Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Guto Harri i ymuno gyda sianel newydd GB News
Mae'r sianel deledu newydd GB News wedi cyhoeddi bod y newyddiadurwr Guto Harri yn ymuno gyda'u t卯m darlledu.
Wedi gyrfa 18 mlynedd gyda'r 大象传媒, aeth Mr Harri i weithio fel pennaeth cyfathrebu i Boris Johnson pan oedd yn Faer Llundain.
Mae hefyd wedi ysgrifennu colofnau i nifer o bapurau newydd gan gynnwys y Times a'r Daily Telegraph, ac mae'n sylwebydd cyson ar raglenni LBC, Sky a'r 大象传媒.
Ef hefyd yw cyflwynydd Y Byd Yn Ei Le ar S4C, ac fe ddywedodd datganiad GB News y bydd yn parhau i wneud hynny yn y dyfodol.
Ar hyn o bryd mae'n ymgynghorydd i'r cwmni cysylltiadau cyhoeddus Hawthorn Advisers, ac fe fu hefyd mewn swyddi blaenllaw gyda News UK a Liberty Global.
Yn natganiad y cwmni, dywedodd Guto Harri: "Mae GB News yn arloesi mewn ffordd newydd gyda newyddion a thrafodaeth deledu egn茂ol ac eofn, ac mae hynny'n apelio'n fawr ata i.
"Yn bwysicaf oll mae'r sianel yn benderfynol o adlewyrchu a pharchu ystod eang o safbwyntiau eu cynulleidfa ar draws y DU."