Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
RNLI: Pryder am ddiogelwch dros yr 'haf prysuraf'
Mae pryder am ddiogelwch ar draethau Cymru wrth i'r RNLI ragweld yr "haf prysuraf erioed" mewn ardaloedd arfordirol eleni.
Wrth i gyfyngiadau coronafeirws gael eu llacio mae disgwyl i fwy o bobl fynd ar eu gwyliau o fewn y DU.
Mae'r RNLI yng Nghymru wedi lansio ymgyrch ddiogelwch newydd wedi i arolwg ar draws y DU awgrymu bod 30 miliwn o bobl yn bwriadu mynd i'r arfordir dros yr haf.
Bydd yr ymgyrch - sy'n annog pobl i fynd ar draethau gydag achubwyr bywyd arnynt - yn cael ei lansio cyn penwythnos G诺yl y Banc a gwyliau hanner tymor.
Mae'r elusen hefyd wedi ymuno ag arbenigwyr ym Mhrifysgol Bangor i gydweithio ac archwilio'r ffyrdd gorau o gadw pobl yn ddiogel.
75% o bobl i ymweld 芒'r arfordir
Yn yr arolwg a gomisiynwyd gan yr RNLI, mae 75% o'r 1,007 o bobl a gafodd eu holi yn gobeithio ymweld 芒 thraeth yn y DU rhwng Ebrill a Medi - gyda thua hanner rheiny'n debygol o wneud hynny dair gwaith neu fwy.
Dywedodd dros draean (36%) hefyd eu bod yn bwriadu ymweld 芒'r arfordir yn fwy na'r arfer eleni o'i gymharu 芒 2020.
Dywedodd Chris Cousens, Arweinydd Diogelwch D诺r yr RNLI yng Nghymru: "Rydym yn disgwyl i'r haf hwn fod y prysuraf erioed i'n hachubwyr bywyd a chriwiau bad achub gwirfoddol yng Nghymru ac mae ffigyrau'r arolwg yn ategu hynny.
"Gyda golygfeydd syfrdanol a thraethau ysblennydd, rydym yn sicr y bydd pobl yn heidio i arfordir Cymru ac rydym eisiau i bobl fwynhau.
"Fodd bynnag, rydym yn annog pawb i barchu'r d诺r, i feddwl am eu diogelwch eu hunain, ac i wybod beth i'w wneud mewn argyfwng."
Ychwanegodd: "Ein prif gyngor yw i bobl ymweld 芒 thraeth achub bywyd ac i nofio rhwng y baneri coch a melyn."
Bydd achubwyr yr RNLI yn gwasanaethu ar oddeutu 245 o draethau yr haf hwn er mwyn cynnig cyngor ac i helpu unrhyw un sydd mewn trafferth.
'Lot mwy o bwysau'
Dywedodd Roger Bowen, Rheolwr Bad Achub Porth Tywyn yn Sir G芒r, y bydd "lot mwy o bwysau" ar ei griw eleni.
"Mae'r tywydd yn mynd i fod yn well na be' oedd o flwyddyn diwetha' a bydd lot mwy o bobl yn dod tuag at y m么r," meddai.
"Bydd lot ddim yn gwybod be' yw'r pwyntiau o safbwynt diogelwch yngl欧n 芒'r m么r a'r llanw sydd gyda ni yng Nghymru, yn enwedig gyda ni yma ym Mhorth Tywyn."
Dywedodd Mr Bowen bod Bad Achub Porth Tywyn wedi derbyn 75 o alwadau yn 2020 - y nifer uchaf ers 1973.
Hyd yn hyn y flwyddyn hon, mae'r orsaf wedi derbyn 22 o alwadau o'i gymharu 芒 chwe galwad o fewn yr un cyfnod y flwyddyn ddiwethaf.
"Mae'r trend yn tueddu i fynd tuag at fwy a mwy o alwadau gyda phob gorsaf yng Nghymru ar y foment," meddai.
Wrth i bobl ddychwelyd i'r gweithle yn dilyn cyfnodau clo, dywedodd Mr Bowen bod hynny'n wir am ei griw hefyd, a bod llai o wirfoddolwyr ar gael yn ystod y dydd - yn enwedig rhwng 9:00 a 15:30.
"Y peth mwyaf pwysig yw i bobl fod yn ymwybodol o amseroedd y llanw ac os yw plant yn mynd i'r traeth, iddynt ddweud wrth eu rhieni ble maen nhw'n mynd, a'r amser y maent yn gobeithio dod adref.
"Ac i fod yn onest, peidiwch mynd ar ben eich hun."
'Arnofiwch i Fyw'
Os oedd rhywun mewn perygl mewn d诺r oer, mae'r RNLI yn argymell arnofio ar eu cefn i ddisgwyl i effaith sioc y d诺r oer basio, er mwyn medru rheoli eu hanadl unwaith eto.
Yna mae modd ceisio symud yn ddiogel.
Os ydy rhywun mewn trafferth, y cyngor ydy i ffonio 999 a gofyn am Wylwyr y Glannau, a byddan nhw'n anfon cymorth.
Ni ddylid cymryd risg i geisio achub rhywun, ond os oes achubwyr bywyd gerllaw, galwch arnynt.
Er y cynnydd mewn galwadau, nid yw pawb sy'n mynd i drafferth bob amser yn y d诺r yn barod.
Mae ystadegau'r RNLI yng Nghymru'n dangos bod cerddwyr sy'n mynd yn sownd oherwydd y llanw wedi achosi bron i 10% o holl lansiadau badau'r RNLI dros y degawd diwethaf - mwy na dwbl cyfartaledd y DU.
O'r herwydd mae'r RNLI wedi ymuno ag arbenigwyr ym Mhrifysgol Bangor i bobl gael gwell dealltwriaeth o'r llanw a'r risgiau cysylltiedig ar yr arfordir.
Fel rhan o brosiect hirdymor, bydd arolwg i gael gwell dealltwriaeth o wybodaeth pobl er mwyn gallu archwilio'r ymyriadau priodol yn effeithiol.
Dywedodd Martin Austin o Brifysgol Bangor mai'r gobaith ydy "gwella ein gallu i ragweld sut mae traethau yn newid, ac i adnabod y peryglon y maent yn medru eu cyflwyno i'r bobl sy'n eu defnyddio".
"Dysgu pobl am y peryglon yw'r ffordd orau i'w cadw yn ddiogel ar ein harfordir hardd," meddai.