Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Drakeford: 'Cytundeb masnach Awstralia'n peryglu'r Gymraeg'
Mae cadarnleoedd y Gymraeg dan fygythiad dros delerau cytundeb masnach Awstralia sydd dan ofal Llywodraeth y DU, yn 么l Prif Weinidog Cymru.
Dywedodd Mark Drakeford wrth y 大象传媒 ei fod yn poeni nid yn unig am "effaith economaidd y fargen bosib hon ond hefyd ei heffaith ar ddyfodol ein cymunedau".
Mae'n gwrthwynebu cynigion i roi mynediad i farchnad y DU i gynhyrchwyr cig oen a chig eidion Awstralia heb unrhyw drethi na chwot芒u ar fewnforion.
Mae arweinydd undeb eisoes wedi dweud bod ffermwyr Cymru yn "arbennig o bryderus" am y trafodaethau.
'Y pethau sy'n gwneud Cymru'n Gymru'
Mynegodd Mr Drakeford bryder hefyd ynghylch yr effaith bosib ar hunaniaeth "cadarnleoedd sy'n siarad Cymraeg".
"Rydyn ni'n siarad yma am y pethau sy'n gwneud Cymru'n Gymru. Dyna sydd yn y fantol yma," meddai.
Dywedodd y Prif Weinidog ei fod eisiau gweld "cae chwarae gwastad" a olygai drefn treth a chwot芒u sy'n ystyried yr anhawster sy'n wynebu cynhyrchwyr Cymru wrth gystadlu 芒'u cystadleuwyr yn Awstralia.
"Sut gall ein ffermwyr mynydd gystadlu 芒 hinsoddau Awstralia, sut y gall ein ffermwyr mynydd gystadlu 芒'r gofod sydd ar gael ar gyfer y ffermydd enfawr sydd ganddyn nhw yn Awstralia?"
Mynegodd Mr Drakeford bryder hefyd y gallai'r cytundeb ag Awstralia gyfaddawdu mynediad ffermwyr 诺yn o Gymru i'w prif farchnad allforio, sef Ewrop.
Ar 么l Brexit, mae Llywodraeth y DU yn ceisio trafod amrywiaeth o fargeinion masnach newydd gyda gwledydd ledled y byd.
Dywedodd Mr Drakeford ei fod wedi mynegi ei bryderon i uwch weinidog Llywodraeth y DU, Michael Gove, a oedd wedi addo eu trosglwyddo i'w gyd-weinidogion.
Cwestiynu 'diffyg uchelgais'
Fe wnaeth y Prif Weinidog Boris Johnson amddiffyn y fargen arfaethedig yn Nh欧'r Cyffredin ddydd Mercher.
Pan ofynnodd AS Plaid Cymru Hywel Williams iddo ddiystyru cynnig mynediad di-dreth i fewnforion cig o Awstralia, awgrymodd Mr Johnson nad oedd gan Mr Williams "uchelgais" ar gyfer agor marchnadoedd newydd i ffermwyr cig oen o Gymru.
Dywedodd Boris Johnson: "Byddaf yn cefnogi ffermwyr Prydain a ffermwyr Cymru wrth allforio eu cig oen gwych ledled y byd.
"Mae'n warth nad yw un darn o gig oen o Gymru wedi mynd heibio gwefusau'r Americanwyr yn yr 20 mlynedd diwethaf neu fwy.
"Beth am China? Onid oes ganddo uchelgais i bobl y wlad hon [y Deyrnas Unedig] nac i bobl Cymru nac i ffermwyr Cymru?"
Mae gweinidogion wedi'u rhannu ynghylch a ddylid caniat谩u mynediad di-dariff i farchnad y DU ar gyfer nwyddau amaethyddol.
Bydd cabinet Llywodraeth y DU yn cyfarfod ddydd Iau i drafod y mater.