'Tebygol iawn': Rhybudd am drydedd don Covid yng Nghymru

Disgrifiad o'r llun, Dywed Eluned Morgan fod yr amrywiolyn Delta yn achos pryder

Mae gweinidog iechyd Cymru wedi dweud ei bod "yn debygol iawn" y bydd trydedd don Covid yng Nghymru a bod hyn yn tanlinellu pwysigrwydd cwblhau'r rhaglen frechu.

Dywedodd Eluned Morgan ar Raglen Dewi Llwyd Radio Cymru fod yr amrywiolyn newydd - amrywiolyn Delta, oedd yn cael ei adnabod fel amrywiolyn India - yn achos pryder.

"Mae'n debygol y cawn ni drydedd ton, y cwestiwn yw pa mor fawr fydd y don yma."

Dywedodd fod y clwstwr yn ardal Llandudno "yn peri gofid ac fe fydd hi yn anodd stopio'r llif o gyfeiriad Lloegr."

"Ond mae'n rhaid pwysleisio pa mor llwyddiannus yw'r cynllun brechu yma gydag 85% o'r boblogaeth wedi cael y dos cyntaf, 45% wedi cael yr ail ddos.

"Mae'n rhaid i ni ddysgu byw gyda'r firws yma a'r cwestiwn wedyn ydy sut y'n ni yn cadw'r NHS yn ddiogel a bod pobl ddim yn mynd i'r ysbytai mewn niferoedd uchel."

Dywedodd byddai'r pythefnos nesa yn "rhoi cyfle i ni i roi'r brechlyn i 300,000 yn rhagor o bobl a hynny yn rhoi amddiffyniad iddyn nhw hefyd."

Disgrifiad o'r llun, Mark Drakeford: 'Mwy o fanylion ddydd Llun'

Ddydd Llun bydd y prif weinidog Dywed Mark Drakeford yn rhoi diweddariad o'r amserlen ar gyfer cynnig dos cyntaf o'r brechlyn coronafeirws i holl oedolion Cymru

Eisoes mewn rhannau o Gymru mae dros ddwy ran o dair o oedolion yn y gr诺p 18 i 29 oed wedi cael pigiad cyntaf, tra bod mwyn na miliwn o bobl wedi cael ail ddos yn 么l ffigyrau Iechyd Cyhoeddus Cymru.

'Ddim yn rhy hwyr'

Dywedodd y prif weinidog wrth raglen Sunday Supplement Radio Wales ei fod yn annog y bobl sydd heb gael eu brechu i wneud hynny er mwy diogelu eu hunain yn erbyn yr amrywiolyn Delta.

"Mae yna dystiolaeth, nid ddim ond yng Nghymru ond o lefydd eraill, nad yw'r brechlyn mor bwerus yn erbyn yr amrywiolyn Delta ag y mae yn erbyn yr amrywiolyn Caint, a dyna pam rydym am fwrw 'mlaen mor gyflym.

"Mae hynny er mwyn cynnig pa bynnag amddiffyniad ac y gallwn gydag ail ddos, oherwydd mae dau ddos yn ymddangos i roi bron yr un lefel o amddiffyniad yn erbyn yr amrywiolyn yma."

Dywedodd y byddai'n rhoi mwy o fanylion am frechu rhagor o oedolion ddydd Llun.

"Erbyn hynny bydd gennym yr holl ffigyrau o'r penwythnos a dwi'n gobeithio gallu rhoi dyddiad eithaf manwl o bryd y byddwn yn gallu cynnig dos cyntaf i holl oedolion Cymru.

"Byddwn ddim yn bell o hynny yn yr wythnos nesa sydd i ddod."

Galwodd hefyd ar y rhai oedd heb ateb i gynnig i gael y brechlyn i wneud hynny.

"Dyw hi byth yn rhy hwyr," meddai.