Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Gwyddonwyr yn galw am wirfoddolwyr i roi gwaed
Mae gwyddonwyr yn galw am bobl sydd wedi dal Covid-19 i roi gwaed er mwyn helpu gydag astudiaeth geneteg arloesol.
Mae'r astudiaeth , sy'n cael ei chyflawni yng Nghymru gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, yn dadansoddi genynnau pobl sydd wedi dal y feirws.
Y bwriad yw darganfod pam fod rhai wedi cael symptomau ysgafn, neu ddim symptomau o gwbl, tra bod eraill wedi mynd yn hynod o s芒l.
Mae'r astudiaeth yn cyfrannu'n barod tuag at y frwydr yn erbyn Covid, gyda canlyniadau rhagarweiniol yn helpu i ddod o hyd i driniaethau newydd.
Ond er mwyn i'r astudiaeth barhau, mae'n rhaid i'r gwyddonwyr recriwtio 2,500 mwy o bobl o gefndiroedd amrywiol.
Yn ogystal 芒 phobl o gymunedau BAME, maen nhw hefyd yn awyddus i gael mwy o ddynion i wirfoddoli.
Cyfrannu o adref
I annog cymaint o bobl 芒 phosib i gyfrannu at yr astudiaeth, bydd gwirfoddolwyr yn medru gwneud apwyntiad i gael nyrs i ddod i'w cartref i gymryd sampl gwaed.
Mae'r system apwyntiad yn y cartref wedi bod yn hynod boblogaidd yn Yr Alban ac yn Bradford yn Lloegr, wedi i'r cynllun lansio yno ar ddechrau'r flwyddyn.
Dywedodd Dr Matt Morgan, Ymgynghorydd mewn Meddygaeth Gofal Dwys yn Ysbyty Athrofaol Cymru ac Arweinydd Arbenigol ar gyfer Gofal Critigol yn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru: "Mae gan yr astudiaeth hon un amcan allweddol - i'n helpu ni i ddeall pam fod Covid-19 wedi effeithio gwahanol grwpiau mewn gwahanol ffyrdd.
"Ledled y DU, mae nifer anghymesur o bobl a ddaeth i'r ysbyty wedi bod yn ddynion yn ogystal 芒 phobl 芒 threftadaeth Asiaidd a Du - dyna pam mae angen i bobl o'r grwpiau hyn yn benodol ymuno 芒'r astudiaeth cyn gynted 芒 phosib."
Dywedodd Dr Nicola Williams, Cyfarwyddwr Cymorth a Chyflenwi ar gyfer Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru: "Mae'n hanfodol ein bod yn dysgu cymaint 芒 phosib am Covid ac i wneud hynny, mae angen i bobl wirfoddoli i gymryd rhan mewn ymchwil.
"Drwy gyflwyno system bwcio apwyntiadau, mae'r astudiaeth yn rhoi cyfle i bobl gyfrannu at ymchwil a allai achub bywydau o gartrefi eu hunain," meddai.
Mae'r ymchwil yn agored i unrhyw un sydd wedi profi'n bositif i Covid, ond nad oedd angen triniaeth ysbyty. Gall gwirfoddolwyr gofrestru .