Cais statws byd-eang i ardal y chwareli'n 'codi balchder'

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, A fydd llefydd fel Chwarel Dinorwig yn elwa o gael statws UNESCO?

Mae'r cais i gael Safle Treftadaeth Byd i ardal chwarelyddol y gogledd-orllewin wedi "codi balchder" o fewn y cymunedau, yn 么l aelod cabinet y cyngor sir.

Yn ystod haf 2021 bydd UNESCO yn penderfynu os yw Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru yn haeddu statws Safle Treftadaeth Byd.

Mae Cyngor Gwynedd, ynghyd 芒 nifer o bartneriaid eraill, wedi bod yn datblygu'r cais ers peth amser.

Y gobaith ydy y bydd dynodi'r ardal - fydd yn yr un dosbarth 芒'r Taj Mahal yn India, y Pyramidiau yn yr Aifft a theml Ankor Watt yn Cambodia - yn arwain at adfywiad economaidd a chymdeithasol yn y gogledd orllewin.

Mae yna dri safle treftadaeth y byd eisoes wedi eu dynodi yng Nghymru - Traphont Dd诺r Pontcysyllte, Tirwedd Ddiwydiannol Blaenafon a Chestyll Edward y Cyntaf.

Y gobaith r诺an ydy y bydd ardal y llechi yng Ngwynedd, yn cynnwys Dyffryn Ogwen, Dyffryn Nantlle a Ffestiniog, yn cael ei ddynodi hefyd.

Disgrifiad o'r llun, "Mae'n bwysig iawn i ni ddathlu ein treftadaeth," meddai Gareth Thomas

Dywedodd Gareth Thomas, aelod cabinet Datblygu'r Economi a Chymuned ar Gyngor Gwynedd: "Mae bob un wlad yn y byd efo llechi o Wynedd arno fo'n rwla a ma'n bwysig bod ni'n dathlu hynna.

"Y benefits mwya' [o gael y statws] fydda codi hyder pobl sy'n byw yn y cymunedau llechi, ma' cael yr enwebiad yma'n rhoi hyder a balchder i bobl yn eu treftadaeth a'u hiaith a'u diwydiant a ma' hynny'n gorfod bod yn beth da.

"Mae tua 10 mlynedd o waith wedi mynd mewn i hyn. Mae 'na waith caled i gael yr enwebiad yma lle mae o.

"Y prif reswm 'da ni'n datblygu hwn ydy codi balchder y cymuneda' a cael bobl leol i ailgysylltu efo'u treftadaeth a'u cyn-deidiau a hwnna 'di'r peth pwysig i mi.

"Mae'n amlwg y byddan ni'n siomedig iawn os na gawn ni'r enwebiad ond ma'r siwrna ei hun wedi bod yn bwysig a ma'r balchder sydd wedi codi yn y cymuneda' llechi wedi bod yn werth 'neud beth bynnag."

Yn y cyfamser, bu Ifor ap Glyn, Bardd Cenedlaethol Cymru yn cynnal taith Lle-CHI yr wythnos hon.

Bwriad y daith gerdded yw dathlu archaeoleg ddiwydiannol ardaloedd chwarelyddol gogledd Cymru, a'u gwaddol diwylliannol sylweddol, yn llenyddol, yn gerddorol ac yn ysbrydol.