Chwe Gwlad Merched: Cymru 0-45 Iwerddon

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Sgoriodd Eimear Considine ddau gais i'r Gwyddelod yn yr hanner cyntaf

Cafodd t卯m rygbi merched Cymru gweir arall ddydd Sadwrn wrth i'w hymgyrch siomedig yn y Chwe Gwlad barhau yn erbyn Iwerddon.

Roedd Cymru ar ei h么l hi wedi dau funud yn unig wrth i'r cefnwr Eimear Considine groesi am gais cynnar i'r Gwyddelod, cyn i Beibhinn Parsons ychwanegu dau gais o fewn ychydig funudau.

Fe wnaeth Iwerddon sicrhau'r pwynt bonws wedi 18 munud wrth i Considine sgorio ei hail gais, a llwyddodd Sene Naoupu i ychwanegu pumed cais i'w gwneud yn 0-31 ar yr egwyl.

Roedd hi'n g锚m llawer fwy cyfartal yn yr ail hanner, cyn i Dorothy Wall sgorio chweched cais Iwerddon gyda 10 munud yn weddill cyn i Hannah Tyrrell ychwanegu seithfed yn yr eiliadau olaf.

Mewn ymgyrch Chwe Gwlad fyrrach na'r arfer, mae Cymru'n herio Ffranc ac Iwerddon yn eu gr诺p cyn cael un g锚m olaf ar 24 Ebrill yn erbyn t卯m sydd eto i'w benderfynu.