Cymraes yn serennu yn fideo actorion CPD Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Mae newyddiadurwr o Gymru wedi disgrifio sut y mae hi wedi ymddangos mewn fideo gyda pherchnogion enwog newydd Clwb P锚l-droed Wrecsam sy'n denu cryn sylw ers iddo gael ei gyhoeddi ar-lein nos Fawrth.
Mae Maxine Hughes, sy'n byw ac yn gohebu yn yr Unol Daleithiau, yn serennu yn y fideo gan ymddangos fel cyfieithydd Cymraeg ar ran yr actorion Hollywood Ryan Reynolds a Rob McElhenney.
Nod y fideo yw hyrwyddo rhaglen ddogfen sy'n dilyn hynt a helynt yr actorion wrth iddyn nhw brynu a mynd ati i redeg y clwb p锚l-droed.
Er naws direidus y fideo, dywed Ms Hughes, sy'n gyfarwydd i wrandawyr a gwylwyr rhaglenni Cymraeg, bod y ddau "o ddifri" ynghylch sicrhau llwyddiant i'r clwb, a bod Rob McElhenney yn dysgu Cymraeg.
Wrth rannu'r hanes ar raglen Dros Frecwast, dywedodd bod ffrindiau wedi danfon taflen ati gan gwmni yn Hollywood oedd yn chwilio am siaradwyr Cymraeg.
Er iddi feddwl mai j么c oedd yr ap锚l, fe ffoniodd ar ran ffrind oedd 芒 diddordeb.
O'r alwad ff么n yna daeth i'r amlwg eu bod yn chwilio am fenyw yn benodol, oedd 芒 phrofiad yn y cyfryngau.
"Roedd rhaid i fi neud fideo, jyst yn siarad yn Gymraeg a Saesneg am fy hun, wedyn anfon y fideo mewn i'r casting agents," meddai. "Ges i call back, a o'n i'n gorfod perfformio y sgript gyda director y promo.
"Diwrnod neu ddau wedyn ges i alwad yn cynnig y rhan i fi a wedyn o'n i syth draw i Los Angeles i ffilmio gyda Rob a Ryan.
RHYBUDD - Mae iaith gref yn y fideo
Caniat谩u cynnwys Twitter?
Mae鈥檙 erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniat芒d cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae鈥檔 bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch 鈥榙erbyn a pharhau鈥.
'Caru beth maen nhw'n mynd i neud yn Wrecsam'
"Mae nhw yn lyfli. Roedden nhw mor gefnogol pan oedden ni yn ffilmio. Roedd Ryan yn directio lot ohono fe.
"Nethon ni neud run-through a ffilmio y sgript a beth oedd ar y sgript a wedyn o'n i jyst yn cael hwn. A beth chi yn gweld ar ddiwedd y ffilm fach yna oedd ni yn cael hwyl a neud improv."
Yn y fideo mae'r cyfieithiad Cymraeg o eiriau'r actorion yn groes i'r hyn ddywedodd y ddau mewn gwirionedd gan wneud hwyl ar eu pennau.
Cafodd ei gyhoeddi yn y lle cyntaf o fewn neges gan Ryan Reynolds ar Twitter, sydd wedi cael ei rannu gan filoedd.
Ychwanegodd Ms Hughes: "O'n i wedi dychryn rili am faint mae nhw rili yn caru beth mae nhw yn mynd i neud yn Wrecsam.
"Mae nhw wedi dysgu cymaint am Gymru a cymaint am Wrecsam, ac mae Rob yn dysgu Cymraeg.
"Pan o'n i ar y set gyda nhw oedd Rob yn canu Hen Wlad Fy Nhadau yn berffaith.
"Roedden nhw yn s么n bod nhw eisiau neud yn si诺r bod yna Gymraeg ar y gyfres ddogfen hefyd - felly mae nhw yn fois ffantastic.
"Mae nhw yn dead serious am yr holl beth. O'n nhw yn s么n am Wrecsam fel lle o nhw rili鈥 ishe cymryd rhan yn y gymuned.
"O'n nhw wedi bwriadu neud y project yma cyn cael comisiwn i neud y rhaglen.
"Mae nhw wedi bod yn ffeindio mwy am y bobl a'r ardal.
"Pan o'n i yn ffilmio o'n nhw yn poeni lot bod yr holl beth yn dod drosodd yn iawn... o'n nhw ishe bod yn barchus i'r iaith Gymraeg.
"Oedd yn amlwg i fi bod nhw yn cymryd o o ddifri ac yn meddwl lot am yr holl beth."
Mae'r ffilmio ar gyfer rhaglen Welcome to Wrexham wedi dechrau ers y llynedd.
Mae'r cwmni Americanaidd FX Entertainment wedi archebu dwy gyfres, ond does dim cadarnhad eto pryd a sut fydd modd ei gwylio.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Chwefror 2021
- Cyhoeddwyd16 Tachwedd 2020