Drakeford: Dim 'un datrysiad syml' i broblem ail gartrefi

Disgrifiad o'r llun, Mae pobl wedi bod yn casglu mewn gwahanol bentrefi ym Mhen Ll欧n ddydd Sadwrn er mwyn tynnu sylw at y broblem

Mae Prif Weinidog Cymru wedi addo cyfres o fesurau i helpu pobl leol i brynu cartrefi yn eu hardaloedd eu hunain a mynd i'r afael 芒'r hyn sy'n cael ei ddisgrifio fel "argyfwng ail gartrefi.

Er hynny, rhybuddiodd Mark Drakeford nad oes "un datrysiad syml" i atal pobl rhag prynu tai fel ail gartrefi mewn ardaloedd poblogaidd.

Daw sylwadau Mr Drakeford wrth i bobl gasglu mewn gwahanol bentrefi ym Mhen Ll欧n ddydd Sadwrn er mwyn tynnu sylw at y broblem.

Ymgyrch Hawl i Fyw Adra sydd wedi trefnu'r cyfan er mwyn codi ymwybyddiaeth o'r mater a galw am weithredu gan y llywodraeth.

Disgrifiad o'r llun, Cafodd Capel Bethania ym Mhistyll ei werthu am 拢257,000 yn ddiweddar, gyda chaniat芒d i'w droi'n lety gwyliau

Mae Mr Drakeford eisoes wedi addo fis yma y bydd Llywodraeth Cymru'n gweithredu i geisio datrys yr argyfwng tai yng nghefn gwlad.

Dywedodd fod Llywodraeth Cymru yn ystyried opsiynau fel newid trethi a rheolau cynllunio.

Ychwanegodd ei fod yn gobeithio y byddai'r cynlluniau'n helpu pobl ifanc sydd ddim yn gallu fforddio aros yn eu hardaloedd genedigol oherwydd prisiau tai.

"Bydd cymysgedd o fesurau. Bydd rhai i wneud 芒 threthi ar werthiannau tai, bydd rhai'n ymwneud 芒 chynllunio - hawliau y bydd awdurdodau lleol yn gallu eu defnyddio," meddai Mr Drakeford.

"Ni fydd yr un o'r rhain ar eu pen eu hunain yn ddatrysiad, ond os ydyn ni'n cyflwyno cyfres o fesurau allwn ni eu defnyddio yna fe allwn ni wneud gwahaniaeth yn y marchnadoedd tai yn lleol."

Disgrifiad o'r llun, Mae Rhys Tudur wedi rhybuddio y gallai ail gartrefi "fod yn ddiwedd ar ein cymunedau ni"

Dywedodd cadeirydd Cyngor Tref Nefyn, Rhys Tudur bod sefyllfa ail gartrefi wedi gwaethygu i'r lefel bod gan "bobl leol ddim yr hawl sylfaenol i fyw adref yn eu bro".

"Fyddwn ni'n dechrau ym Mhistyll, lle yn ddiweddar cafodd capel y pentre' ei werthu am 拢257,000 - ymhell dros y gofyn bris o 拢120,000," meddai wrth raglen Dros Frecwast 大象传媒 Radio Cymru fore Sadwrn gan egluro'r rheswm dros weithredu.

"Roedd y trigolion lleol wedi 'neud ymgyrch arwrol i brynu'r capel am 拢30,000, ond ma' hi jest yn rhemp... mae prisiau tai yn mynd trwy'r to.

"Nid yn unig fyddwn ni'n Pistyll, fyddwn ni'n symud ymlaen wedyn i Forfa Nefyn, i Edern, i Dudweiliog a Sarn, cyn gorffen yn Aberdaron.

"Does gan bobl leol ddim yr hawl sylfaenol i fyw adref yn eu bro, mae'n cymunedau ni'n prysur ddatgymalu, mae prisiau wedi mynd yn honco bost, a ma'n drist iawn bo' chi'n cael eich magu mewn cymuned, yn teimlo cariad tuag ati, ac wedyn mae'r drws yn cau yn glep yn eich gwyneb chi am fod y prisiau 'di mynd rhy ddrud i chi allu byw yn eich bro.

"Da ni 'di cael sawl ton o ail gartrefi yn cael eu prynu, ond tro 'ma mae 'na swnami wedi ein hitio ni - a fedrith hi fod yn ddiwedd ar ein cymunedau ni."

'Effaith fawr ar gymunedau'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod "eisiau i bawb allu cael mynediad at dai fforddiadwy o safon uchel, a dyma pam y byddwn yn adeiladu 20,000 o gartrefi newydd carbon isel ledled Cymru yn ystod y tymor hwn".

"Gall nifer fawr o ail gartrefi mewn cymuned leol gael effaith fawr ar y gymuned honno.

"Cymru ydy'r unig wlad yn y DU sy'n rhoi'r p诺er i awdurdodau lleol godi mwy o dreth cyngor ar adeiladau sydd wedi bod yn wag am gyfnod hir ac ail gartrefi."

Ychwanegodd eu bod hefyd wedi "cynyddu'r lefel uchaf o'r Dreth Trafodiadau Tir" a'u bod yn ystyried pa opsiynau eraill sydd ar gael iddyn nhw a'r ffordd orau o ddefnyddio'r pwerau presennol.