大象传媒

Nodi 50 mlynedd ers marwolaeth Waldo Williams

  • Cyhoeddwyd
Disgybl Ysgol Llanychllwydog, Cwm Gwaun, yn gosod barddoniaeth Waldo ar frigau鈥檙 coed
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Disgybl Ysgol Llanychllwydog, Cwm Gwaun, yn gosod barddoniaeth Waldo ar frigau鈥檙 coed

Mae Cymdeithas Waldo Williams yn annog pobl i glymu eu hoff linellau o farddoniaeth i frigau'r coed er mwyn nodi union 50 mlynedd ers ei farwolaeth.

Bu farw Waldo Williams yn 66 oed ar 20 Mai, 1971, ar 么l dioddef str么c.

Fe gafodd ei eni yn Hwlffordd, ond fe dreuliodd flynyddoedd ei blentyndod ym mhentre' Mynachlog-ddu ar y Preselau, ble ddysgodd Gymraeg.

Mae cofeb iddo ar gomin Rhosfach ger pentref Mynachlog-ddu.

Mae'n cael ei ystyried yn un o feirdd mwyaf yr 20fed ganrif yn yr iaith Gymraeg.

Roedd yn heddychwr o argyhoeddiad, a chafodd ei garcharu ddwywaith yn sgil ei wrthwynebiad i filitariaeth.

Un gyfrol o farddoniaeth a gyhoeddodd i oedolion, sef Dail Pren.

Ffynhonnell y llun, Casgliad y Werin
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bu farw Waldo Williams yn 66 oed ar 20 Mai, 1971

Dywedodd y Parchedig Eirian Wyn Lewis, Cadeirydd Cymdeithas Waldo: "Y syniad yw bod pobl yn rhoi ar ddarn o bapur neu gardfwrdd ei hoff frawddeg neu linellau o farddoniaeth Waldo, oblegid bod hynny yn pontio gyda theitl ei gyfrol, Dail Pren."

Penderfynodd y Parchedig Lewis i ddewis llinell o'r gerdd Preseli a ysgrifennwyd ym 1946 "am fod y gerdd honno yn benodol i wneud 芒'r fro hon".

"Ni'n cael ein hatgoffa yn y gerdd hon o'r brwydro a fuodd i ddiogelu'r tir yma. Roedd y tir yma jest a chael ei golli i gyd ar gyfer y Weinyddiaeth Amddiffyn," meddai.

"Fe wnaeth y fro uno gyda'i gilydd i atal hynny rhag digwydd, a Waldo yn ei alltudiaeth yn Lloegr, yn cael ei ysbrydoli i sgrifennu'r gerdd 'ma. Ac mae'n annog ar ddiwedd y gerdd: 'Cadwn y mur rhag y bwystfil, cadwn y ffynnon rhag y baw'."

Ffynhonnell y llun, Hefin Wyn/Facebook Clychau Clochog

Un sydd yn edmygu ei waith ydy'r Athro Mererid Hopwood o Brifysgol Aberystwyth, Llywydd Anrhydeddus Cymdeithas Waldo.

"Argyhoeddiad fawr Waldo oedd bod angen sefydlu trefn lle 'da ni'n gweld ein gilydd fel brodyr a chwiorydd: y frawdoliaeth neu'r chwaeroliaeth wedwn ni," meddai.

"Mae hwnna yn berthnasol heddi' fel fuodd e erioed. Ynghlwm 芒 hynny mae ei heddychiaeth. Mae yna ryfeloedd yn digwydd yn y byd.

"Ni'n gwybod am y penawdau: Israel a Phalesteina, ond tu 么l i'r penawdau mae Yemen, Somali. Mae 'sbel da ni fynd cyn i ni wireddu gweledigaeth Waldo."

Pynciau cysylltiedig