Pobl ifanc yn 'heidio' i ganolfannau i gael brechiad

Ffynhonnell y llun, Greta Sion

Disgrifiad o'r llun, Roedd Greta Sion o Gaerdydd wrth ei bodd yn derbyn ei brechlyn cyntaf cyn dychwelyd i'r Brifysgol ar gyfer gwneud cwrs 么l-radd
  • Awdur, Huw Thomas
  • Swydd, Newyddion 大象传媒 Cymru

Mae bron i hanner yr oedolion ifanc wedi derbyn brechlyn coronafeirws mewn rhai rhannau o Gymru.

Yn y gogledd mae 44% o bobl 18-29 oed wedi cael dos cyntaf, tra bod 46% yng Nghaerdydd a'r Fro wedi cael o leiaf un brechiad.

Ar gyfartaledd, mae 36.6% o bobl dan 30 oed wedi cael un pigiad led-led Cymru, gyda'r rhaglen frechu yn symud ar gyflymderau gwahanol fesul bwrdd iechyd.

Dwedodd un rheolwr canolfan brechu fod pobl ifanc yn "heidio i'r canolfannau" mewn ymgais i ddychwelyd i fywyd arferol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gynnig dos cyntaf o'r brechlyn i bob oedolyn erbyn diwedd mis Gorffennaf, ar 么l llwyddo i gynnig dos cyntaf i bawb yn y grwpiau blaenoriaeth 1 i 9 erbyn canol mis Ebrill.

Ers mis Ebrill mae pobl dan 30 oed wedi cael cynnig y pigiad Pfizer neu Moderna yn lle'r brechlyn Rhydychen-AstraZeneca, ar 么l i gysylltiad 芒 cheuladau gwaed prin gael ei gadarnhau.

Cafodd yr un cyngor ei estyn i bobl dan 40 oed wythnos diwethaf.

Er bod canolfannau brechu wedi wynebu sawl cyfnod heriol yn ddiweddar gyda phobl yn methu 芒 mynychu apwyntiadau, o'i gymharu 芒'r grwpiau cyntaf i gael eu brechu, dywedodd rheolwr un canolfan fod y data'n dangos ymrwymiad "addawol" i gael eu brechu ymhlith y to iau.

Disgrifiad o'r llun, Tom Halpin o Ganolfan Brechu Glannau Dyfrdwy

"Rydyn ni wedi gweld ymateb da iawn," meddai Tom Halpin, sy'n rheoli Canolfan Frechu Glannau Dyfrdwy yn y ganolfan hamdden yn Y Fferi Isaf (Queensferry).

"Rydyn ni'n gweithio saith diwrnod yr wythnos, felly mae'r ffaith bod llawer ohonyn nhw'n cymryd amser allan o ddiwrnodau gwaith i ddod i dderbyn brechlyn yn addawol iawn."

Mae canolfan Glannau Dyfrdwy yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, sy'n gyfrifol am ogledd Cymru.

Dangosodd ei datganiad diweddaraf, ar 11 Mai, fod 44% o bobl 18-29 oed wedi derbyn dos cyntaf o'r brechlyn.

Mae byrddau iechyd eraill hefyd yn agos at gyrraedd hanner eu poblogaeth o oedolion ifanc, gan gynnwys ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro lle mae 46% o bobl 18-29 oed wedi cael y brechlyn.

Disgrifiad o'r llun, Mae 44% o bobl rhwng 18-29 oed yn ardal Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr bellach wedi derbyn brechiad

Dywedodd Mr Halpin fod derbyn y brechlyn yn rhan o awydd i "fynd n么l i'r normal" ymhlith grwpiau iau.

"Yn bendant roedd teimlad enfawr o ryddhad yn y dyddiau cynnar pan ro'n ni'n cyrraedd y grwpiau gyda blaenoriaeth uchel, ac roedd pawb yn falch iawn o dderbyn eu brechlyn.

"Nawr, rwy'n credu bod pobl eisiau mynd n么l i'r normal, ac mae'r gr诺p iau yn heidio i'r canolfannau i alluogi hynny i ddigwydd."

'Awyddus' i gael pigiad

Un oedd yn frwdfrydig i gael y brechlyn oedd Greta Sion, 23, o Gaerdydd. Mae hi'n paratoi i astudio am gwrs 么l-radd ym Mhrifysgol Rhydychen ym mis Medi.

"Dyma'r unig ffordd, dwi'n meddwl, i ni allu fynd n么l i unrhyw fath o normalrwydd," meddai.

"Ymysg gr诺p fi o ffrindiau, ry'n ni i'w gweld yn eithaf awyddus i gael y brechlyn.

"Hyd yn hyn mae llwyddiant wedi bod. A dwi yn gwybod bod s么n wedi bod am y sgil effeithiau [y brechlyn] AstraZeneca, ond erbyn hyn dim ond y Pfizer ry'n ni yn cael eu cynnig."

Disgrifiad o'r llun, Greta Sion: 'Oedden ni'n gwybod mai dyma'r unig ffordd o wybod bod ni'n saff'

Yn 么l Greta mae'r brechlyn yn cynnig ffordd allan o'r cyfyngiadau clo iddi hi a phawb arall o'i chwmpas.

"Oedden ni'n gwybod mai dyma'r unig ffordd o wybod bod ni'n saff, yn diogelu ein gilydd a'n teuluoedd ni.

"Os yn ni eisiau i'n bywydau cymdeithasol ni fynd n么l fel o'n nhw, does dim lot o ateb, really.

"Fi'n gobeithio fyddai'n gallu mynd i'r brifysgol, fi'n gobeithio fyddai'n gallu cwrdd 芒'r myfyrwyr eraill, ac yn gallu cwrdd mewn ystafelloedd i drafod y pynciau yn y ffordd yna, yn lle bod ni yn gorfod gwneud hynny ar lein, ar Zoom.

"Fi'n gwybod mae yn adio gymaint i'r profiad o fod yn fyfyriwr os ych chi'n gallu bod yna gyda'r pobl eraill."