Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Gwario 拢25m ar offer diagnostig ond angen mwy o staff
- Awdur, David Grundy
- Swydd, Gohebydd 大象传媒 Cymru
Bydd 拢25m yn cael ei wario ar offer sy'n helpu dod o hyd i afiechydon gan gynnwys canser.
Nod Llywodraeth Cymru ydy ceisio lleihau rhestrau aros, ond mae 'na alwadau am ragor o arian i hyfforddi a recriwtio staff.
Mae dros hanner miliwn o bobl bellach yn aros am driniaeth gan y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, y byddai 拢25m yn cael ei wario ar offer diagnostig, i helpu i atal "tagfeydd" wrth i gleifion aros i gael triniaeth canser.
"Mi fydd yna oedi, mae'r rhestrau wedi tyfu, ond gall bobl sy'n dioddef o ganser ddim aros," meddai'r Gweinidog Iechyd newydd.
"Dyna pam rydyn ni'n awyddus i sicrhau bod y buddsoddiad hwn yn mynd yn y lle iawn i gael gwared ar y tagfeydd hynny sydd wedi bod yn broblem i ni."
Mae ffigyrau diweddaraf yn dangos fod mwy o bobl nag erioed - 18% o boblogaeth Cymru - yn aros am driniaethau sydd wedi'u cynllunio o flaen llaw.
Roedd 568,367 o bobl ar restrau aros ym mis Mawrth, cynnydd o 24.4% ers yr un amser y llynedd.
Ym mis Mawrth bu'n rhaid i 16,381 o gleifion aros mwy nag wyth wythnos am sgan ar 么l i ymgynghorydd neu feddyg teulu ofyn am un.
Mae hynny bum gwaith yn uwch nag ar yr un pryd y llynedd, ond yn gwymp sylweddol ers y mis blaenorol (20,548 ym mis Chwefror 2021) wrth i fyrddau iechyd ddechrau mynd i'r afael 芒'r rhestrau aros wedi Covid-19.
Mae yna bryderon bod degau o filoedd o bobl wedi peidio 芒 chysylltu 芒'u meddygon teulu oherwydd y pandemig.
Bydd y sganwyr CT newydd yn gwneud gwahaniaeth i gleifion yn 么l yr oncolegydd Sarah Gwynne, sy'n gweithio yn Ysbyty Singleton, Abertawe.
"Mae'r hen un yn 10 oed, mae technoleg wedi symud ymlaen yn ddramatig iawn yn ystod y cyfnod hwnnw.
"Meddyliwch am y gwahaniaeth yn y lluniau ar ff么n symudol newydd o'i gymharu 芒'r un oedd ganddoch chi n么l yn 2011," meddai.
Radiolegwyr yn gadael
Mae 'na groeso i'r cyhoeddiad am yr offer gan Goleg Brenhinol y Radiolegwyr (RCR) ond maen nhw am weld mwy o staff yn defnyddio'r offer newydd.
"Mae'r offer yn mynd i wneud gwahaniaeth i gleifion," meddai Dr Toby Wells o'r RCR.
"Mae angen y peiriannau ond mae angen y radiograffwyr arnoch chi i dynnu'r delweddau, a radiolegwyr a meddygon i ddehongli'r hyn y mae'r sganiau'n ei ddangos - ac mae yna brinder o bob un o'r rheiny," meddai.
Mae'r RCR yn amcangyfrif bod angen i Gymru recriwtio 97 yn fwy o radiolegwyr i ateb y galw cynyddol.
Rhybuddiodd hefyd fod llawer o radiolegwyr yn bwriadu gadael GIG Cymru y flwyddyn nesaf tra bod y rhai sy'n aros yn bwriadu cwtogi eu horiau.
"Mae angen i ni ehangu'r gweithlu yn y maes hwn," meddai Dr Wells.
"Maen nhw wedi cychwyn ac maen nhw wedi rhoi'r pecyn hwn i ni ac maen nhw wedi ariannu mwy o gyfleon hyfforddi radioleg, ond mae angen mwy arnom ni."
Mae'r pryderon yn cael eu hadleisio gan Judi Rhys, Prif Weithredwr Gofal Canser Tenovus.
"Rydyn ni'n gwybod bod tua 35,000 o bobl yng Nghymru 'ar goll' o'r system ar hyn o bryd," meddai.
"Bydd offer diagnostig ychwanegol yn helpu i fynd i'r afael 芒'r rhestrau aros, ond mae angen i ni hefyd fuddsoddi mewn elfennau eraill o'r GIG, gan gynnwys y gweithlu."