Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Galw am oedi ffioedd prifysgol i dalu am ofal teulu yn India
Mae myfyrwyr o India sy'n astudio yng Nghymru yn galw am oedi eu ffioedd dysgu er mwyn gallu anfon pres yn 么l at eu teuluoedd wrth i Covid-19 rwygo drwy'r wlad.
Dywedodd y gr诺p o Brifysgol Metropolitan Caerdydd eu bod eisiau defnyddio unrhyw arian sydd ganddyn nhw wrth law i brynu nwyddau meddygol a bwyd yn 么l yn India.
Mae'r wlad yn profi ail don ddychrynllyd o achosion, gydag ysbytai'n cael trafferth ymdopi, ac yn brin o ocsigen a nwyddau hanfodol.
I rai o'r myfyrwyr wnaeth siarad gyda 大象传媒 Cymru, dydy eu teuluoedd bellach methu talu'r miloedd o bunnau mewn ffioedd sy'n ddyledus erbyn diwedd y mis.
Dywedodd y myfyrwyr eu bod wedi gofyn i'r brifysgol oedi'r ffioedd am dri mis, ond bod llawer o'r ceisiadau wedi eu gwrthod.
Dywedodd y brifysgol na fyddai'n gwneud sylw ar achosion unigol, ond y byddai'n parhau i gefnogi myfyrwyr.
Collodd Kylash Indla ei dad i Covid ychydig fisoedd yn 么l.
"Ar 么l i Dad farw, dydy Mam ddim yn cael unrhyw incwm. Roedd hi'n athrawes breifat, felly nawr dydy hi ddim yn cael cyflog a does dim arian i'r teulu.
"Mae popeth wedi cau lawr, does dim incwm, does dim byd."
Dywedodd nad oedd ei deulu yn India yn rhannu'r holl wybodaeth am y sefyllfa, ond ei fod wedi clywed am berthnasau'n marw oherwydd y diffyg ocsigen.
Mae dros 1,000 achos y dydd yn ei dref enedigol, meddai, a'i bryder ydy bod neb yn helpu ei fam a'i chwaer.
'Allwn ni ddim talu yn syth'
Mae India wedi cadarnhau 17 miliwn o achosion a dros 200,000 o farwolaethau.
Mae firolegwyr yn dweud y gallai nifer yr achosion barhau i gynyddu am ddwy neu dair wythnos arall.
Cafodd cais Nithi, sy'n astudio am radd Meistr, i gael oedi rhag talu ei ffioedd dysgu ei wrthod.
Ond dywedodd ei bod yn obeithiol y byddai cais ar y cyd gan y myfyrwyr yn gweithio.
"Mae ein teuluoedd yn diodde', sy'n straen meddyliol i ni yn barod," meddai.
"'Da ni yn bwriadu talu, ond allwn ni ddim talu'n syth.
"Mae'r brifysgol yn gweld y sefyllfa yn India, mae'r holl sefydliadau ariannol yn dymchwel ar hyn o bryd."
Dywedodd Prifysgol Metropolitan Caerdydd ei bod yn annog unrhyw fyfyrwyr mewn trafferthion ariannol i gysylltu 芒 nhw cyn gynted 芒 phosib.
Ychwanegodd llefarydd: "Ers i'r newyddion ddod o India, mae ein t卯m wedi gweithio'n ddiflino i gefnogi myfyrwyr yma yng Nghaerdydd, yn ogystal 芒'r rhai sy'n astudio o bell, gan gynnig cefnogaeth a chyngor ar y cymorth ariannol sydd ar gael."