Annibyniaeth a diddymu'r Senedd: Y farn ar lawr gwlad

Disgrifiad o'r llun, Mae gorymdeithiau o blaid annibyniaeth wedi cael eu cynnal ledled Cymru dros y blynyddoedd diwethaf
  • Awdur, Teleri Glyn Jones
  • Swydd, Gohebydd 大象传媒 Cymru

Polis茂au sydd fel arfer yn hawlio'r penawdau mewn etholiad - swyddi, iechyd ac addysg.

Ond mae'r twf mewn cefnogaeth i grwpiau o blaid annibyniaeth fel YesCymru ac ymddangosiad pleidiau gwleidyddol sy'n addo diddymu'r Senedd yn golygu bod dyfodol cyfansoddiadol Cymru hefyd dan y chwyddwydr yn yr etholiad yma.

Ond beth yw'r farn ar lawr gwlad?

Gyda'r siopau newydd ailagor, roedd stryd fawr Ystradgynlais yn brysur pan gyrhaeddais cyn cinio.

Mae'n dref sy'n ymfalch茂o yn ei rhes o siopau annibynnol - ar gyrion Bannau Brycheiniog, mae'n teimlo'n wledig, ond mae 'na hanes balch o ddiwydiant yma hefyd sy'n golygu ei fod yn rhannu naws 芒 threfi'r cymoedd.

'Hapus gyda'r sefyllfa nawr'

Tu allan i'r becws, roedd 'na ddyn yn ei 60au yn disgwyl am ei wraig - beth oedd o'n feddwl o'r Senedd?

"Fi'n meddwl dylen nhw gael gwared ag e, a chael un central government lan yn Llundain yn gofalu amdanom ni gyd a bydd mwy o arian i ni," meddai.

Ond roedd ei wraig yn anghytuno.

"Fi'n hapus gyda'r sefyllfa nawr. Mae tamed bach o annibyniaeth gennym ni ond ni hefyd yn gallu dibynnu fwy ar Westminster hefyd," meddai.

Disgrifiad o'r llun, Mae'r undeb yn bwysig i Daniel Thomas, ond mae James Hyett eisiau i Gymru fod yn annibynnol

Mi oedd James Hyett, dyn ifanc o'r dref, yn hyderus am ddyfodol Cymru: "Mae gennym ni ein diwylliant ein hun a dydyn ni ddim am gael ein gwthio i'r ochr. Dyna pam dwi isio annibyniaeth."

Ond i'r cyn-l枚wr, yn ei 90au, Daniel Thomas, roedd yr undeb yn bwysig.

"Cadwch y Senedd," meddai. "Fi'n hapus i'r wlad fod fel mae e, yn United Kingdom."

Mwy o b诺er i'r Senedd?

Pen arall y wlad, roedd Rhuthun unwaith yn dyst i wrthryfel Owain Glynd诺r. Bellach mae'n dref dawel cefn gwlad.

Oes 'na rai yma yn 2021 yn dymuno gweld chwyldro cyfansoddiadol yng Nghymru?

Yn 么l un amaethwr mewn oed: "Cadwch y pwerau sydd ganddyn nhw ond ella fysa fo'n beth da cael 'chydig bach mwy."

"Dwi ddim yn si诺r am annibyniaeth," meddai un ddynes mewn hwdi, yn datgan ei bod hi 100% yn Gymraes.

"Dwi ddim yn si诺r os dwi'n cytuno efo hynne, ond mi fysai'n neis cael mwy o b诺er," meddai.

Disgrifiad o'r llun, Cymysg oedd y farn y Rhuthun hefyd, gyda'r mwyafrif yn hapus gyda'r sefyllfa bresennol

Ar ei awr ginio, barn un dyn yn ei 30 oedd: "Dwi'n meddwl y dylai Cymru fynd yn annibynnol yn y pendraw, ond fydd yn rhaid i ni ddisgwyl a gweld beth ddigwyddith."

I un ddynes arall, oedd ar frys a ddim eisiau stopio am sgwrs: "Dwi'n cefnogi annibyniaeth, yndw."

Ond y sefyllfa bresennol oedd dewis delfrydol g诺r arall lleol yn ei 70au: "Dim mwy o b诺er, yn fy marn i. Mae'n iawn fel y mae."

Yn amlwg tydy holi pobl ar y stryd fawr ddim yn ffordd wyddonol o fesur barn - beth felly mae'r arolygon barn yn awgrymu?

Yn 么l un arolwg diweddar gan y 大象传媒 ac ICM mae cefnogaeth i annibyniaeth wedi tyfu o 11% y llynedd, i 14% eleni, tra bod cefnogaeth i gael gwared 芒'r Senedd yn llwyr wedi codi fymryn hefyd, o 14% i 15%.

'Etholiad cyfansoddiadol'

Ond yn 么l yr academydd blaenllaw, yr Athro Laura McAllister mi fydd y pandemig, a'r gwahaniaethau yn ymateb Bae Caerdydd a San Steffan, yn golygu bod mwy o bobl yn ystyried y berthynas rhwng Cymru a'r undeb.

Disgrifiad o'r llun, "Nid yw'r ffin erioed wedi bod mor amlwg rhwng Cymru a Lloegr," meddai'r Athro Laura McAllister

"Dyw'r mwyafrif o bobl ddim yn meddwl lot am y peth ac mae mwy o bobl yn meddwl am yr etholiad fel un Covid," yn 么l yr Athro McAllister.

"Ond yn yr isymwybod, mae hwn yn etholiad cyfansoddiadol.

"Dwi'n credu bod pobl wedi gorfod meddwl am ble maen nhw'n byw - nid yw'r ffin erioed wedi bod mor amlwg rhwng Cymru a Lloegr oherwydd polis茂au gwahanol yn y ddau le.

"Os ydych chi'n hoffi hynny neu beidio, mi fydd o wedi cael effaith ar sut ydych chi'n teimlo am wleidyddiaeth, ac mi fydd yr ap锚l emosiynol yna yn chwarae rhan yn yr etholiad ac wrth gwrs mae hynny'n gysylltiedig 芒'r cyfansoddiad."

O ben y Cymoedd i Ddyffryn Clwyd, mae'r pandemig wedi cyffwrdd pob cymuned, ac mae'r gwahaniaethau yn y rheolau rhwng Cymru a Lloegr wedi amlygu datganoli a phwerau Llywodraeth Cymru - digon i newid trywydd gwleidyddiaeth yng Nghymru? Cawn weld.