Cyhoeddi cronfa 拢3m i roi seibiant i ofalwyr di-d芒l

Ffynhonnell y llun, iStock

Disgrifiad o'r llun, Yn 么l cyfrifiad 2011 roedd dros 370,000 o ofalwyr di-d芒l yng Nghymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cronfa gwerth 拢3m er mwyn helpu i ofalwyr di-d芒l yng Nghymru i gael "seibiant neu egwyl fer".

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan y bydd yr arian yn mynd tuag at ymestyn a gwella safon y gwasanaethau seibiant sydd ar gael eisoes.

Y nod ydy sicrhau bod gofalwyr di-d芒l yn cael cyfnodau rheolaidd i ffwrdd o'u cyfrifoldebau gofalu.

A hithau'n Wythnos y Gofalwyr, dywedodd y llywodraeth y bydd y gronfa yn "helpu i gefnogi'r gwaith gwerthfawr sy'n cael ei wneud bob dydd gan ofalwyr di-d芒l".

Faint o ofalwyr di-d芒l sydd yna?

Yn 么l cyfrifiad 2011 roedd dros 370,000 o ofalwyr di-d芒l yng Nghymru, ond mae corff Gofalwyr Cymru yn credu bod y nifer wedi cynyddu tua 100,000 erbyn y cyfnod cyn y pandemig.

Gan ddefnyddio ffigwr y cyfrifiad 10 mlynedd yn 么l byddai'r gronfa newydd yn darparu tua 拢8 y pen i bob gofalwr di-d芒l yng Nghymru.

Ond y llynedd dywedodd Gofalwyr Cymru bod bron i 200,000 yn ychwanegol o bobl wedi ymgymryd 芒 chyfrifoldebau gofalu oherwydd y pandemig, a'u bod yn amcangyfrif bod nifer y gofalwyr di-d芒l yng Nghymru yn 683,000 oherwydd hynny.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Nod y gronfa ydy sicrhau bod gofalwyr di-d芒l yn cael cyfnodau rheolaidd i ffwrdd o'u cyfrifoldebau gofalu

Pwy fydd yn rhannu'r arian?

Bydd y gronfa yn cael ei chyflwyno mewn dau gam.

I ddechrau bydd awdurdodau lleol yn cael 拢1.75m i fodloni'r twf sydyn a ragwelir yn y galw am wasanaethau seibiant, ac yna bydd 拢1.25m yn cyllido'r gronfa ar gyfer galluogi pobl i gael egwyl fer.

Dywedodd Ms Morgan bod "gofalwyr di-d芒l ym mhob cwr o Gymru yn chwarae rhan hanfodol yn ein cymdeithas, ac maen nhw wedi gwneud cyfraniad eithriadol yn ystod y pandemig".

"Maen nhw'n aml wedi ysgwyddo rhagor o gyfrifoldebau, gan gymryd llai o egwyl hefyd," meddai.

"Gall gwasanaethau seibiant gynnig achubiaeth a bydd y gronfa newydd hon yn sicrhau bod gofalwyr di-d芒l yn gallu cael egwyl fer o'u cyfrifoldebau gofalu.

"Nid yw gofalwyr di-d芒l yn cael y gydnabyddiaeth y maen nhw'n ei haeddu gan gymdeithas ac mae'n hanfodol ein bod ni'n eu helpu nhw i ofalu am eu hiechyd a'u llesiant eu hunain."