Chwe Gwlad Merched: Ffrainc 53-0 Cymru

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae t卯m rygbi merched Cymru wedi colli'n drwm unwaith yn rhagor yn erbyn chwaraewyr rhannol-broffesiynol Ffrainc yng ng锚m gyntaf ymgyrch Chwe Gwlad 2021.

Hon hefyd oedd g锚m gyntaf y prif hyfforddwr Warren Abrahams wrth y llyw, a g锚m gystadleuol gyntaf y garfan ers blwyddyn oherwydd y pandemig.

Sgoriodd y Ffrancwyr wyth cais i guro Cymru 53-0, gan ragori ar sg么r y llynedd o 50-0.

Roedd hi'n 31-0 wedi hanner cyntaf a welodd pum cais - tri gan Caroline Boujard, ac un yr un gan Agathe Sochat ac Emeline Gros.

Roedd yna gais arall i Gros yn yr ail hanner, un gan Emilie Boulard a chais hwyr gan yr eilydd Laure Touye

Daeth gweddill y pwyntiau yn sgil pum trosiad a chiciau cosb Pauline Bourdon.

Treuliodd Cymru rannau helaeth o'r g锚m yn amddiffyn. Eto i gyd roedd yna gyfnodau o benderfynoldeb a dycnwch gan y chwaraewyr, yn arbennig yn yr ail hanner, wnaeth atal Ffrainc rhag ychwanegu hyd yn oed mwy o bwyntiau.

Dywedodd y capten Siwan Lillicrap wrth 大象传媒 Cymru wedi'r g锚m: "Gallwch chi ddim barnu ein hymdrech, ein parodrwydd i weithio...

"Fel sgwad mae angen i ni gael cysondeb, a mae gyda ni hynny gyda Warren."

Yn hytrach na'r drefn arferol lle mae pob t卯m yn wynebu ei gilydd, mae'r gwledydd yn cael eu rhannu'n ddau gr诺p eleni ac yn chwarae dwy g锚m gr诺p cyn penwythnos y gemau terfynol.

Iwerddon yw'r t卯m arall sydd yng ngr诺p Cymru, sef Gr诺p B, a bydden nhw'n wynebu ei gilydd ddydd Sadwrn nesaf ym Mharc yr Arfau Caerdydd