Cyhoeddi rhestr fer Albwm Cymraeg y Flwyddyn 2021
- Cyhoeddwyd
Mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi rhestr fer Gwobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn 2021.
Dywed trefnwyr bod safon yr albymau'n amlygu cymysgedd "amrywiol o gynnyrch ac artistiaid", a bod eu safon "yn arbennig o uchel" mewn blwyddyn "anodd iawn i'r diwydiannau creadigol".
Nod y gystadleuaeth, sy'n cael ei rhedeg ar y cyd 芒 大象传媒 Radio Cymru, yw "dathlu pob math o gerddoriaeth Gymraeg sy'n cael ei rhyddhau yng Nghymru ar hyn o bryd".
Roedd yn agored i albymau a gafodd eu rhyddhau rhwng 31 Mai 2020 a diwedd Mai eleni.
Y 10 albym ar restr fer 2021
Carw - Maske
Carwyn Ellis & Rio 18 - Mas
Cwtsh - Gyda'n Gilydd
Datblygu - Cwm Gwagle
Elfed Saunders Jones - Gadewaist
Jac Da Trippa - Kim Hong Chon
Mared - Y Drefn
Mr - Feiral
Mr Phormula - Tiwns
Tomos Williams - Cwmwl Tystion
Cafodd y rhestr ei llunio gan banel o feirniaid sy'n rhan o'r diwydiant cerddoriaeth. Y cam cyntaf oedd dewis eu hoff gynnyrch yn ystod y 12 mis cyn pleidleisio dros eu ffefrynnau ar ddiwedd y broses.
Y beirniaid eleni yw Dylan Cernyw, Dylan Hughes, Dylan Jenkins, Eilir Owen Griffiths, Ifan Davies, Marged Gwenllian, Marged Rhys, Nia Mai Daniel, Rhiannon Lewis a Tegwen Bruce Deans.
Bydd enw'r enillydd yn cael ei gyhoeddi yn ystod Eisteddfod AmGen 2021, sy'n cael ei chynnal ar-lein rhwng 31 Gorffennaf a 7 Awst yn lle'r brifwyl arferol sy'n cael ei gohirio tan 2022 oherwydd y pandemig.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Awst 2020