Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Datblygiad tai Cilgeti wedi 'difetha bywydau' trigolion
Mae pobl sy'n byw yng Nghilgeti, Sir Benfro yn dweud bod eu bywydau yn cael eu difetha gan waith adeiladu ar ddatblygiad tai newydd yn y pentref.
Mae 19 o gartrefi newydd yn cael eu hadeiladu yno, ond mae pobl sy'n byw gerllaw yn dweud bod craciau wedi ymddangos yn eu waliau nhw ers i'r gwaith ddechrau ddwy flynedd yn 么l.
Maen nhw hefyd yn honni bod y datblygwyr wedi mynd yn erbyn y rheolau cynllunio, ond dywedodd Castle Homes fod cefnogaeth i'r datblygiad yn lleol.
Mae Cyngor Sir Penfro yn cydnabod bod rhai elfennau o'r datblygiad sydd ddim yn cyd-fynd 芒'r cais cynllunio, ac y bydd yn rhaid i'r datblygwr wneud cais newydd os ydyn nhw eisiau eu cadw.
'Ofnadwy'
Mae nifer o drigolion lleol wedi dweud wrth 大象传媒 Cymru bod llonyddwch y pentref wedi cael ei ddifetha gan y gwaith ar y safle, ac maen nhw'n galw ar i'r gwaith ddod i ben tra bod eu pryderon yn cael eu hateb.
Dywedodd trigolion hefyd bod llifogydd wedi effeithio ar yr ardal 30 gwaith ers i'r gwaith ddechrau.
Mae Melanie Caudwell yn byw drws nesaf i'r datblygiad newydd - yn y t欧 y cafodd hi ei geni.
Mae hi'n dweud y bydd ei phreifatrwydd yn diflannu pan fydd y tai newydd wedi'u gorffen, a bod craciau wedi dechrau ymddangos yn y waliau tu mewn a thu allan i'w chartref hefyd.
"Mae'r holl beth wedi bod yn ofnadwy," meddai.
"Dydych chi ddim yn gwybod beth y'ch chi'n mynd i ddeffro iddo yn y bore - mae craciau yn ymddangos ym mhobman ac rwy' wir yn poeni.
"Bu'n rhaid i ni gael saer clo mas unwaith oherwydd nad oedden ni'n gallu mynd i mewn i'r ty, ac fe ddywedodd e fod hynny oherwydd ei fod wedi symud.
"Doedd pethau fel hyn erioed wedi digwydd cyn y datblygiad yma. Mae wedi bod yn mynd 'mlaen ers 2019 - dyw e jest ddim yn deg."
Ar ochr arall y datblygiad mae stad o dai ar gyfer pobl sydd wedi ymddeol.
Dywedodd Julie Towers, symudodd yno gyda'i g诺r dair blynedd yn 么l, bod wal fawr wedi'i hadeiladu ger eu cartref fel rhan o'r datblygiad newydd a bod d诺r yn aml yn llifo o hwnnw i lawr at eu cartref nhw am fod y tir wedi cael ei godi.
"Mae'n achosi trafferth - y wal a'r d诺r sy'n dod i lawr unrhyw dro mae hi'n bwrw glaw," meddai.
"Dydyn ni ddim yn gwrthwynebu'r tai o reidrwydd - jest y perygl o'r wal a'r d诺r a'r mwd yn dod i lawr."
Cwmni datblygu o Arberth - Castle Homes - sy'n gyfrifol am y safle, ac maen nhw'n dweud bod dros hanner y cartrefi newydd eisoes wedi'u gwerthu.
Dywedodd perchennog y cwmni, Darren Thompstone eu bod wedi bod mewn cysylltiad cyson 芒'r gymuned leol ac nad ydyn nhw wedi derbyn unrhyw gwynion am ddifrod i dai eraill oherwydd y gwaith adeiladu.
"Dy'n ni ddim yn ymwybodol o unrhyw ddifrod sydd wedi'i achosi gennym ni," meddai.
"Yr hyn sy'n cael ei ddisgrifio fel 'llifogydd' - d诺r glaw yw e sy'n rhedeg o'r datblygiad ond bydd hynny'n diflannu unwaith y byddwn ni wedi gorffen y gwaith adeiladu."
Cyfaddefodd nad oedd y wal newydd yn rhan o'r cynlluniau gwreiddiol ond bod y cwmni yn mynd i'r afael 芒 hynny.
Yn groes i'r cais cynllunio
Yn 么l trigolion lleol fe wnaeth y datblygwr anwybyddu eu pryderon yn wreiddiol, ac fe gafodd y cynllun s锚l bendith heb i bwyllgor cynllunio Cyngor Sir Penfro ystyried y cais.
Dywedodd y cyngor eu bod wedi rhoi gwybod i'r datblygwr nad ydy'r wal a'r tir sydd wedi cael ei godi yn cyd-fynd 芒'r cynlluniau sydd wedi cael eu cymeradwyo, ac y bydd yn rhaid iddyn nhw wneud cais newydd os ydyn nhw eisiau eu cadw.
Ychwanegodd llefarydd bod swyddogion y cyngor wedi bod i'r ardal i drafod effaith y gwaith ar drigolion a'u pryderon nhw.
Fe wnaeth y cyngor hefyd egluro na chafodd y cais gwreiddiol ei drafod gan y pwyllgor cynllunio oherwydd bod 19 o gartrefi yn is na'r trothwy ble mae'n rhaid i'r pwyllgor ei ystyried.