Rob Roberts i wynebu ail g诺yn gan aelod staff benywaidd
- Cyhoeddwyd
Mae Aelod Seneddol Ceidwadol Delyn yn wynebu ail g诺yn seneddol gan aelod o staff benywaidd.
Mae'r cyn aelod o staff seneddol wedi dweud y bydd yn gwneud cwyn annibynnol pellach am Rob Roberts os na fydd yn ymddiswyddo.
Mae negeseuon a welwyd gan 大象传媒 Cymru y llynedd yn dangos Mr Roberts yn gwahodd yr aelod staff i "gael ychydig o hwyl" gydag ef.
Mae cwyn arall a wnaed gan gyn gynorthwyydd seneddol Mr Roberts am gamymddwyn rhywiol yn ei erbyn wedi arwain at yr AS yn cael ei wahardd am chwe wythnos.
Y sefyllfa ar hyn o bryd yw y gall ddychwelyd fel AS wedi'r cyfnod yna o waharddiad.
Mae Mr Roberts wedi cael cais am sylw.
Yn Mehefin 2020 fe wnaeth cyn uwch-gynorthwyydd seneddol gwrywaidd Mr Roberts wneud cwyn camymddygiad rhywiol am yr AS i'r Cynllun Cwynion Annibynnol y Senedd (CCAS).
Cafodd y g诺yn ei hymchwilio gan banel annibynnol arbenigol a gafodd ei sefydlu i ddelio gyda chwynion o aflonyddu a bwlio yn erbyn ASau.
Daeth yr ymchwiliad i ben yr wythnos ddiwethaf gan argymell y dylai'r AS gael ei wahardd o'r senedd am chwe wythnos, ac fe gafodd hynny ei gymeradwyo gan y senedd. Ond ni fydd yr AS yn wynebu deiseb ail-alw - rhywbeth fyddai'n arwain at isetholiad os fyddai digon o'i etholwyr yn cefnogi hynny.
Os yw AS yn cael ei wahardd gan Bwyllgor Safonau'r Senedd am fwy na 10 diwrnod, yna mae'n nhw'n wynebu deiseb ail-alw yn awtomatig.
Ond dyw'r un peth ddim yn wir am gosbau gan y panel annibynnol, ac mae sawl gwleidydd wedi galw hynny'n "ddihangfa cyfreithiol" ac yn galw am newid y gyfraith.
Nawr mae'r aelod o staff benywaidd y gwnaeth Mr Roberts yrru cyfres o negeseuon iddi yn Ebrill 2020 wedi dweud y bydd yn gwneud cwyn arall i CCAS os fydd yn parhau yn y senedd wedi ei waharddiad, ac fe allai hynny arwain at ymchwiliad arall.
Dywedodd wrth 大象传媒 Cymru: "Mae wir yn ffieiddio nifer ohonom fod ganddo'r wyneb i aros yn ei swydd.
"Mae hefyd yn gwneud i ni deimlo'n anniogel y gall ddod n么l ymhen chwe wythnos a bod ar dir y senedd o hyd. Dydw i ddim yn gweithio yn y senedd bellach, ond rwy'n dal i weithio mewn gwleidyddiaeth ac mae'n anodd i mi wneud fy ngwaith weithiau oherwydd dwi'n dal i ddod ar ei draws."
Ychwanegodd bod llawer o bobl mewn gwleidyddiaeth wedi bod yn llafar am yr hyn ddigwyddodd, ond ei bod yn teimlo "nad oes di y gallwn ni wneud".
"Mae'n teimlo fel bod y system yn ein gadael i lawr ychydig. Dwi am wneud popeth y medra i i sicrhau fod y peth iawn yn digwydd, a hoffwn tasen i'n gwybod beth i wneud. Dwi am atal hyn rhag digwydd i unrhyw un arall fyth eto," meddai.
Beth allai ddigwydd nesa?
Mae llywodraeth y DU wedi dweud bod "difrifoldeb" achos yr aelod staff gwrywaidd a'r 'ddihangfa gyfreithiol' a ddaeth i'r amlwg wedi dangos yr angen i adolygu a ddylai deisebau ail-alw gael eu cyhoeddi'n awtomatig am waharddiadau fel hyn yn y dyfodol.
Ond mae gwleidyddion amlwg wedi galw am ffyrdd o gael deiseb ail-alw yn achos Rob Roberts hefyd.
Dywedodd arweinydd T欧'r Cyffredin, Jacob Rees-Mogg mai gadael fyddai'r "peth anrhydeddus" i AS Delyn ei wneud.
Fe wnaeth yr arweinydd cysgodol o'r blaid Lafur, Thangam Debbonaire ddweud ei bod wedi ysgrifennu at Mr Rees-Mogg yn cynnig cydweithio gydag ef i "gau'r ddihangfa gyfreithiol a chwilio am atebion".
Mae Llafur wedi dweud os na fydd Mr Roberts yn ymddiswyddo y byddan nhw'n chwilio am ffyrdd o'i orfodi i wneud hynny, gan gynnwys cyflwyno cynnig i ASau bleidleisio arno yn y senedd.
Fe wnaeth y blaid Geidwadol dynnu chwip y blaid oddi wrth Mr Roberts wedi ymchwiliad y panel annibynnol, ac ymddiheuro i'r unigolyn dan sylw.
Ond fe wnaeth y blaid gau eu hymchwiliad eu hunain i ymddygiad yr AS yn gynharach eleni gan ddweud ei fod wedi "cael cerydd" am ei ymddygiad "annerbyniol" ond y byddai'n parhau yn AS Ceidwadol.
Mae Mr Roberts wedi gwrthod gwneud sylw ar y galwadau am ei ymddiswyddiad, ond fe wnaeth ddatganiad pan ddaeth yr argymhelliad iddo gael ei wahardd am chwe wythnos sy'n dweud bod "y toriad ymddiriedaeth rhwng AS a staff yn gwbl amhriodol ac ni ddylai fod wedi digwydd".
Ond dywedodd ei fod yn bwriadu "gwasanaethu fy etholaeth fel yr wyf wedi gwneud yn y 18 mis ers fy ethol, a dyw'r canlyniad yma ddim yn newid fy mhenderfyniad i sicrhau fod pobl Delyn yn derbyn y cymorth y maen nhw ei angen gyda materion lleol pwysig".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Mai 2021
- Cyhoeddwyd26 Mai 2021
- Cyhoeddwyd25 Mai 2021
- Cyhoeddwyd8 Ebrill 2021
- Cyhoeddwyd21 Gorffennaf 2020