Canser y fron wedi 'dwyn bywyd' mam o Gymru
- Cyhoeddwyd
Dywed mam o Bont-y-P诺l bod canser wedi "dwyn ei bywyd" ar 么l oedi wrth ganfod ei salwch - a bellach does dim modd ei gwella.
Mae Justine Jianikos bellach wedi dechrau ysgrifennu cardiau ar gyfer ei merched Josie, 9, Halle, 6, a Ruby, 5, ar gyfer y cerrig milltir y bydd hi'n eu colli - penblwyddi, priodasau, a hyd yn oed pasio eu profion gyrru.
"Er nad ydw i am fod yma ar eu cyfer, mae angen iddyn nhw gael rhywbeth i wybod fy mod i bob amser yn meddwl amdanyn nhw," meddai.
Dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan eu bod nhw'n ymchwilio i bryderon Ms Jianikos.
Aros am dri mis
Roedd Justine ond yn 29 oed pan sylwodd ar lwmp ger ei chesail fis Mai diwethaf.
Dywed wrthi i ddechrau mai fibroadenoma oedd, sef lwmp brasterog sy'n aml yn digwydd yn y fron.
Tyfodd y lwmp i oddeutu 5cm mewn diamedr ac erbyn mis Medi, roedd wedi mynd yn boenus felly fe aeth yn 么l at ei meddyg teulu.
"Y tro hwn fe gymerodd dri mis i mi gael fy ngweld yng nghlinig y fron", meddai.
"Ar 么l derbyn copi o fy nodiadau meddygol, fe wnaethon ni sylwi ar rhywbeth wedi'i nodi ddwywaith, mewn print bras, 'brys, amheuaeth o ganser'. Ond fe gymerodd dri mis."
Ym mis Rhagfyr, cafodd gynnig biopsi - rhywbeth sydd ddim fel arfer yn cael ei gynnig i ferched o dan 30 oed, meddai - a chafodd ddiagnosis o ganser y fron bedwar diwrnod cyn y Nadolig.
Daeth i'r amlwg bod ganddi fath prin a ffyrnig o'r salwch, a'i fod wedi lledaenu i'w hasgwrn cefn a'i hysgyfaint.
Dywedodd bod ei oncolegydd yn meddwl pe bai ei chanser wedi'i ddarganfod yn gynharach, y gallai pethau wedi bod yn wahanol.
"Dwi nawr yn edrych ar fywyd gwahanol iawn. Am weddill fy oes, dwi'n mynd i fod yn ymladd i ddal gafael ar fy mywyd. Mae hynny'n frawychus iawn."
"Dwi wedi dweud wrth fy hun, cyn belled 芒 fy mod yn medru deffro a gwneud brecwast i fy ngenod bach, cyn belled 芒 fy mod yn medru mynd 芒 nhw i'r ysgol, a bod yn fam arferol iddyn nhw, dyna'r cyfan sydd angen iddyn nhw ei wybod."
Mae Justine yn dechrau ei phumed rownd o gemotherapi yr wythnos hon ac yna mae ganddi un arall i fynd.
"Mae pobl yn edrych ymlaen at y diwrnod pan mae nhw wedi dod i'r diwedd, ac y maent yn cael canu'r gloch.
"I mi, dyna fydd y diwrnod mwyaf dychrynllyd fy mywyd oherwydd dwi'n gwybod ar 么l hynny bydd dim rhagor o gyffuriau yn fy nghorff yn ceisio ymladd yn erbyn y canser nes bod fy nghynllun triniaeth nesaf yn cael ei lunio."
Mae triniaeth pellach ar y GIG yn dal yn aneglur, felly mae teulu a ffrindiau Justine yn y broses o godi 拢100,000 i geisio ariannu triniaethau amgen preifat a allai helpu i ymestyn ei bywyd, gan gynnwys y cyffur Trodelvy sydd ond wedi'i drwyddedu yn yr UDA.
"Ni alla i achub fy hun, ond mi fedrai achub rhywun arall drwy godi ymwybyddiaeth o ganser y fron negyddol triphlyg, neu ganser yn gyffredinol," meddai.
"Os oes unrhyw beth nad ydych chi'n si诺r amdano, ewch i gael golwg arno ac ymddiried yn eich greddf - rydych chi'n adnabod eich corff eich hun."
Bwrdd iechyd yn ymchwilio
Dywedodd llefarydd ar ran bwrdd iechyd Aneurin Bevan: "Mae'n ddrwg iawn gennym nad yw Ms Jianikos yn hapus gyda'r gofal y mae hi wedi'i dderbyn.
"Ar hyn o bryd, rydym yn ymchwilio i mewn i'w phryderon a byddwn yn ei hysbysu'n llawn am ddatblygiadau'r ymchwiliad.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd4 Chwefror 2020