Ail gartrefi: 'Llywodraeth Cymru am weithredu'

Disgrifiad o'r llun, Mae'r bwthyn yma yn Uwchmynydd fod cael ei werthu am 拢500,000 mewn ocsiwn ym mis Gorffennaf
  • Awdur, Sion Tecwyn
  • Swydd, Gohebydd 大象传媒 Cymru

Mae bwthyn bychan yn Uwchmynydd ym mhen draw Pen Ll欧n ar werth mewn ocsiwn yn Lerpwl cyn bo hir. Y pris - hanner miliwn.

I lawer mae'n crynhoi'r argyfwng tai yn y Gymru wledig, yn arbennig mewn ardaloedd sy'n boblogaidd gyda phobl sydd eisiau t欧 haf, fel Nefyn, lle mae bron i 30% o'r tai yn ail gartrefi.

Ysgrifennodd Cyngor Tref Nefyn at y Prif Weinidog - nid am y tro cynta' - yr wythnos hon i godi pryderon am ail gartrefi.

Yn siarad 芒 大象传媒 Cymru dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford bydd Llywodraeth Cymru'n gweithredu i geisio datrys yr argyfwng tai yng nghefn gwlad.

Yn sgil ail-ethol Mark Drakeford, ysgrifennodd cyngor tre Nefyn ato yn galw am weithredu.

Yn 么l Rhys Tudur, Cadeirydd Tre Nefyn, mae angen i'r Prif Weinidog weithredu polisi ar ail gartrefi sy'n blaenoriaethu pobl leol.

Disgrifiad o'r llun, Galwodd Rhys Tudur, Cadeirydd Cyngor Tre Nefyn, ar y Prif Weinidog i weithredu

"Da ni'n mawr obeithio y byddai fo'n arwain trwy roi blaenoriaeth i gymunedau sydd ar y funud o dan warchae oherwydd bod yna ormodedd o ail gartrefi'n cael eu prynu," meddai.

"'Da ni'n gobeithio y bydd o'n gweithredu yn 么l teitl ei swydd, Prif Weinidog, yn gweini er lles cymunedau, ac yn blaenoriaethu pobl leol."

Bu cynghorwyr Nefyn yn cwrdd 芒 Mr Drakeford rhai misoedd yn 么l i drafod y broblem.

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford ei fod yn cydnabod bod y sefyllfa'n anodd i bobl ifanc

Ddydd Gwener dywedodd Mr Drakeford ei fod yn cydnabod ei bod hi'n gynyddol anodd i bobl ifanc brynu tai mewn cymunedau Cymraeg a bod angen gwneud rhywbeth.

"Rhan o raglen gwaith y llywodraeth newydd yw gweithio gyda phobl eraill i drial helpu nhw a rhoi mwy o bethau yn ei le i warchod cymunedau lleol ble Cymraeg yw ei iaith gyntaf i'r rhan fwyaf o bobl," meddai wrth siarad 芒 rhaglen Newyddion S4C.

'Angen gweithredu ar frys'

Disgrifiad o'r llun, Yn 么l Mabon ap Gwynfor AS, "mae angen gweithredu ar frys"

Yn 么l Mabon ap Gwynfor, Aelod Dwyfor Meirionnydd yn Senedd Cymru, mae angen gweithredu ar frys.

"Mae rhaid i ni weld gweithredu'n digwydd r诺an," meddai.

Pan ofynnwyd pa fath o bethau all helpu'r sefyllfa, awgrymodd: "pethau fatha cynyddu treth trafodion tir wrth werthu t欧, sicrhau bod 'na gap ar faint o dai gwyliau sy mewn un gymuned, ac yn y blaen".

'Fyny i'r llywodraeth i wneud mwy'

Ffynhonnell y llun, Dafydd Elfryn

Disgrifiad o'r llun, Mae'r llefydd sydd wedi eu goleuo ar y map yma'n dangos lle mae'r mwyafrif o dai haf yng Nghymru

Mae'r llefydd sydd wedi eu goleuo ar y map yma'n dangos lle mae'r mwyafrif o dai haf, er bod yr awdur yn dweud bod angen mwy o ymchwil ar y pwnc.

Er nad yw'r map yn cynnwys pob 'Airbnb', dywedodd yr awdur, Dafydd Elfryn: "Mae yna chance bo' rheiny [Airbnb's] ynddo fo so dwi'n meddwl bod o'n rhoi syniad go dda i ni o be' yn union sy'n mynd ymlaen".

"Ond 'dio bendant ddim yn rhoi'r darlun llawn".

"Ond yn amlwg mae'r data yna, dydy o ddim ar gael, so mae fyny i'r llywodraeth dwi'n cymryd i 'neud mwy o ymchwil ac adnabod yn union faint ydy sgel y broblem."

Ddeufis yn 么l derbyniodd Llywodraeth Cymru adroddiad yngl欧n ag ail gartrefi gan yr academydd Dr Simon Brooks, yn sgil ymchwil ganddo i'r sefyllfa yng Nghernyw a Chymru.

Mae'r adroddiad, sy'n cynnwys deuddeg o argymhellion i gyd, wedi cael croeso cyffredinol gan Lywodraeth Cymru.

Y cwestiwn r诺an ydi, be fydd eu cam nesaf, wrth iddyn nhw ddod dan bwysau cynyddol o gefn gwlad Cymru i weithredu.