Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Y farchnad dai yn profi cyfnod 'gwallgof'
Mae pobl yn gwneud cynigion i brynu tai heb hyd yn oed eu gweld, meddai asiantaethau, wrth i'r diwydiant brofi cyfnod "gwallgof".
Cymru sydd wedi profi'r cynnydd mwyaf yn y DU o ran prisiau tai, gyda'r pris gwerthu wedi cynyddu 11% ar gyfartaledd dros y flwyddyn ddiwethaf.
Dywedodd asiantaethau a gwerthwyr ledled Cymru eu bod yn gyson yn gweld pobl yn gwneud cynigion cyn mynd i weld y t欧 gan fod tai yn gwerthu mor sydyn.
Mae nifer o asiantaethau tai yn dweud eu bod yn gweld tai yn cael eu gwerthu o fewn oriau ar rai achlysuron, ac yn aml gyda dwsinau o gynigion.
Ond mae pryder bod marchnad mor gystadleuol yn atal rhai rhag symud, a bod rhai sydd wedi cytuno i werthu yn ei chael yn anodd canfod cartref newydd.
Mae Megan Davies, bydwraig 23 oed o Aberd芒r, yn ceisio canfod t欧 gyda'i phartner.
Fis diwethaf bu rhai pobl yn ciwio dros nos tu allan i swyddfeydd un cwmni gwerthu tai yn y dref, cymaint yw'r galw am gartrefi yno.
Dywedodd Ms Davies ei bod wedi gwerthu ei th欧 o fewn oriau o'i roi ar y farchnad, a bod ei phartner wedi cael cynnig ar ei un ef cyn iddo gael unrhyw un yn dod i'w weld.
Ond mae'r cwpl wedi ei chael yn anodd canfod t欧 newydd, gyda Ms Davies yn dweud bod nifer o'r tai maen nhw wedi mynd i'w gweld yn gwerthu am hyd at 拢30,000 dros y pris gofyn.
"Mae 'na gymaint o gystadleuaeth allan yna ar y funud yn Aberd芒r, mae'n wallgo'," meddai.
"Fe wnaethon ni weld t欧 heddiw, ac o fewn 15 munud o gael ei roi ar y farchnad fe gafod ni wybod nad oedd ganddyn nhw lefydd ar 么l i fynd i'w weld."
Dywedodd Mel John, sy'n gwerthu tai yng Nghaerffili, ei bod wedi gweld mwy o enghreifftiau o "gazumping", ble mae gwerthwr yn mynd yn 么l ar eu haddewid i werthu t欧 i rywun wedi iddyn nhw gael cynnig gwell.
Ychwanegodd bod asiantaethau yn teimlo dros y rheiny sy'n colli allan ar gartrefi yn gyson.
"Mae 'na lawer o brynwyr mas 'na," meddai.
"Mae hi'n anodd iawn, yn enwedig i bobl ifanc sy'n prynu am y tro cyntaf ac sydd ond yn gallu fforddio cymaint - ble mae buddsoddwyr hefyd yn chwilio am tua'r un pris."
"Maen nhw mor awyddus i gael t欧 ond mae cymaint o gystadleuaeth, a phenderfyniad y gwerthwr yw e ar ddiwedd y dydd."
Ond yng ngogledd a gorllewin Cymru mae sefyllfa'r farchnad wedi amlygu'r ddadl am ail gartrefi, a'r pryder nad ydy pobl leol yn gallu fforddio i fyw yn eu cymunedau genedigol.
Dywedodd James Scudder, sy'n gyfarwyddwr ar asiantaeth yn Sir Benfro, ei fod yn gweld mwy a mwy yn croesi'r ffin o Loegr i chwilio am gartref parhaol yng Nghymru.
"Fe fyddwn i'n dweud bod 95% o'r ymholiadau ry'n ni'n eu cael yn dod gan bobl o du allan i'r ardal," meddai.
"Mae Sir Benfro wastad wedi bod yn ddeniadol i bobl sy'n prynu ail gartref, ond nawr ry'n ni'n gweld mwy yn symud yma ar gyfer eu prif gartref."