Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Beth yw ap锚l Un Nos Ola Leuad?
Yn un o nofelau amlycaf yr iaith Gymraeg, does dim dwywaith bod Un Nos Ola Leuad gan Caradog Prichard yn un o'r gweithiau llenyddol Cymraeg mwyaf pellgyrhaeddol.
Eleni, mae 60 mlynedd ers i Wasg Gee ei chyhoeddi'n gyntaf. Ers hynny, mae wedi'i throsi i naw o ieithoedd, yn nofel osod ar gwrs TAG UG/U CBAC, wedi'i haddasu'n ffilm arobryn ac yn ddrama lwyfan ac wedi'i hail-argraffu ddegau o weithiau gyda'r diweddaraf yn 2017 gan Y Lolfa.
Honnir gan nifer o feirniaid llenyddol ei bod gyda'r nofel Gymraeg orau erioed. Dywed llu o awduron cyfoes ei bod yn hynod ddylanwadol arnynt ac yn stori i fynd yn 么l ati dro ar 么l tro. Felly beth yw ei ap锚l hi, 60 mlynedd yn ddiweddarach?
Yn siarad gyda rhaglen Stiwdio ar 大象传媒 Radio Cymru, dywedodd y llenor Manon Steffan Ros, "Beth sy'n fy rhyfeddu i am Un Nos Ola Leuad ydy bod Bethesda y nofel yn teimlo fel Bethesda r诺an i fi hefyd.
"Rhaid i mi gyfaddef fy mod i'n gyfarwydd efo'r ffilm ymhell cyn i mi ddarllen y nofel. Ond fel es i'n h欧n a darllen y nofel, mae hi'n un o'r rheiny dw i'n mynd yn 么l ati bob ychydig flynyddoedd a jest yn rhyfeddu at ba mor real ydy'r sefyllfaoedd a'r cymeriadau i gyd."
Yn 2017 roedd yr awdur Megan Angharad Hunter yn y chweched dosbarth pan ddarllenodd hi'r nofel am y tro cyntaf. "Dw i'n cofio, yr iaith wnaeth daro fi'n gyntaf achos do'n i 'rioed wedi darllen llyfr Cymraeg oedd efo iaith mor onest a chredadwy. O'n i wedi gwirioni efo'r llyfr."
Wrth ystyried ei bod hi'n dal i gael ei hastudio drigain mlynedd ar 么l ei chyhoeddi, dywedodd Manon, "Dyna destament i ba mor bwerus ydy'r nofel, ynde, ei bod hi'n gyfarwydd i ni fel darllenwyr dal i fod.
"Ac fel mae Megan yn ei ddweud, mae'r ffordd mae'r nofel wedi'i sgwennu, y ffordd mae Caradog Prichard yn defnyddio iaith mor gynnil ac eto mor real. Dydy hi 'rioed wedi teimlo fel nofel hen ffasiwn i mi."
Mae nofel gyntaf Megan, tu 么l i'r awyr, yn defnyddio tafodiaith gref sy'n adlewyrchu "r诺an hyn" fel y disgrifiodd Nia Roberts hi wrth holi Megan ar raglen Stiwdio am ddylanwad Un Nos Ola Leuad ar hynny, "Tan r诺an, do'n i ddim wedi ystyried y peth.
"Ond dw i'n meddwl y bysa hi'n amhosib dweud bod hi ddim wedi dylanwadu ar arddull tu 么l i'r awyr achos mi wnaeth darllen Un Nos Ola Leuad fy helpu i sylweddoli bod sgwennu mewn tafodiaith onest yn arf sgwennu sy'n gallu cyfleu cymaint, a dod 芒 chymeriad yn gwbl fyw."
"Portreadwr rhyfeddol"
Gellir dadlau bod un person heddiw yn fwy cyfarwydd na neb arall ag Un Nos Ola Leuad, sef y golygydd ac academydd Menna Baines.
Mae wedi astudio'r nofel yn fwy na thrwyadl ac wedi cyhoeddi cyfrol am waith yr awdur sef, Yng Ngolau'r Lleuad: Ffaith a Dychymyg yng Ngwaith Caradog Prichard. Pan holwyd hi am ap锚l y nofel, dywedodd, "Gogoniant y nofel yw ei bod hi'n gafael yn rhywun o'r dudalen gyntaf a dydy hi'm yn gollwng gafael wedyn tan y diwedd.
"'Dan ni'n cydymdeimlo gymaint efo'r bachgen 'ma ond eto dydy hi byth yn mynd yn sentimental. Mae o'n bortreadwr rhyfeddol.
"Mae'n stori bwerus, ddirdynol... am chwalfa yn hanes y bachgen lle mae un ergyd ar 么l y llall yn dod i'w ran. Mae'n ddarlun o gymdeithas benodol, sef Bethesda (er nad yw'n cael ei henwi yn y nofel). Mae ei hap锚l i bawb 'chydig yn wahanol."
Un arall sydd wedi astudio'r nofel, a gwaith Caradog Prichard yn ehangach, yw J. Elwyn Hughes. Fe ddywedodd ef, "dw i'n meddwl ei fod wedi apelio am bod o'n blentyn bach yn dweud ei hanes, a phlentyn bach yn mynd drwy gyfnodau anodd ond yn cael hwyl hefyd. Felly mae 'na gymysgedd yma ac acw o dristwch go iawn a hefyd o hwyl."
'Haeddu cynulleidfa fwy'
Yn 1973, addasodd Menna Gallie y nofel i'r Saesneg - her nad oedd Caradog Prichard ei hun am ymgymryd 芒 hi: "Fuodd gen i erioed galon i ysgrifennu'n Saesneg. Methiant llwyr fydda hi wedi bod taswn i wedi'i thrio hi'n Saesneg dw i'n credu.".
Yn siarad gyda rhaglen Heddiw yn yr un flwyddyn dywedodd Menna Gaille, "Mae hwn yn lyfr gwych ac mae'n haeddu [cynulleidfa] lawer yn fwy na sydd yng Nghymru fach. Mae scene yn y nofel pan mae'r bachgen yn gadael ei fam yn yr asylum. O'n i'n llefain y d诺r [yn ei darllen]. 'Wy ddim yn meddwl y bues i 'da mwy o empathi erioed gydag awdur. Wy'n teimlo fod yr empathi amser 'ny yn berffaith.
"Os gall awdur wneud i'r hack sy'n cyfieithu i lefain y d诺r mae wedi creu rhyw awyrgylch sy'n wir, sy'n berffaith."
Gwrandewch ar bennod arbennig o Stiwdio yn dathlu 60 mlynedd o Un Nos Ola Leuad.
Hefyd o ddiddordeb