pethe gwych allan ohona'i," meddai.

"Yn emosiynol, 'wi dal yn ddig gyda fe. 'Wi'n beio fe am anafu fi, ond hefyd ro'n i'n gallu 'neud esgusodion drosto fe a gweld e fel victim."

Ychwanegodd: "Y noson glywon ni fod John Owen wedi lladd ei hun, fe aethon ni gyd am ddrinc. O'r diwedd, roedd y cyfan drosodd."

Bu John Owen hefyd yn sgriptio a chynhyrchu'r gyfres ddrama i bobl ifanc Pam Fi Duw? i S4C rhwng 1997 a 2002.

Yn ogystal 芒 darlledu profiadau y dioddefwr, bydd y rhaglen yn clywed hefyd gan rai o actorion Pam Fi Duw?, a'r newyddiadurwr Eifion Glyn, fu'n gohebu ar y stori ac yn ymchwilio i hanes John Owen am flynyddoedd lawer.

Dywed llefarydd ar ran S4C: "A hithau bellach bron yn 20 mlynedd ers i John Owen ladd ei hun mewn caraf谩n ym Mhorthcawl wedi iddo beidio ymddangos i sefyll ei brawf yn Llys y Goron Caerdydd, mae'r creithiau dal yn fyw ym meddyliau'r dioddefwyr."

Bydd John Owen: Cadw Cyfrinach ar S4C ar 7 Ebrill am 21:00.