Menter gymunedol i brynu tafarn yn Llandwrog wedi llwyddo
- Cyhoeddwyd
Mae'r fenter gymunedol i brynu hen dafarn Ty'n Llan ym mhentref Llandwrog, Gwynedd wedi llwyddo.
Roedd angen gwerthu gwerth £400,000 o gyfranddaliadau erbyn hanner nos, nos Wener, 11 Mehefin.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Cafodd galwadau i gefnogi'r fenter eu gwneud gan yr actor Rhys Ifans, y gantores Mared, y digrifwr a'r cyflwynydd radio Tudur Owen a Robin McBryde, ymhlith eraill.
Caeodd drysau'r dafarn yn 2017. Mae'r fenter yn honni y gallai'r adeilad 200 oed wasanaethu fel siop bentref, caffi, a chanolfan gymunedol yn ogystal.
Wrth ymateb dywedodd Siân Gwenllian AS, Arfon yn y Senedd: "Rwy'n falch iawn o glywed am lwyddiant Menter Ty'n Llan i gyrraedd eu targed.
"Mae mentrau fel Menter Ty'n Llan yn hanfodol ar gyfer cynaliadwyedd ein pentrefi bychain, ac mae mentrau cymdeithasol yn rhan bwysig o'r ymdrech i greu cymunedau gwydn.
"Mae goroesiad cymunedau o'r fath yn hanfodol ar gyfer goroesiad y Gymraeg.
"Hoffwn longyfarch y rhai sydd ynghlwm â Menter Ty'n Llan, ac edrychaf ymlaen at gael ymweld."
Mae cyfranddaliadau wedi eu gwerthu ymhell o'r ardal leol hefyd, gyda buddsoddwyr yn Ffrainc, Yr Almaen, Canada, Seland Newydd ac Awstralia, yn ogystal â ledled Cymru a gweddill y DU.
Gobaith y fenter ydy talu llog blynyddol o oddeutu 2% i fuddsoddwyr "unwaith y bydd tair blynedd lawn o fasnachu wedi'i gwblhau ac os cynhyrchir digon o elw".
Bydd unrhyw arian sy'n cael ei godi dros y £350,000, sy'n cael ei ddefnyddio i brynu'r adeilad, yn mynd tuag at wneud ceisiadau am grantiau i adnewyddu'r adeilad.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd25 Chwefror 2021